Merthyr a Covid: Yng nghanol y storm
- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnos ddiwethaf, Merthyr Tudful ydy'r sir sydd wedi cael y nifer fwyaf o achosion Covid am bob 100,000 o bobl trwy'r DU gyfan, gyda 741 o achosion ar gyfer pob 100,000 yno yn yr wythnos hyd at 1 Tachwedd.
Bu Cymru Fyw'n siarad gyda rhai o drigolion Merthyr Tudful am sut mae'r ardal yn ymdopi a sut mae'r bobl leol yn teimlo wrth i'r sefyllfa waethygu yno.
Lisbeth McLean yw prif swyddog Menter Iaith Merthyr Tudful ac hefyd rheolwr Canolfan a Theatr Soar.
Dw i'n teimlo'n ofnus fy hun. Dw i ddim mas yn y gymuned, dw i'n gweithio adref ac mae teulu gyda fi'n byw yn y tŷ.
Mae Merthyr wedi hen arfer â bod ar waelod pob rhestr o ran afiechyd ac o ran bod yn ardal difreintiedig. Dw i'n meddwl falle ein bod ni mor gyfarwydd â bod mor difreintiedig 'dyw e ddim yn meddwl unrhyw beth i ni ragor.
Mae'r problemau iechyd mor wael ym Merthyr mae'n amlwg bod Covid yn mynd i effeithio'n wael ar ein hardal ni.
Mae problemau tlodi difrifol yn y gymuned ac hefyd mae 'na ysbyty mawr gyda lot o Covid ynddo fe reit yng nghanol ystâd y Gurnos.
Mae'r bobl sy'n byw ar y Gurnos yn gweithio yn yr ysbyty. Ac mae'n ardal poblog gyda sawl cenhedlaeth yn byw mewn rhai o'r tai. 'Dyw pobl ddim yn gallu fforddio prynu tŷ newydd.
Mae'n awyrgylch perffaith i bandemig gael gafael.
Tawel ar y stryd
Mae lot llai o bobl o gwmpas - mae pobl yn gwisgo mygydau ac yn cadw pellter. Dw i'n meddwl bod pobl yn dilyn y rheolau ar y cyfan.
Beth 'dw i'n poeni amdano yw, does dim digon o gefnogaeth i bobl sy'n dioddef nawr. Does dim clem gyda ni eto beth fydd yr effaith hirdymor na beth yw hyd a lled y peth.
Tra'n bod ni'n cynllunio am yr hirdymor mae pobl yn dioddef. Mae angen buddsoddiad yn syth, nid ar ôl 1 Ebrill pan mae grantiau prosiect i gyd yn cicio mewn.
Hunanladdiad
Un o bryderon mwyaf Merthyr ar hyn o bryd yw hunanladdiad. Mae sawl dyn ifanc wedi cymryd bywydau eu hunain ers cyfnod Covid, roedd hynny'n digwydd eisoes ond mae'n gwaethygu nawr.
Mae defnydd cyffuriau ynghlwm â hyn. Does dim digon o ddarpariaeth therapi siarad mas 'na, dim ond llinellau cyswllt neu ar-lein. Mae angen cefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau'r bobl yma hefyd.
Mae 'na broblemau cymdeithasol difrifol yn cynyddu, problemau iechyd meddwl a phroblemau tlodi torcalonnus, 'dyw pobl ddim yn ymgysylltu gyda'r gwasanaethau maen nhw fel arfer yn cysylltu gyda.
Mae'r holl rwydweithiau yn ein cymdeithas wedi torri lawr achos dydyn ni ddim yn cwrdd â'n gilydd.
Mae'r gwasanaeth iechyd meddwl ym Merthyr wedi cwrdd i drafod y peth. Mae 'na gefnogaeth mas 'na ond dwi'n teimlo fod pobl yn aros i weld beth sy'n digwydd yn hytrach na trio helpu nawr.
Mae pawb yn gweithio mewn gwagle dall ar hyn o bryd.
Marwolaethau Covid
Dwi wedi colli un person dwi'n nabod o Covid ac yn adnabod rhai sydd wedi bod yn sâl iawn. Dwi'n adnabod eitha' tipyn sydd wedi cael prawf positif ond ddim yn sâl iawn o ganlyniad.
Rheolau'n llacio
Er bod pryderon gyda fi am ailagor adeiladau Canolfan a Theatr Soar, dwi'n ymwybodol o'n dyletswydd o ran cefnogi ein cymuned.
'Dyn ni wedi cynllunio i agor wythnos nesaf. Mae cynlluniau cadarn mewn lle o ran creu gofod diogel i bobl. Mae'r caffi a'r siop wedi bod ar agor eisoes ac mae hwn wedi bod o fudd mawr i'n cymuned - cyfle i gwrdd gydag eraill am gyfnod bach.
Mae cymaint o bobl wedi dweud fod eu bywydau nhw'n troi o gwmpas canolfan Soar.
Cydweithio
Dyw'r rhwydweithiau oedd gyda ni blynyddoedd yn ôl gyda Communities First ac ati ddim yn bodoli rhagor. A 'dyw pobl ddim yn gweithio yn yr un ffordd ag oedden nhw flynyddoedd yn ôl.
Yr unig ffordd ni'n gallu goresgyn hwn i'r dyfodol yw gweithio'n agos gyda'n gilydd ar draws sectorau.
Mae 'na lawer gall y celfyddydau wneud i greu'r egni sy' angen i ddod mas o hwn. Mae angen buddsoddiad mewn sefydliadau sy'n gweithio'n agos gyda'u cymunedau i alluogi hyn i ddigwydd.
Mae Merthyr wastad wedi stryglo gyda'r holl broblemau ni'n wynebu, ein her nawr yw sicrhau bod ein cymuned yn gadw'n gryf a ddim yn colli gobaith.
Mae Charlotte Rushton yn offeiriad i blwyf Merthyr Tudful.
Yr hyn sy'n dod yn amlwg i mi yw'r tristwch. Mae llawer o bobl wedi bod yn ofalus, wedi mynd trwy'r don gyntaf ac mae'r trasiedi dal wedi taro eu teulu.
Mae mwy nag un aelod o'r eglwys wedi gweld teulu yn marw o ganlyniad i Covid er bod nhw wedi bod yn ofalus iawn ac wedi cysgodi.
Yn ein heglwys mae gennym lawer o bobl bregus a nifer o aelodau hŷn ac mae ofn ar lot o bobl.
Er bod ni'n araf yn ailagor cymunedau mae pobl eisiau aros tu fewn gan ein bod wedi dysgu pa mor indiscriminate yw'r feirws yma.
Pobl ifanc
Dw i'n offeiriad ar gyfer y cadets awyr lleol ac yn gweithio lot gyda phobl ifanc yn eu harddegau - maen nhw wedi setlo mwy nawr bod nhw yn ôl yn yr ysgol oherwydd bod nhw'n cael rhyw fath o fywyd cymdeithasol.
Ond maen nhw'n blino ar y sgrin - mae angen gwneud llawer o'u cymdeithasu trwy'r cyfryngau cymdeithasol, Zoom ac ati, ond 'dy'n nhw ddim yn engaged achos maen nhw wedi blino ar y peth.
Mae nifer o bobl iau wedi cysylltu gyda fi hefyd yn ysu i helpu mewn rhyw ffordd. Maen nhw'n barod i ffonio o gwmpas, coginio, cysylltu gyda pobl bregus.
Mae wedi bod yn hyfryd i weld pobl sy' byth yn trafferthu gyda'r eglwys yn y gorffennol yn dod ymlaen i ddweud 'os ydych chi angen fi, dw i yma'.
Mae pryder mawr am bobl sy' ddim yn gallu fforddio bwydo eu teuluoedd yn ystod gwyliau ysgol ac yn ystod y cyfnod cau. Mae llawer o bobl dan fygythiad diweithdra yn yr ardal hon.
Unigrwydd
Dw i'n adnabod un menyw sy'n llythrennol yn crwydro'r strydoedd. Mae hi ar ei phen ei hun, heb deulu na ffrindiau'n agos. I dorri'r unigrwydd mae hi'n mynd allan am dro am dair neu bedair awr bob dydd - dim ond i weld pobl eraill.
Mae'r cymoedd yn ardal mor gyfeillgar ac mor rhyfeddol ond os yw dieithryn yn dod ac yn dechrau siarad â ti, mae pobl yn mynd i fod yn ofalus.
Felly ry'n ni'n gweld tref sy'n ddau hanner - y llawenydd rhyfeddol yma o gymuned lle mae pawb eisiau helpu ac hefyd unigrwydd a thristwch enbyd.
Os fyddai pawb ohonom yn edrych allan am ein cymdogion bob ochr i'n tai, byddai'r gymuned yn iawn. Ond yn anffodus nid dyna sut mae'r byd yn gweithio mwyach.
Mae pawb yn ysu am normalrwydd. Maen nhw eisiau'r hyn maen nhw wedi'i gael erioed - ac maen nhw'n dod i delerau â'r ffaith nad ydyn nhw'n gallu ei gael. Mae'n mynd i fod yn Nadolig gwahanol iawn.
Bwydo'r ofn
Mae'n ymddangos bod yr outbreaks Covid yn digwydd mewn clystyrau. Ond 'dw i ddim yn credu bod ni'n deall ble mae'r clystyrau 'ma'n digwydd.
Mae'n bosib bod nhw'n dod o lefydd gwaith lle mae pobl dal i orfod mynd neu o glybiau penodol. Dydyn ni ddim yn gwybod. Ac mae hynny'n bwydo'r ofn.
Canllawiau newydd
Mae yna ddryswch yma. Dw i wedi clywed pobl yn dweud nad yw'n deg - 'dw i ddim yn gallu mynd i dŷ fy rhieni ond galla'i gwrdd â nhw yn y dafarn'.
Dim ond i'n helpu ni mae'r rheolau hyn.
Dw i ddim yn credu y bydd yn newid yr agwedd yn lleol oherwydd bydd rhai pobl yn dal i fod yn rhy ofalus gan eu bod yn ofnus. A bydd 'na bobl eraill sy'n credu nad yw Covid yn mynd i ddigwydd i fi.
Teulu
Mae fy mam a fy nhad wedi cael Covid. Ac mae aelod o'r eglwys wedi colli ei gŵr. Roedd e'n cael ei gysgodi a 'dyw e ddim yn glir sut mae wedi digwydd ond fe gontractiodd Covid a bu farw yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Dyma un o drasiedïau'r holl beth.
Dyna beth sy'n newid agweddau pobl oherwydd ei fod yn realiti nawr. Yn y locdown cyntaf, roedd Covid yn digwydd rhywle arall.
Ond yn sydyn iawn mae'r feirws yn y gymuned ac mae'n bwrw pobl pa mor ddifrifol a pha mor real yw hyn.
Y neges 'dw i'n cael gan y gymuned yw bod ni eisiau i hyn fod drosodd nawr. Ni'n despret am normalrwydd.
Hefyd o ddiddordeb