'Cyfnod clo arall yn y flwyddyn newydd,' medd gweinidog

  • Cyhoeddwyd
aros adrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyfnod clo arall ar draws Cymru yn y flwyddyn newydd yn edrych yn fwy tebygol, medd un o weinidogion cabinet Llywodraeth Cymru.

Dywed y Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, nad yw'n debygol mai'r cyfnod clo byr hwn fydd yr olaf yng Nghymru a dywed bod disgwyl i Loegr "efelychu" yr un patrwm.

Cyn hyn roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud "nad oeddent yn gallu cadarnhau" y bydd cyfnod clo arall.

Bydd y cyfnod clo presennol yn para tan 9 Tachwedd ac yn cael ei adolygu yn fuan.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales, dywedodd Mr Waters bod tystiolaeth yn awgrymu bod heintiau fel yr un yma yn debygol o achosi mwy nag un ton.

Ychwanegodd: "Nid hwn fydd y cyfnod clo diwethaf ry'n yn debygol o'i gael. Yn yr achos mwyaf difrifol rydyn yn debygol o fod angen cyfnod clo byr ym mis Ionawr neu Chwefror."

Dywedodd hefyd bod Cymru ar hyn o bryd yn profi ail don a bod yr angen am ofal critigol wedi codi 57% yr wythnos hon yn unig a dyna pam ei bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cyfnod clo "byr a chyflym".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyfnod clo cyntaf y DU yn rhy hwyr, medd Lee Waters

Dywed Mr Waters ei fod yn disgwyl i Loegr efelychu Cymru a chael cyfnod clo byr yn fuan tra bod Llywodraeth Cymru yn ceisio bod yn "gyson a gofalus" yn ceisio gostwng nifer yr achosion.

"Ry'n yn gwneud ein gorau i wastatáu y gromlin yna o achosion," meddai. "Allwn ni ddim atal yr haint rhag lledu. Ein gobaith gorau yw aros am frechlyn a fydd yn dod â'r haint o dan reolaeth."

Mae economegwyr wedi rhybuddio y gall y cyfnod clo gostio dros £500m i'r economi ac mae'r Ceidwadwyr yn cyhuddo gweinidogion o beidio cael "cynllun i ddod allan" o hyn.

Clo arall yn destun pryder

Dywed Plaid Cymru ei bod hi'n bwysig bod y system profi ac olrhain yn gwella yn ystod y cyfnod clo byr hwn fel bod modd torri ar y cylch o gael cyfnodau clo cenedlaethol.

"Mae'n destun pryder clywed am gynlluniau i gael mwy o gyfnodau clo byr ar ddechrau y cyfnod presennol," medd y gweinidog iechyd cysgodol Rhun ap Iorwerth.

"Os yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau effeithiol yn ystod y pythefnos nesaf a strategaeth newydd yn y misoedd sydd i ddod, dylid osgoi gorfod dychwelyd i gyfyngiadau tynn cenedlaethol.

"Rhaid i weinidogion ddatrys materion cysylltiedig â phrofi, olrhain, cefnogi ac hunan-ynysu er mwyn i strategaeth newydd dim-Covid weithredu'n llwyddiannus," ychwanegodd.