Llofruddiaethau Clydach: Heddlu'n siarad â dau ddyn

  • Cyhoeddwyd
Mandy Power hefo Emily a KatieFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mandy Power a'i merched Emily a Katie eu llofruddio yn eu cartref

Mae'r heddlu wedi siarad â dau ddyn a gafodd eu cyfweld am lofruddiaethau Clydach am y tro cyntaf ar raglen ddogfen y BBC.

Yn 1999, cafodd Mandy Power, ei mam Doris, 80, a'i phlant Katie, 10, ac Emily, wyth, eu curo i farwolaeth yn eu cartref yng Nghlydach, sir Abertawe.

Cafwyd David Morris yn euog o'r llofruddiaethau.

Ond ym mis Hydref, fe wnaeth rhaglen gan BBC Wales Investigates godi amheuon newydd am yr achos.

Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfweliadau â dau llygad-dyst posib. Dywedodd un ohonynt nad oedd erioed wedi siarad â'r heddlu a dywedodd y llall iddo gysylltu â'r heddlu i adrodd am yr hyn a welodd, ond na alwodd neb o'r llu erioed yn ôl.

Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad ddydd Mercher: "Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfweliadau â dau aelod o'r cyhoedd a honnodd nad oedden nhw wedi siarad â'r heddlu o'r blaen.

"Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, mae swyddogion bellach wedi siarad â'r ddau ddyn i sefydlu pa wybodaeth sydd ganddyn nhw.

"Rydym yn asesu'r wybodaeth hon yn ofalus a byddwn yn penderfynu ar ein camau nesaf maes o law."

'Ymchwiliad mwyaf cymhleth erioed'

Mae euogfarn Morris wedi cael ei ystyried gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol ar fwy nag un achlysur, a'r mwyaf diweddar yn 2018.

"Yn dilyn adolygiad trylwyr o'r deunydd achos fe wnaethant benderfynu peidio â'i gyfeirio i'r Llys Apêl gan nad oedd tystiolaeth newydd wedi'i nodi," ychwanegodd yr heddlu am yr adolygiad ddwy flynedd yn ôl.

Dywedodd y llu fod yr ymchwiliad llofruddiaeth wedi bod "y mwyaf cymhleth" a gynhaliwyd erioed gan heddlu o Gymru.

Cafodd Morris ei ganfod yn euog o lofruddiaeth ond cafodd yr euogfarn honno ei wyrdroi ar apêl.

Fe'i cafwyd yn euog unwaith eto mewn achos llys arall wedi hynny.