Galw am adolygu amseroedd rhyddhau cleifion ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae uwch feddygon wedi galw am adolygiad o sut mae cleifion yn cael eu rhyddhau o ysbytai yn ystod y pandemig.
Dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon fod canllawiau Llywodraeth Cymru yn achosi oedi ac yn ychwanegu pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Ychwanegodd y coleg fod cleifion oedd wedi gwella yn cael eu cadw i mewn yn hirach na sydd angen, gan gymryd gwelyau oedd eu hangen ar gleifion eraill.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr heriau presennol yn rhai "digynsail" ond eu bod nhw wedi diweddaru eu canllawiau er mwyn sicrhau bod modd rhyddhau cleifion "mor sydyn a saff â phosib".
Mae disgwyl i'r ystadegau diweddaraf ar sut mae ysbytai yn perfformio yn ystod y pandemig gael eu cyhoeddi fore dydd Iau.
Daw hyn wrth i'r corff sy'n cynrychioli llawfeddygon alw am ddychwelyd at gyhoeddi ffigurau ar ba mor hir y mae pobl yn aros am lawdriniaethau, gan godi pryderon bod cleifion yn dirywio oherwydd cynllun adfer "tameidiog ac anghyson".
Cyhoeddwyd y canllawiau gwreiddiol ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty yng Nghymru yn ystod y pandemig ym mis Ebrill, ac fe gawson nhw eu diweddaru ym mis Gorffennaf.
O dan rai amgylchiadau, mae'n dweud bod yn rhaid i gleifion fod mewn sefyllfa i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt adael, ac os nad yw hyn yn bosibl dylid eu trosglwyddo i "gyfleuster camu-i-lawr addas".
Ond dywedodd Dr Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru fod hyn yn arwain at "dagfeydd" mewn ysbytai.
"Un o'r heriau rydyn ni'n eu gweld ar hyn o bryd yw bod oedi mewn gwirionedd wrth gael pobl yn ôl i'w hardal breswyl arferol oherwydd bod canllawiau'n cael eu rhoi o gwmpas yr amser y mae'n rhaid iddyn nhw aros yn yr ysbyty yn rhydd o symptomau Covid, a gyda phrofion negyddol," meddai.
"O ganlyniad mae hyn yn achosi mwy o ddefnydd o welyau ysbyty... a dydyn ni ddim yn gallu derbyn cleifion newydd sydd hefyd angen gofal.
"Rwy'n credu mai'r hyn sy'n arbennig o bryderus yw bod y bobl hyn sydd angen eu rhyddhau bellach yn ffit ac yn iach ac mewn gwirionedd yn rhedeg risg trwy fod yn yr ysbyty am fwy o amser nag y byddai rhywun yn ei ragweld."
Ychwanegodd: "Rwy'n credu bod canlyniadau anfwriadol ceisio amddiffyn ar un pen a gwneud niwed yn y pen arall."
Mae Dr Williams yn cydnabod y bu rhywfaint o amharodrwydd i symud cleifion allan i'r gymuned.
Cafodd mwy na 1,000 o gleifion eu rhyddhau i gartrefi gofal heb brofion Covid-19 ar ddechrau'r pandemig.
Cartrefi gofal
Bu cyfanswm o 714 o farwolaethau Covid-19 mewn cartrefi gofal hyd at 16 Hydref, sef 26.5% o'r holl farwolaethau coronafeirws yng Nghymru.
Dywed Dr Williams fod clinigwyr wedi gorfod wynebu penderfyniadau anodd a bod angen dull mwy cyson.
"Rydyn ni'n cydnabod bod niwed wedi'i wneud yn gynharach yn y flwyddyn... ond nawr mewn gwirionedd mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd risg hwnnw rhwng sicrhau nad yw pobl yn dal Covid a sicrhau bod pobl heb Covid yn cael y gofal amserol sydd ei angen arnyn nhw."
Yn y cyfamser dywedodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ei fod yn cael trafferth darganfod o ble mae pwysau yn y system yn dod oherwydd diffyg data.
Cafodd yr holl lawdriniaethau oedd wedi eu cynllunio eu gohirio ym mis Mawrth, meddai, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer ailgydio yn y gwaith ers hynny.
Mae Mr Richard Johnson yn Gyfarwyddwr Cymru ar ran Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr ac yn llawfeddyg ymgynghorol.
"Mae adferiad gwasanaethau llawfeddygol yng Nghymru wedi bod yn dameidiog ac yn anghyson", meddai.
"Mae nifer yr achosion o coronafeirws sydd bellach yn codi ynghyd â phwysau'r gaeaf yn peryglu'r adferiad bregus hwn o lawdriniaethau arfaethedig yng Nghymru.
"Wrth wraidd hyn i gyd mae cleifion sydd wir angen eu llawdriniaeth. Mae llawer mewn poen difrifol, gyda'u cyflyrau'n dirywio wrth aros.
"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi diweddariad i amseroedd aros am driniaeth yng Nghymru.
"Rhaid i ni ddeall ble mae'r pwysau yn y system er mwyn i ni allu cynllunio yn unol â hynny."
'Gwneud popeth allen nhw'
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r heriau o reoli cleifion mewn ysbytai gydag a heb Covid yn ddigynsail.
"Mae'r canllawiau ar gyfer rhyddhau o'r ysbyty, gafodd eu diweddaru ar 2 Gorffennaf, yn sicrhau bod modd rhyddhau i'r gymuned mor sydyn a saff â phosib.
"Rydyn ni wedi bod yn glir y dylai unrhyw weithgaredd brys, gan gynnwys gwaith canser, barhau pan mae'n saff ac o fudd i'r claf."
Ychwanegodd fod byrddau iechyd yn gwneud "popeth allen nhw" i gadw cleifion sydd â Covid-19 oddi wrth cleifion eraill yn yr ysbyty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd25 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020