Dymchwel tŵr yn Wrecsam oedd yn gyn-bencadlys heddlu

  • Cyhoeddwyd
twr yn dymchwelFfynhonnell y llun, @NWPDrones
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau drôn o'r tŵr wrthi'n dymchwel yn dilyn y ffrwydradau rheoledig fore Sul

Mae cyn-bencadlys heddlu 10-llawr yn Wrecsam wedi cael ei ddymchwel yn dilyn ffrwydrad rheoledig - wedi i dorfeydd gael eu rhybuddio i gadw draw.

Cafodd yr adeilad, oedd yn dyddio yn ôl i'r 1970au, ei gau yn 2019 gyda swyddogion yn symud i safle newydd.

Bydd archfarchnad a siop goffi nawr yn cael ei hadeiladu ar y safle.

Cafodd llif fideo byw o'r dymchweliad ei ddangos ar wefan y cyngor er mwyn ceisio annog pobl i beidio teithio yno i wylio, yn groes i reolau Covid-19.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan HGC Uned Drôn / NWP Drone Unit

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan HGC Uned Drôn / NWP Drone Unit

"Roedd 'na sawl clec fawr ac mi wnaeth y ddaear ysgwyd ychydig," meddai un person a wyliodd ar-lein.

Cyn y dymchweliad cafwyd ymgais aflwyddiannus i restru'r adeilad fel safle hanesyddol, ac fe wnaeth pobl hefyd arwyddo deiseb yn galw am ddod o hyd i ddefnydd newydd iddo.

Ar ôl gadael tŵr yr hen bencadlys fe symudodd Heddlu'r Gogledd i orsaf heddlu newydd ar gost o £1.9m yn Llyfrgell Wrecsam, a chanolfan ranbarthol gwerth £21.5m yn Llai.