Achos Clydach: Cyn-AS yn galw am adolygu'r dystiolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae bargyfreithiwr a chyn-Aelod Seneddol amlwg wedi galw am adolygiad o dystiolaeth newydd yn un o achosion troseddol mwyaf nodedig Cymru.
Ar ôl gwylio rhaglen ddiweddar BBC Wales Investigates ar lofruddiaethau Clydach mae'r cyn-AS Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, wedi dweud y dylai'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) edrych ar y dystiolaeth newydd a godwyd yn y rhaglen.
"Dwi'n credu y dylen nhw adolygu'r dystiolaeth ar fyrder," meddai Mr Llwyd wrth raglen Newyddion S4C.
'Llusgo'u traed'
"Mi roedd yna gryn bryder pan oeddwn i ar y pwyllgor cyfiawnder yn San Steffan bod y trothwy yn llawer rhy uchel ganddyn nhw a'u bod nhw'n llusgo'u traed braidd, yn cymryd blynyddoedd i adolygu yn hytrach nag wythnosau.
"Mae bywydau pobl yn y fantol. Pobl yn cael eu cadw dan glo a misoedd os nad blynyddoedd yn mynd cyn i'r adolygiad ddigwydd.
"Felly liciwn i weld y comisiwn yn edrych ar hyn ar fyrder ac yn cael cyfle i weld rhagor o'r dystiolaeth oedd wedi cael ei gadw rhag yr amddiffyniad."
Cafwyd David Morris yn euog o lofruddio pedwar aelod o'r un teulu yn eu cartref yng Nghlydach ym 1999. Cafodd bedair dedfryd oes o garchar.
Ond yn ôl Elfyn Llwyd, fe allai rheithgor nawr ddod i ganfyddiad gwahanol.
"Dy'n nhw ddim wedi gweld y dystiolaeth newydd. Petaen nhw'n gweld y dystiolaeth yna, efallai y bydden nhw'n dod i benderfyniad gwahanol, dwi ddim yn gwybod."
Dywedodd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) y byddai'n rhaid i David Morris, neu gyfreithwyr ar ei ran, wneud cais am adolygiad cyn y bydden nhw'n medru gwneud hynny.
Fe wnaethon nhw nodi ei fod eisoes wedi gwneud dau gais sydd wedi eu gwrthod.
Deddf Seneddol sy'n penderfynu'r trothwy ar gyfer anfon achos at y Llys Apêl, ac maen nhw'n dweud bod achosion cymhleth yn gallu cymryd peth amser.
Mae dau o Aelodau Seneddol Cymru, gan gynnwys Tonia Antoniazzi sy'n cynrychioli trigolion Clydach, wedi cadarnhau y byddan nhw'n ymuno â galwad Zoom wedi'i drefnu gan yr ymgyrch i ryddhau David Morris lle bydd cyfle i holi ei dîm cyfreithiol.
Er nad oes cais ffurfiol i adolygu yr achos wedi ei wneud eto, mae rhaglen Newyddion S4C wedi cael cadarnhad y bydd hynny'n digwydd cyn hir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2017