Nifer marwolaethau Covid-19 Cymru wedi mwy na dyblu

  • Cyhoeddwyd
MeddygFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y marwolaethau Covid-19 yng Nghymru wedi mwy na dyblu yn ôl ystadegau wythnosol diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd na 25 marwolaeth yn ymwneud â Covid-19 yn yr wythnos ddaeth i ben ar 2 Hydref, o'i gymharu gyda 12 yn ystod yr wythnos flaenorol.

Roedd hyn yn cynnwys 10 marwolaeth yn ardal Rhondda Cynon Taf, lle mae clwstwr o achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi arwain at 25 o farwolaethau hyd at ddydd Iau diwethaf.

Pan roedd y pandemig ar ei waethaf ym mis Ebrill, roedd na 413 o farwolaethau yn ystod un wythnos yng Nghymru.

Yn ystod yr wythnos ddaeth i ben ar 2 Hydref, roedd ardal Rhondda Cynon Taf wedi cofnodi y trydydd nifer uchaf o farwolaethau Covid-19 mewn unrhyw ardal yng Nghymru a Lloegr.

Roedd hyn ychydig y tu ôl i nifer y marwolaethau yn Tameside, oedd wedi cofnodi 13 marwolaeth mewn ysbyty, a Lerpwl gyda 11 marwolaeth.

Gogledd Orllewin Lloegr welodd y nifer fwyaf o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 - 106 o farwolaethau - a hefyd y gyfran uchaf o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 , sef 8.1%.

Bellach mae ardal Rhondda Cynon Taf wedi codi i'r rhestr o'r 20 ardal sydd wedi eu taro waethaf o ran cyfraddau marwolaethau coronafeirws - gyda 133.6 o farwolaethau ymhob 100,000 o'r boblogaeth.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ffigurau dyddiol eu hunain, a hynny dim ond pan fydd Covid-19 wedi'i gadarnhau mewn labordy ac yn ymwneud yn bennaf â marwolaethau mewn ysbytai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth cyfyngiadau llymach i rym yn Rhondda Cynon Taf ganol mis Medi er mwyn ceisio atal coronafeirws rhag lledaenu yn y sir

Er bod ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach, maen nhw'n cynnwys marwolaethau mewn cartrefi gofal, cartrefi, hosbisau ac mewn sefydliadau cymunedol eraill.

Pan fydd marwolaethau wedi'u cofrestru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gall eu ffigyrau gynnwys achosion o Covid-19 lle mae meddyg yn amau ​​fod yr haint wedi chwarae rhan yn y marwolaethau.

Mae eu hystadegau diweddaraf yn golygu fod 2,612 o farwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru hyd yma.

Mae marwolaethau 'gormodol' - 'excess deaths' - sy'n cymharu pob marwolaeth gofrestredig gyda'r blynyddoedd blaenorol, yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf.

Mae edrych ar nifer y marwolaethau fyddai'n digwydd yn arferol ar yr adeg yma o'r flwyddyn yn cael ei ystyried yn linyn mesur defnyddiol o ddatblygiad y pandemig.

Yng Nghymru, cynyddodd nifer y marwolaethau i 671 yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, sef 84 o farwolaethau yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.

Roedd 296 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yn Lloegr, 20 yn yr Alban, a dwy farwolaeth yng Ngogledd Iwerddon yn ystod yr wythnos ddiweddaraf.