Covid-19: Y ffigyrau dyddiol uchaf ers mis Mai
- Cyhoeddwyd
Mae 16 yn rhagor o bobl wedi marw o haint coronafeirws ac mae 1,324 o achosion newydd wedi'u cofnodi, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae cyfanswm y rhai sydd wedi cael prawf positif bellach yn 41,577 ac mae nifer y rhai sydd wedi marw o ganlyniad i'r haint yn 1,772.
Dyma'r ffigyrau dyddiol uchaf ers mis Mai.
Mae dros filiwn o brofion wedi'u cynnal yng Nghymru ar 691,907 o bobl ond mae 650,330 o'r rhai hynny wedi cael prawf negatif.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nos Wener fe ddaeth cyfnod clo byr i rym i geisio atal yr haint rhag lledu.
Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys marwolaethau mewn ysbytai a dim ond yn cynnwys achosion sydd wedi cael eu cadarnhau ar ôl prawf mewn labordy.
Dyw'r ffigyrau ddim yn cynnwys pobl o Bowys sydd yn cael triniaeth mewn ysbytai yn Lloegr.
CYFNOD CLO BYR: Beth mae'n ei olygu i mi?
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020