Pecyn o gymorth ariannol i fwrdd iechyd y gogledd

  • Cyhoeddwyd
gofal dwysFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi pecyn cymorth ariannol i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar gyfer y tair blynedd a hanner nesaf.

Fe fydd y pecyn cymorth yn cynnwys sicrwydd ar gyfer diffyg o hyd at £40m y flwyddyn; cyllid i wella gofal heb ei drefnu o flaen llaw ac "adeiladu rhaglen ofal gynaliadwy wedi'i chynllunio, gan gynnwys £30m y flwyddyn i orthopaedeg; £12m y flwyddyn i gefnogi gwella perfformiad a gweithredu'r strategaeth iechyd meddwl; a chefnogaeth i adeiladu gallu a chapasiti ehangach yn y sefydliad".

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd mewn mesurau arbennig ers dros bum mlynedd, gyda materion sydd angen mynd i'r afael â nhw.

Roedd rhain yn cynnwys perfformiadau gwael wrth gyfeirio cleifion i driniaethau a'r adran gofal brys, ac roedd angen "atebion hir dymor" i'r materion yma.

Ychwanegodd ei fod am gymryd agwedd wahanol i'r cyfnod nesaf o welliannau, gan ddarparu "arian strategol hir dymor ar gyfer gwasanaethau hanfodol" er mwyn sicrhau fod y bwrdd iechyd yn osgoi "camau tymor byr a gwneud cynnydd ar gynllunio at y tymor canolig a hir".

Dywedodd y gweinidog: "Bydd y gefnogaeth i'r dull strategol hwn ar y sail bod y bwrdd iechyd yn parhau i adeiladu ar y berthynas gyda phartneriaid presennol ac yn ymgysylltu'n llawn â'r cyhoedd, staff, undebau llafur a phartneriaid ehangach.

"Y cam cyntaf hanfodol fydd gweithio mewn partneriaeth i adeiladu gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan arwain at gynllun tymor canolig, gan ganolbwyntio ar atal, lles corfforol a meddyliol, iechyd y boblogaeth ac, wrth gwrs, gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd.

"Fy mwriad felly yw parhau â'r gefnogaeth hon ar gyfer y blynyddoedd 2021-22 hyd at, a chan gynnwys, 2023-24...a byddaf yn sefydlu grŵp tasg a gorffen i wneud argymhellion ar gyfer sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething fod angen sicrhau fod y bwrdd iechyd yn osgoi "camau tymor byr a gwneud cynnydd ar gynllunio at y tymor canolig a hir".

Mewn ymateb i ddatganiad y Gweinidog Iechyd ar gymorth strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y bwrdd iechyd, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd:

"Mae croeso i arian ychwanegol wrth gwrs, ond yn anffodus, mae'r datganiad hwn yn swnio i raddau helaeth fel unrhyw un o'r datganiadau yr ydym wedi'u clywed dros y pum mlynedd a hanner diwethaf ers i Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig - honnwyd fod rhai gwelliannau, ac amlygwyd meysydd eraill fel rai sydd angen mwy o waith.

"Rwy'n diolch i staff rheng flaen sy'n gweithio'n galed am yr holl waith maen nhw'n ei wneud mewn amgylchiadau anodd, ond maen nhw a chleifion yn haeddu gwell na throi mewn cylchoedd mesurau arbennig.

"Dyna pam rwy'n argyhoeddedig bod y bwrdd hwn wedi dod i ben ei oes, a pham mae angen strwythurau iechyd a gofal newydd arnom yn y gogledd. Gadewch i ni adeiladu gwell gwasanaeth.

"Ar nodyn cadarnhaol, rwy'n falch ei bod yn ymddangos bod y Llywodraeth bellach yn gweld y teilyngdod mewn Ysgol Feddygol lawn yng ngogledd Cymru ar ôl i Plaid Cymru ymgyrchu'n llwyddiannus i ddysgu meddygaeth israddedig ym Mhrifysgol Bangor.

"Ond mae'n rhaid i'r grŵp tasg a gorffen a sefydlwyd fwrw ymlaen gyda'r gwaith - mae ei hangen ar gyfer dyfodol y gweithlu yma yn y gogledd, ac mae ei angen ar frys."