Osian Roberts: "Cyfle rhy dda i'w droi lawr"

  • Cyhoeddwyd
osianFfynhonnell y llun, DAMIEN MEYER

Yn gynharach yn y mis daeth y cyhoeddiad fod Osian Roberts yn gadael ei rôl fel is-reolwr tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru a chymryd swydd gyda thîm cenedlaethol Moroco.

Mae gan y gŵr o Ynys Môn gytundeb pum mlynedd fel cyfarwyddwr technegol Moroco, gan ddechrau ym mis Medi.

Ar 13 Awst fe siaradodd Osian gyda Nic Parry ar BBC Radio Cymru i drafod ei resymau dros ddewis gadael Cymru a symud i ogledd Affrica.

Pam gadael?

"Cwestiwn da, nes i ofyn hynny droeon o weithia dros yr wythnosau diwethaf. Jest teimlo bod 'na gyfle gwirioneddol, her hollol wahanol ar gyfandir hollol wahanol, a theimlo rhyw freshni ynglŷn â'r her yma oedd yn cael ei chynnig i mi.

"Fel ti'n mynd yn hŷn ella bod 'na lai o'r fenter 'na yn perthyn i chdi - yn sicr roedd hynny'n rhywbeth oedd gen i pan o'n i'n ifanc. Bellach wrth gwrs rwyt ti'n gofyn y cwestiwn os di hynna dal yn rhan ohona chdi, a pan mae 'na gyfle fel hyn yn dod, ydi o'n gyfle lle ti'n meddwl galli di ddim ei droi lawr. Yn y diwedd, er pa mor anodd, oeddan ni'n teimlo bod o'n gyfle rhy dda i'w droi lawr."

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Osian Roberts yn ran allweddol o dîm hyfforddi Cymru o dan arweinyddiaeth Chris Coleman, gan gyrraedd rowndiau gyn-derfynol Pencampwriaeth Euro 2016

Sut ddaeth y cynnig?

"Roedden ni allan yn Yerevan, Armenia am bythefnos yn gwneud gwaith i UEFA efo'r twrnament dan 19. Ges i wahoddiad gan lywydd y gymdeithas ym Moroco, a oedd wedi gwneud eu gwaith cartref. Doedd y tîm cenedlaethol heb wneud yn grêt yng Nghwpan Affrica yn yr haf, a'r timau iau heb wneud yn grêt dros y blynyddoedd diwethaf. Cafodd penderfyniad ei wneud i ddechrau o'r dechrau, a bod angen rhywun i adeiladu pethau o'r sylfaen.

"Dyna'r cynnig ddoth fy ffordd i ar ôl iddyn nhw wneud eu gwaith cartref - pwy 'di'r person da ni eisiau i roi rhywbeth newydd yn ei le. Oherwydd hynna o'n i'n teimlo bod cyfle i roi fy stamp i. Mae 'na strwythur da yna, cyfleusterau gwych, ac mae pob dim yn ei le sy'n golygu y gallen nhw lwyddo yn y blynyddoedd nesa'.

"Mae'n her anhygoel, dydw i heb gyd-weithio gyda hyfforddwr na chwaraewyr o'r cyfandir yna o'r blaen. Roedd o'n hollol annisgwyl - doedd 'na ddim cynllunio i hyn ac yn sicr doeddwn i ddim yn chwilio am swydd.

"Mae 'na adegau wedi bod lle ddoth gyfleodd fy ffordd i, ond does 'na ddim wedi troi fy mhen i adael Cymru. Bob tro dwi wedi ffeindio'n anodd gwneud hynny, ond mae hwn yn gyfle personol, proffesiynol, a hefyd i ni fel teulu yn gyfle i ddechrau pennod arall a chael profiadau newydd."

Penodi hyfforddwr newydd Moroco

"Mi fydda i'n gwneud hynny 'fory gobeithio!"

A oedd gadael rhywbeth i'w wneud efo Giggs?

"Dim o gwbl. Mae gen i berthynas grêt efo Ryan ac mi fydda i'n siarad efo fo wythnos yma ynglŷn â'i gynlluniau o ar gyfer y dyfodol. Mae gen i'r parch mwyaf tuag at Ryan, a dwi'n meddwl fod y tîm cenedlaethol mewn dwylo da.

"Wrth gwrs da ni wedi bod yn ailadeiladu a rhoi tîm efo'i gilydd, ond da ni gymaint pellach lawr y lein na oedden ni yn 2013 pan oedden ni'n adeiladu'r tîm ar gyfer yr Euros.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Osian gyda Ryan Giggs a Tony Roberts yn ystod buddugoliaeth yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, Medi 2018

"Felly da ni ar drothwy rhywbeth sbeshial iawn, a dwi'n gobeithio y bydd Ryan yn llwyddiannus efo gwneud hynny. Mewn ffordd roedd o'n anodd iddo fy nghadw i fel rhan o'r tîm, ond mae gen i'r parch mwyaf am y ffordd mae wedi mynd o'i chwmpas hi, ac yn sicr y ffordd mae wedi fy nghadw i yn rhan o bethau."

Tîm Moroco

"Mae genna ni unigolion da sy'n chwarae ar draws Ewrop. Y gamp fwyaf ydi creu tîm llwyddiannus yna. Mae am fod yn her hollol wahanol. Ella fod pobl yn meddwl a'i yno a gwneud be nes i yng Nghymru, ond mi fydd yn hollol wahanol a dyna un o'r pethau sy'n apelio.

"Pan dwi'n mynd hyd a lled Ewrop a Gogledd America, un o'r pethau da ni'n sôn amdano wrth ddatblygu chwaraewyr ydi fod plant ddim yn chwarae ar y stryd fel oedden ni ers talwm. Ond ym Moroco maen nhw'n dal i wneud, dyna lle maen nhw'n dysgu a does ddim rhaid rhoi hynny yn ei le. Pêl-droed ydi'r unig gamp sy'n cyfrif yn y wlad."

Ffynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewr Ajax, Hakim Ziyach, un o'r enwau mwyaf ym mhêl-droed Moroco

Gadael pryd a lle fydd Osian yn byw?

"Dwi'n gadael wythnos i ddydd Gwener, ac mi fydda i'n byw yn Rabat, y brifddinas. Dwi am fynd drosodd heno 'ma a sbïo ar dri neu bedwar o lefydd a gwneud penderfyniad wedyn. O'n i wedi gobeithio bysa Cara ac Ela yn dod efo fi ond fydd rhaid imi yrru llunia draw atyn nhw- rhywfath o villa fydd o.

"Mae Rabat dipyn yn wahanol i Casablanca a Marrakesh- yno mae'r Brenin yn byw. Mae'n ddinas hyfryd a saff. Mae'n bwysig i ni fod genna ni le cartrefol lle mae pawb yn gallu mwynhau'r daith a'r profiadau dros y blynyddoedd nesa. Mae'n wlad Ewropeaidd Affricanaidd, ac mae'r cydbwysedd yna'n neis.

"Y bwriad ydi bo ni'n byw yn y wlad yn llwyr ac yn ymdoddi i gelfyddyd y wlad. Bydda i'n dod adra o dro i dro, gennai ni ambell beth wedi ei drefnu rhwng rŵan a'r Nadolig- mae fy rhieni yn dathlu 60 mlwyddiant o fywyd priodasol mewn rhyw fis.

"Dod adra am y penwythnos fydda i, ond fel arall fydda i allan yn ei chanol hi ac mae'n bwysig bod y wlad yn teimlo bod fy nghalon i yn y swydd."

Ffynhonnell y llun, Independent Picture Service
Disgrifiad o’r llun,

Rabat; prifddinas Moroco a chartref newydd Osian Roberts

"Mae antur yn bwysig i mi am ryw reswm sy'n rhyfedd falle achos mae Mam a Dad yn bobl eu milltir sgwâr. Dwi'n pregethu bob diwrnod i fy hyfforddwyr i pan fydda i'n datblygu nhw 'ehangwch eich gorwelion! Ewch a thrio pethau tu allan i Brydain - mae 'na bêl-droed tu allan i Uwchgynghrair Lloegr', er yn aml iawn da ni'n gallu anghofio hynny.

"Dwi'n gobeithio bydd hyn yn agor y drws i nifer o hyfforddwyr arall o Gymru i fod yn mynd ar genadwriaeth yna i wledydd Ewrop, Affrica a gweddill y byd."

Rheoli tîm cenedlaethol Cymru rhyw ddydd?

"Mae wastad wedi bod yn freuddwyd i mi i hyfforddi'r tîm cenedlaethol, dwi 'di hyfforddi bob tîm cenedlaethol arall sydd ganddom ni.

"A ddaw'r cynnig yna? Pwy a ŵyr?... a ddaw'r cynnig ar yr amser iawn i mi? Eto, pwy a ŵyr?... ond yn sicr un peth dwi'n wybod ydi mod i wedi llwyr fwynhau'r holl brofiad a'r cyfle dwi wedi gael, a dwi erioed wedi cymryd y profiad yna'n ganiataol. Wedi cael y cyfle nes i drio gwneud yn saff mod i ddim yn gadael fy hun, na'r cyfle i lawr, oherwydd oedd o'n rhywbeth pwysig i mi ac i bawb yng Nghymru.

"Os na ddaw'r cyfle, yna fe alla i edrych nôl efo balchder. Os daw o, nawn ni bwyso a mesur bryd hynny - elli di ddim cynllunio ymlaen yn rhy bell yn y proffesiwn yma."

Gall Cymru gyrraedd Euro 2020?

"Mae rhaid ennill pedair o'r pum gem. Does 'na ddim rheswm pam allwn ni ddim ennill nhw i gyd. Rhaid ennill yn erbyn Azerbaijan, fydd ddim yn hawdd, ac yna creu momentwm. Mae'r presennol yn bosib, ond yn sicr mae'r dyfodol yn nwylo'r chwaraewyr ifanc 'ma. Dyna sy'n rhoi pleser i mi, allai adael gyda'r presennol yn gadarn a'r dyfodol yn eithriadol o gadarn."

Hefyd o ddiddordeb: