Rhys Mwyn: 'Misoedd i wella' ar ôl amnesia dros-dro
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor a'r cyflwynydd Rhys Mwyn yn dweud ei bod wedi cymryd misoedd iddo ddod at ei hun ar ôl profi "amnesia dros-dro".
Fis Mehefin eleni, heb unrhyw rybudd, fe gollodd ei gof am ychydig oriau.
Roedd yng ngardd ei dad un prynhawn pan ddigwyddodd y profiad.
"O'n i wedi mynd i fyny i'r ardd i edrych ar ôl y tatws ac oedd gena'i job fach o drwsio drws y sied a dwi'n cofio rhoi bloc i mewn i atgyfnerthu ffrâm y drws ac wedyn cofio dim.
"Mae'n rhaid bod fi 'di ffonio adref, ffonio Nest fy ngwraig, a be mae hi 'di deud wrtha fi… o'n i yn deud 'Dwi ddim yn gwybod lle ydw i a dwi ddim yn gwybod pam dwi yma', a 'Dwi ddim yn deall pam ond mae yna datws yn tyfu yn yr ardd'.
"Dyna o'n i yn deud."
'Dim yw dim'
Fe alwodd ei wraig am ambiwlans, ac ar ôl i barafeddygon gyrraedd, doedd ganddo ddim syniad beth oedd yn digwydd a phwy oedd pwy.
"Un o'r pethau maen nhw'n deud mae pobl sy'n cael yr amnesia ma' yn neud ydy ailadrodd felly o'n i hefo'r hogiau paramedics, a dwi'n cofio dim o hyn, ac yn d'eud 'Fi 'di Rhys Mwyn, dwi'n byw yn Twthil Caernarfon, gena'i ddau o hogiau'.
"Wedyn o'n i yn ailgychwyn: 'Fi 'di Rhys Mwyn, dwi'n byw yn…' ac o'n i yn ailadrodd be' o'n i yn gwybod ond o'n i yn cofio dim. Dim yw dim.
"Wedyn mae hwnna yn ddwy awr, dydy'r cof yna ddim yn dod yn ôl. Mae hwnna yn ddwy awr o blanc."
Yn aelod blaenllaw o'r grŵp pync Yr Anhrefn yn yr 80au, does gan Rhys Mwyn fawr o syniad beth achosodd y colli cof dros dro.
Doedd y profion a gafodd yn Ysbyty Gwynedd ddim yn dangos unrhyw beth anghyffredin chwaith.
"Fy nheimlad i yn reddfol ydy bod o 'di cymryd rhai wythnosau os nad misoedd i mi ddod yn ôl at fy nghoed - a dwi ddim yn gallu esbonio hyn yn iawn.
"Jyst teimlad ydy o, do'n i ddim cweit yn fi fy hun am wythnosau wedyn."
'Faint o gnoc?'
Dywedodd iddo golli rhywfaint o hyder wedi'r digwyddiad, a dechrau "hel meddyliau" am yr achos.
"Oeddwn i o dan straen cyfnod Covid? Ydan ni yn bryderus am bethau erill?
"Dwi'n tueddu i deimlo rŵan, OK mae o 'di digwydd a dwi jyst yn cario ymlaen i dd'eud y gwir. Does dim byd arall fedrwch chi neud."
Y cam nesaf iddo fydd gweld niwrolegydd ym mis Ionawr, ac mae o'n gobeithio y caiff fwy o atebion bryd hynny.
"Swn i yn licio trafod hefo'r niwrolegydd faint o gnoc mae rhywun yn gael o rhywbeth fel hyn?
"Achos mae'r cof yn dod yn ôl i'r presennol, da chi ddim yn cofio'r cyfnod amnesia ond dwi ddim 'di cael ateb hyd yma o ran be' ydy'r effaith ar yr ymennydd a'r person efallai?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020