O Siop Siafins i Rybish - a Bollywood yn y canol
- Cyhoeddwyd
Os ydi bywyd actor yn gallu bod yn anwadal, mae gyrfa Dyfed Thomas yn siŵr o fod yn brawf o hynny.
Aeth o chwarae rhan un o gymeriadau mwyaf adnabyddus ar deledu Cymraeg i fethu cael gwaith actio o gwbl.
Roedd rhaid newid cyfeiriad, felly dechreuodd deithio nôl ac ymlaen o India yn gweithio ar sgriptiau Bollywood. Yna ymddeol, cyn derbyn galwad ffôn annisgwyl yn cynnig rhan mewn comedi sy'n torri cwys newydd ar S4C.
I genhedlaeth o Gymry, mae Dyfed Thomas yn adnabyddus fel Brian Lloyd Jones, y cymeriad roedd o'n ei bortreadu mewn cyfres boblogaidd i blant gafodd ei darlledu gyntaf yn 1979.
"Yn nyddiau Siop Siafins pan oedd pawb yn fy adnabod fel Brian Lloyd Jones, o'n i'n meddwl daw'r enwogrwydd byth i ben," meddai. "Ond mi wnaeth, ac mi wnaeth hynny fy nharo i lawr i ddweud y gwir."
Er iddo gael nifer o rannau actio ar draws Prydain dros y blynyddoedd, fe gafodd hefyd gyfnodau pan roedd y gwaith yn anodd i'w gael.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dwi heb gael rhan ers blynyddoedd - mae tua 10 mlynedd dwi'n siŵr. Dwi wedi cael ambell beth, ymddangosiadau fel Hywel Ffiaidd (ei gymeriad pync-roc) adeg yr Eisteddfod, ond dim rhan iawn.
"Mae'n dorcalonnus mynd am glyweliadau a chael dy wrthod - mae'n beth ofnadwy ac yn effeithio rhywun.
"Rwyt ti'n paratoi i gael dy wrthod ac ro'n i'n cael fy ngwrthod ar ôl gwrthod.
"Fyddwn i'n teithio lawr i Lundain, treulio'r diwrnod yna, weithiau'n cael clyweliad dim ond am ddau funud a fyddai nhw weithiau ddim hyd yn oed yn dy ffonio di'n ôl."
Heb fedru cael gwaith actio, fe fachodd ar gyfle mewn gwlad lle'r oedd y byd ffilmiau yn ffynnu - India.
Bollywood
Roedd ffrind iddo yn byw ac yn gweithio yno ac fe wnaeth y ddau sefydlu cwmni i sgwennu sgriptiau a cheisio eu gwerthu i Bollywood.
Dros y ddegawd ddiwethaf mae wedi bod i India tua 20 o weithiau, meddai.
"Roedda ni wedi sgwennu wyth ffilm efo'n gilydd a gawsom ni un drwodd yn India a ges i'r cyfle i fynd i Bollywood, yn Bombay.
"Mae'n broses ddifyr iawn yn Bollywood. Yn ogystal â'r ffilmiau lolipop, fel maen nhw'n cael eu galw, sef y rhai llawn cerddoriaeth a'r ffilmiau lliwgar - mae yna ran arall o'r diwydiant, ac mae thrillers yn boblogaidd iawn."
Un o'r sgriptiau ffilmiau cyffrous iddo sgwennu ydi addasiad o Making the God Dance. Fe gafodd o'r gwaith ar ôl cyfarfod awdur y nofel Ajaybir Garkal yn India.
"Dwi wedi newid o ychydig i'w wneud yn fwy derbyniol i gynulleidfa ryngwladol. Ryda ni wedi trio'i gael o wedi ei wneud yn ffilm ond mae'n anodd iawn, iawn.
"Mae lot o bobl yn gallu sgwennu ffilm, ond mae'n beth gwahanol iawn i'w gwerthu nhw a chodi £30m.
"Mi ryda ni wedi mynd reit bell efo rhai ac wedyn pan mae rhywun yn cael ei wrthod mae'n ofnadwy achos mae rhywun wedi tueddu i drafod erbyn hynny pwy i gastio, faint o arian sydd ei angen, ac wedyn... wap - tydi o'n werth dim byd.
"Ond dwi wedi bod yn India lot dros y blynyddoedd ac wedi cael y fraint o deithio yno a chyfarfod lot fawr o bobl."
Rybish
Ac fel pob ffilm dda, mae tro annisgwyl yn stori Dyfed Thomas hefyd.
Ar ôl "mwy neu lai ymddeol", fe gafodd alwad annisgwyl i fod yn rhan o gyfres gomedi newydd ar S4C.
Mae Rybish eisoes wedi creu hanes cyn cael ei darlledu gan mai dyma'r gyfres gomedi gyntaf i gael ei chwblhau yn ystod y cyfnod clo.
Roedd hanner y gwaith ffilmio wedi ei wneud pan ddaeth Covid-19 â phopeth i stop. Ar ôl cyfnod, llwyddwyd i ail-afael yn y gwaith drwy greu 'bybl'. Ar ôl i'r cast a'r criw i gyd brofi'n negyddol am coronafeirws, roedd yn rhaid i bawb aros gyda'i gilydd mewn gwesty lleol trwy gydol y cyfnod ffilmio.
Mae Dyfed Thomas yn dweud bod y profiad wedi dod ag atgofion o gyfnod cynharach yn ei yrfa fel actor.
"Efallai gan ein bod ni'n byw efo'n gilydd am y cyfnod, roedd fel bod mewn cwmni theatr, lle mae rhywun yn teithio'r wlad gyda'i gilydd am gyfnod.
"Roedd yn broses greadigol iawn a wnaeth y peth dyfu efo ni, a ninnau dyfu efo'r ffilmio."
Barry 'Archie' Jones (sy'n gyfrifol am y rhaglen Dim Byd) sydd tu cefn i'r gyfres sy'n dilyn criw o weithwyr mewn canolfan ailgylchu. Roedd yntau hefyd yn rhan o'r bybl ac yn addasu'r sgript gyda'r nosau ar ôl trafodaethau yn y gwesty ar ddiwedd diwrnod o ffilmio.
Arbrofi
Tydi'r gyfres ddim yn draddodiadol o ran arddull gan mai camerâu wedi eu gosod sy'n gyfrifol am y gwaith ffilmio.
Meddai Dyfed Thomas: "Roedda ni yn y caban efo pedwar camera yn y to, felly mae'n wahanol iawn i'r ffordd arferol o ffilmio - doedden ni ddim mor ymwybodol o'r camerâu a'r arfer.
"Fel arfer maen nhw'n symud camera o un shot i'r nesaf ac mae angen disgwyl i newid y camera a'r goleuo. Efo hwn roedda ni'n gallu bod yn reit naturiol, ac roedd elfennau yn debyg i waith theatr."
Mae'n cydnabod ei fod yn ffodus o gael y rhan yn y lle cyntaf, a bod y diolch i ŵr o'r enw Brian.
Roedd clyweliadau wedi eu cynnal ar gyfer y rhannau i gyd, ond doedd dim rhaid i Dyfed Thomas roi ei hun drwy'r broses anodd honno, meddai.
"Efallai na fyddwn ni wedi mynd am glyweliad gan mod i wedi cael fy ngwrthod cymaint o'r blaen.
"Ges i alwad ffôn gan Archie a Cwmni Da yn cynnig y gwaith i mi ac roedd hynny'n fraint anhygoel. Roedd Archie yn fan o Brian Lloyd Jones yn Siop Siafins."
Bydd Rybish ar S4C nos Wener 30 Tachwedd am 21:00
Hefyd o ddiddordeb: