Apêl gan fam i ferch gafodd ei tharo'n wael â Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Siaron Jones

Mae mam o Sir Ddinbych wedi disgrifio ei sioc wedi i Covid-19 achosi i'w merch 13 oed deimlo'n sâl iawn am wythnosau.

Daw hynny wedi i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod pump gwaith yn fwy o bobl ifanc rhwng 10-19 oed wedi profi'n bositif ar gyfer yr haint nag oedd yna fis yn ôl.

Er bod ymchwil yn awgrymu fod plant yn llai tebygol o gael symptomau difrifol, mae Siaron Jones o Ddinbych yn synnu fod ei merch dal yn dioddef, fis ar ôl cael prawf positif.

Fis diwethaf roedd gan Caitlin annwyd ond fe aeth i'r ysgol. Aeth i deimlo'n sâl ac fe gafodd ei hanfon adref.

Ychydig ddyddiau wedyn cafodd brawf coronafeirws positif.

Blinder a thagu

"Oeddan ni jyst yn hollol shocked, y ddwy ohonan ni. O'n i'n gwybod mai hi oedd y cyntaf yn yr ysgol oedd wedi cadarnhau, oherwydd oedd na'm sôn wedi bod o gwbl," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Ges i banig yn meddwl am yr holl blant oedd hi 'di bod yn mynd o gwmpas hefo yn g'neud y pethau oeddan nhw isho g'neud dros y penwythnos."

Yn ôl Ms Jones, fe wnaeth Ysgol Glan Clwyd ddelio â'r mater yn effeithlon iawn.

"Sut ddaru nhw managio neud o gyd o fewn llai na 40 awr... roedd o'n anhygoel faint mor sydyn 'naethon nhw. I feddwl mai dyma'r tro cynta' oeddan nhw wedi gorfod neud o... llenwi yr holl ffurflenni i gyd a lot o alwadau ffôn ac yn y blaen."

Ond roedd Caitlyn yn fwy sâl nag yr oedd pawb wedi'i feddwl yn y dechrau.

"Blinder ofnadwy, ac roedd hi'n tagu'n sharp ofnadwy... oedd hi'n boenus gwrando arni'n tagu," meddai ei mam.

"Tymheredd uchel - 38 o hyd - ac un peth dwi ddim wedi gweld ar ddim un o'r symptomau - roedd ei llygada hi'n cosi. Roedd cerdded fyny'r grisiau yn ormod iddi hefyd.

"O'n i'n meddwl y basa hi wedi bownsio nôl - 14 diwrnod o'r ysgol ac y bydda hi nôl... ond tydi hi ddim digon da i 'neud diwrnod cyfan o hyd."

'Dilynwch y rheolau'

Chafodd Siaron Jones ddim y feirws, ond ar ôl synnu fod yr haint wedi gadael gymaint o ôl ar ei merch ifanc, mae ganddi neges.

"Gobeithio neith pawb gadw at y rheolau maen nhw'n gofyn i ni 'neud, a pheidio mynd allan os oes dim rhaid i chi," meddai.

"Dwi'm isho i neb arall fynd trwy beth 'naethon ni fynd drwyddo - gwrando arni'n tagu yn y nos a gweddïo bod hi'n mynd i fod yn iawn yn y bore.

"Dwi'm isho i neb arall fynd trwy hynna."