Amheuon newydd dros achos llofruddiaethau Clydach
- Cyhoeddwyd
Mae amheuon o'r newydd yn achos y dyn a gafwyd yn euog o lofruddiaethau Clydach yn 1999.
Cafwyd David Morris yn euog o lofruddiaeth teulu o bedwar, gan gynnwys dwy ferch ifanc.
Ond mae tystion posib newydd, yn ogystal ag arbenigwyr, wedi rhoi gobaith newydd i ymgyrchwyr sydd am ei weld yn cael ei ryddhau o'r carchar.
Mae Heddlu De Cymru'n dweud bod Morris wedi ei gael yn euog mewn dau achos llys ac yn dilyn "ymchwiliad helaeth".
Mae teulu'r rhai a fu farw'n dweud nad oes amheuon ganddyn nhw bod Morris yn gyfrifol, a bod y dioddefaint ddaeth wedi'r marwolaethau yn dal i'w heffeithio nhw.
Llofruddiaethau Clydach
Gyda'r hwyr ar 26 Mehefin 1999, fe gafodd Doris Dawson, ei merch Mandy, a'i dwy wyres Emily a Katie eu curo i farwolaeth yn eu cartref yng Nghlydach ger Abertawe.
Gyda thair cenhedlaeth o'r un teulu yn farw, roedd cymuned gyfan mewn sioc.
Dyma oedd yr ymchwiliad mwyaf erioed i lofruddiaeth yn hanes Heddlu De Cymru, ond pasiodd tair blynedd arall cyn i ddyn lleol - David Morris - gael ei ganfod yn euog a'i ddedfrydu i bedair dedfryd oes.
Daeth cadwyn aur, a gafodd ei chanfod yn y tŷ yng Nghlydach, yn ganolog i'r ymchwiliad.
Roedd David Morris wedi gwadu sawl tro mai fo oedd berchen y gadwyn.
Ond yn y pen draw, dywedodd ei fod wedi ei gadael yn y tŷ ar ôl cael rhyw gyda Mandy Power.
Gwrthod credu ei stori wnaeth y rheithgor yn yr achos llys.
Mae gan David Morris gefndir troseddol a hanes o ymddwyn yn dreisgar.
Ond mae wedi honni erioed nad oedd yn gyfrifol am y llofruddiaethau ddigwyddodd yng Nghlydach.
Doedd dim DNA nac olion bysedd yn ei gysylltu gyda'r drosedd na chwaith unrhyw dystion yn dweud iddyn nhw ei weld yn y tŷ.
Mae hefyd yn dweud nad oedd ganddo unrhyw reswm i'w llofruddio.
Ar ddechrau'r ymchwiliad, roedd ditectifs wedi amau bod gan dri pherson oedd yn, neu wedi bod yn, swyddogion gyda'r heddlu, gysylltiad gyda'r llofruddiaethau.
Y tri oedd Alison Lewis, oedd wedi bod yn cael perthynas hoyw gyda Mandy Power, ei gŵr Stephen, a'i efaill o - Stuart Lewis.
Cafodd y tri eu harestio, ond ni chafodd yr un eu cyhuddo o unrhyw drosedd, ac fe gawson nhw eu diystyru fel rhai oedd yn cael eu hamau o'r drosedd yn 2001.
Maen nhw wedi gwadu unrhyw gysylltiad â'r llofruddiaethau ar hyd y blynyddoedd.
Tystion newydd
Ar noson y llofruddiaethau, roedd honiadau bod o leiaf dau berson wedi'u gweld yn ardal Clydach - ac fe gafodd y wybodaeth ei adrodd i'r heddlu.
Yn ôl y tyst, un o'r bobl hynny oedd Stephen Lewis, ond ni wnaeth hynny i'r rheithgor amau euogrwydd David Morris.
Bellach mae'r BBC wedi dod o hyd i ddau dyst newydd sy'n dweud iddyn nhw weld rhywbeth tebyg yn ardal Clydach y noson honno.
Mae'n golygu bod tri thyst yn honni iddyn nhw weld dyn tebyg yn agos at Ffordd Kelvin yng Nghlydach - ond nad David Morris oedd hwnnw.
Mae ymchwiliad y BBC hefyd wedi darganfod bod cannoedd o ddogfennau heb gael eu rhannu gyda thîm cyfreithiol David Morris.
Imiwnedd budd cyhoeddus, PII, oedd y cyfiawnhad ar y pryd.
Fe allai'r dogfennau yma fod wedi helpu achos David Morris - ac mae'n bosib eu bod yn cynnwys proffil o'r llofrudd gafodd ei gomisiynu gan yr heddlu.
Dywedodd y bargyfreithiwr Simon McKay: "Yn sicr yn yr achos yma mae swm sylweddol o ddeunydd oedd yn destun cyfres o geisiadau imiwnedd budd cyhoeddus, a does dim rheswm amlwg pam y byddech yn disgwyl i hynny ddigwydd.
"Pan mae rhywun yn edrych ar gyd-destun yr achos... yna mae'n ddealladwy bod rhywun yn gadael gyda phryderon difrifol bod cyfiawnder wedi digwydd yma."
Bellach, mae 'na ymgyrch gyhoeddus sy'n cefnogi David Morris yn galw am achos newydd yn y Llys Apêl.
Mewn datganiad, mae teuluoedd y rhai fu farw'n dweud bod y llys eisoes wedi dod i'r penderfyniad cywir a'u bod nhw'n hyderus bod y dyn cywir dan glo.
Dywedodd Heddlu De Cymru ei bod yn deall yr "effaith sylweddol" mae'r achos yn ei gael ar deuluoedd y rhai fu farw a'r gymuned, bod "ymchwiliad helaeth" wedi ei gwblhau, a bod Morris wedi ei gael yn euog mewn dau achos llys.
Bydd BBC Wales Investigates yn cael ei darlledu am 21:00 ar 22 Hydref ar BBC1, ac yna ar yr iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2017