Dal i fyny gydag Osian Roberts
- Cyhoeddwyd
Mewn pennod arbennig o bodlediad Y Coridor Ansicrwydd, mae cyn is-hyfforddwr Cymru Osian Roberts wedi sôn am ei fywyd newydd ym Moroco fel cyfarwyddwr technegol i'r tîm pêl-droed cenedlaethol, a'i obeithion ar gyfer y dyfodol.
Gwrandewch ar y sgwrs gydag Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn llawn fan yma.
Dyma flas o beth oedd ganddo i'w ddweud...
Bywyd a gwaith ym Moroco
"Daeth y cyfle yma out of the blue. Y cwestiwn yn y diwedd oedd 'Os ddim rŵan, pryd?'
"Roedd rhaid i mi ddod i adnabod y wlad i gychwyn cyn dod â strwythur mewn lle. Roedd yn ddiddorol gan fy mod i'n cychwyn efo llechen lân.
"Dyma'r swydd fwyaf heriol dwi wedi ei gael yn fy mywyd. Ma' pobl Moroco yn football mad. Mae gennym ni gymdeithas bêl-droed sy'n uchelgeisiol ac eisiau bod y gorau. Mae'r disgwyliadau yn eithriadol o uchel, ond dyna pam ddes i yma.
"Ar hyn o bryd dwi wedi canolbwyntio ar bob dim sydd o dan y tîm cyntaf. Dwi angen cael y darnau jig-so eraill i gyd yn eu lle cyn fy mod i'n dechrau bod yn fwy hands on o ran y tîm cyntaf.
"Mae wedi bod yn brofiad grêt. Mae'r wlad yn ffantastig a'r tywydd yn anhygoel. Mae heddiw a ddoe yn byw yn gytûn yma. Wrth ddreifio i'r gwaith, mae gen ti'r lôn fwyaf modern ond ar yr un pryd ar lôn arall fe allai fod fel can mlynedd yn ôl. Mae mul a throl o dy flaen yn rheolaidd."
Darganfod sêr y dyfodol
"Dwi erioed wedi teimlo'n gyfforddus pan fo pobl yn fy mhwyntio i allan, neu fy mrolio. Nid fi wnaeth ffeindio Matthew Smith a Daniel James… fi wnaeth roi'r system mewn lle i'r bobl iawn fod yn y llefydd iawn. Mae yna bobl sydd wedi gwneud cymaint ers blynyddoedd heb gael sylw, yn aml yn wirfoddol.
"Pobl fel Gus Williams sydd wedi bod yn gyfrifol am y sgowtio ers blynyddoedd. Hogia' fel John Owen, Cledwyn Ashford, Pete Noel… rhain sy'n mynd rownd y wlad yn ffeindio'r hogia' yma. Mae yna restr enfawr o bobl sydd wedi gwneud i bethau weithio. Ond pan mae'r hogia' yn dod drwodd mae yna falchder i ni gyd.
"Mae'n broses ddiddorol o ddod â chwaraewyr ifanc mewn i'r system, sydd ddim cweit yn barod yn gorfforol, a'u cadw nhw tra dy fod yn eu datblygu nhw.
"Dwi'n tueddu i'w gweld nhw fel fy mhlant i! Pan wnes i adael roeddwn i'n gwybod fod yr hogia' ifanc yma ar eu ffordd i fyny."
Hoff atgofion
"Dwi'n cofio bod yn 'stafell newid Paris St Germain gyda charfan Cymru; dyna'r 'stafell newid fwyaf erioed i mi ei weld.
"Ar ôl curo Gogledd Iwerddon, dwi'n cofio pawb yn hapus a Joe Ledley yn dawnsio ar y bwrdd.
"Trio gwneud yn siŵr fod neb yn brifo oedden ni!
"Roedd yn amser anhygoel i ni gyd fod efo'n gilydd yn mwynhau. Mae'n rhywbeth i'w drysori, achos 'dyn nhw ddim yn digwydd yn aml.
"Pan aeth y fideo allan [ohonon ni'n dathlu] ar ôl i Loegr golli i Wlad yr Iâ, roeddan ni gyd yn chwerthin ond roedd Ian Gwyn Hughes mewn dagrau yn poeni! Mae o wedi cael dipyn o'r rheiny dros y blynyddoedd."
Y dyfodol
"Dwyt ti byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel. Yr unig beth dwi'n ei wybod ydi mod i wedi mwynhau pob eiliad o fy amser gyda Chymru a dwi'n berffaith hapus fod y bennod yna'n gorffen yn fan'na.
"Pob tro 'da ni wedi canu'r anthem cyn gêm roedd dagrau yn fy llygaid. Wnaiff y balchder yna byth newid.
"Dydi Cymru ddim lawr i unigolion. Mae yna bobl eraill yn camu mewn a symud y gwaith yn ei flaen.
"Mae'n rhaid i ni gyd dderbyn fod yna ddechrau a diwedd i'n rôl ni gyd. Gawn ni weld!"
Hefyd o ddiddordeb: