Galw am ailagor unedau trawsblannu ar frys yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae tad i ddau o blant sydd ar restr aros am aren newydd yn dweud ei fod yn teimlo fel pe bai y gwasanaeth iechyd wedi anghofio amdano wedi i unedau trawsblannu gau.
Mae angen dialysis ar Shaun Ruck, 34 oed, am bedair awr dair gwaith yr wythnos, ac roedd e'n cael triniaeth fel rhan o arbrawf meddygol i geisio sicrhau y byddai ei system imiwnedd yn barod i dderbyn aren newydd.
Ond pan ddaeth yr arbrawf i ben, cau hefyd wnaeth y canolfannau trawsblannu oherwydd y coronafeirws.
Tra bod wyth uned yn Lloegr ac un uned yr Alban wedi ailagor, mae 15 dal ar gau - yn cynnwys yr unig un yng Nghymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Galw am ail-agor
Mae elusen Aren Cymru nawr wedi galw am ei ail-agor gan ddweud y gallai aros yn hwy arwain at farwolaeth rhai cleifion.
Ar ddechrau'r flwyddyn, roedd 201 o gleifion yn aros am drawsblaniad aren yng Nghymru - gan gyfri am 80% o'r holl gleifion sy'n aros am drawsblaniad.
Mae'r rhan fwyaf fel arfer yn digwydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru neu yn uned trawsblannu Lerpwl, sydd hefyd dal ar gau.
Cafodd Mr Ruck ei eni ag arennau oedd heb eu ffurfio'n iawn.
Mae e wedi cael dau drawsblaniad o'r blaen, ond fe wrthododd ei gorff eu cymryd nhw, ac mae wedi bod yn aros am ei drydydd aren ers pedair mlynedd, sy'n golygu bod angen dialysis arno bob dydd.
"Rwy'n colli o leiaf 12 awr yr wythnos yn methu gwneud pethau, fel gwaith," medd Mr Ruck, "Mae'n rhaid i fi jyglo gwaith o gwmpas fy nhriniaeth, ac i fi, mae hynny yn anodd. Dydw i ddim yn gallu mynd am wyliau go iawn gyda fy nheulu gan y byddai'n rhaid i fi gael dialysis dramor.
"Dydw i ddim yn gallu nofio gyda fy mhlant. Rwy'n yfed galwyni o ddŵr yn y tywydd poeth gan nad yw fy arennau yn gweithio bellach. Felly byddai cael yr alwad bod 'na aren sy'n iawn i fi yn rhoi fy mywyd i nôl, 100%."
Angen trawsblaniad
Ar hyn o bryd, tasai aren ar gael, fyddai Mr Ruck ddim yn cael ei chynnig - byddai'n cael ei gynnig i glaf yn un o'r naw uned sydd wedi ail-agor.
"Mae angen trawsblaniad arna i," medd Mr Ruck, "Os daw yr un perffaith i fi, mae angen iddo fe ddigwydd achos gallwn i orfod aros am hydoedd i'r un nesaf ddod."
"Byddai'n meddwl y byd i fi tasai'r ysbyty yn galw ac yn dweud bod ganddyn nhw un gwych i fi. Rwy'n cael trafferth ymdopi a'r dialysis hyd yn oed nawr."
Cafodd yr unedau trawsblannu eu cau oherwydd pryderon y gallai cleifion fod mewn mwy o berygl nag eraill o ddal yr haint yn ystod y pandemig.
Cynllunio ail-agor
Mae Uned Waed a Thrawsblannu'r GIG wedi cyhoeddi canllawiau ar ddiwedd Ebrill ynglŷn a sut y gallai unedau gynllunio ailagor, ond mae'r penderfyniad yn un sy'n rhaid ei wneud yn lleol.
Dywedodd Judith Stone o Aren Cymru: "Mae rhai achosion penodol lle gallai cleifion farw oni bai y cawn nhw drawsblaniad. Hoffem ni weld y cynllun trawsblannu arennau yn ail-ddechrau cynnal llawdriniaethau achos wrth achos gynted ag sy'n bosibl ar gyfer unigolion lle byddai mwy o les na pheryglon."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod trawsblaniadau brys ar gyfer cyflyrau sy'n peryglu bywydau wedi bod yn parhau yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Mae trawsblaniadau aren yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd wedi cael eu gohirio ac maen nhw nawr yn ystyried sut y bydd modd ail-ddechrau yn ddiogel. Mae timau trawsblannu yn gorfod asesu angen claf am aren yn erbyn yr heriau ychwanegol o fod a llai o imiwnedd ar y pryd."
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Mae'r Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd arbenigol yng Nghymru, sy'n comisiynu'r gwasanaeth trawsblannu ar ran Llywodraeth Cymru, wedi dweud eu bod yn gweithio ar y cyd a gwasanaeth trawsblannu Caerdydd i ystyried cynlluniau manwl ar gyfer ail-ddechrau'r gwasanaeth mewn modd diogel.
Yn ôl llefarydd, "Yn ganolog i'r cynlluniau yma mae cydnabyddiaeth bod feirws COVID-19 dal yn bresennol yn y gymdeithas a bod cleifion aren a thrawsblannu yn fregus tu hwnt ac felly wedi cael cyngor i warchod rhag y feirws."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2019