Pryder am swyddi dur yn dilyn cyhoeddiad cwmni Tata

  • Cyhoeddwyd
Tata Steel , Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 4,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan Tata ym Mhort Talbot

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am drafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU ar ôl i gwmni Tata Steel gyhoeddi ei fod yn bwriadu gwneud gwaith dur Port Talbot yn "hunangynhaliol".

Dywedodd Tata Steel ei fod yn bwriadu gwerthu cangen Ewropeaidd y busnes a chadw busnes y DU i redeg heb gefnogaeth ariannol o India.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, fod y newyddion yn "destun pryder mawr" i 8,000 o weithwyr y cwmni.

Dywedodd Tata ei fod yn siarad gyda Llywodraeth y DU am ddyfodol y busnes.

Cyhoeddodd y busnes o India fod cwmni dur SSAB o Sweden wedi cychwyn trafodaethau am brynu eu busnes yn yr Iseldiroedd, gan gynnwys gwaith dur yn Ljmuiden.

Dywedodd Tata ei fod yn bwriadu gwahanu canghennau busnes y DU a'r Iseldiroedd a "bydd yn dilyn llwybrau strategol ar wahân ar gyfer busnes yr Iseldiroedd a'r DU yn y dyfodol".

Dywedodd TV Narendran, Prif Swyddog Gweithredol a rheolwr gyfarwyddwr Tata: "Yn Ewrop, er bod yr amgylchedd cyffredinol yn parhau i fod yn heriol ac adferiad yn fwy graddol, bu gwelliant yn y gymysgedd o werthiant a chyfaint nwyddau.

"Byddwn yn parhau i yrru perfformiad a gweithio ar benderfyniad strategol i sicrhau bod y ffocws yn parhau ar lif arian a hunangynhaliaeth.

"Rydym yn parhau â'n trafodaethau â llywodraeth y DU ynghylch strategaeth ein busnes yn y DU yn y dyfodol."

'Galw am weithredu ar frys'

Dywedodd Ken Skates ei fod gyda'r prif weinidog Mark Drakeford wedi siarad gyda Tata ddydd Gwener a bod y cwmni'n dweud ei fod yn benderfynol o ddarganfod dyfodol hyfyw i'r busnes yn y DU a sicrhau bywoliaeth 8,000 o'u gweithwyr.

"Mae Prif Weinidog Cymru yn ceisio sicrhau trafodaethau brys gyda'r Prif Weinidog, a byddaf yn siarad â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwylliannol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i alw am weithredu ar frys," meddai Mr Skates.

"Mae'r diwydiant nawr yn aros i Lywodraeth y DU weithredu ar unwaith i ddiogelu'r sector a gwarchod swyddi. Mae pob diwrnod nad ydyn nhw wrth y bwrdd trafod yn ddiwrnod arall sy'n cael ei golli i weithwyr ac i ddiwydiant o bwysigrwydd strategol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cefnogaeth sylweddol i Tata dros y blynyddoedd i sicrhau bod dur yn parhau i fod â dyfodol yng Nghymru.

"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn dyfodol y diwydiant ond mae angen i Lywodraeth y DU weithredu'n bendant a gwneud yr un peth nawr. Mae'n hanfodol ein bod yn cadw sector dur cynhenid ​​i gwrdd â'r heriau o beidio â bod yn rhan o'r UE."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Tony Brady, swyddog cenedlaethol dur gydag undeb Unite fod newyddion heddiw "i bob pwrpas yn golygu y bydd busnes dur Ewropeaidd Tata bellach wedi'i leoli yn y DU yn unig".

"Gyda Brexit yn agosáu'n gyflym mae'n hanfodol bod busnes dur Tata yn y DU yn gallu parhau i fasnachu'n effeithiol ar draws yr Undeb Ewropeaidd," meddai.

"Mae hyn yn golygu ei bod yn hanfodol bod y DU yn dod i gytundeb masnach gyda'r UE yn ystod yr wythnosau nesaf."

'Moment hanfodol'

Ychwanegodd: "Ochr yn ochr â hyn rhaid bod penderfyniad gan Lywodraeth y DU i gymryd pob cam posib i helpu i sicrhau bod gweithfeydd dur Prydain Tata yn ffynnu i'r dyfodol.

"Os yw Llywodraeth y DU eisiau cadw capasiti cynhyrchu dur yn y DU, ni all sefyll a gwylio heb wneud dim bellach.

"Mae angen ymrwymiad strategol eang a hir dymor ar sector dur y DU gan y llywodraeth ganolog ac mae angen iddo gynnwys buddsoddiad ariannol sylweddol.

"Mae'r sector yn darparu miloedd o swyddi da mewn cymunedau ledled Cymru a'r DU. Mae hon yn foment hanfodol, ac mae'r amser wedi dod i weithredu'n bendant i ddiogelu'r swyddi hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

'Sicrhau dyfodol cynaliadwy'

Dywedodd Nia Griffith AS, Llefarydd Llafur ar Gymru: "Rhaid i Lywodraeth y DU weithio'n adeiladol gyda Tata, Llywodraeth Cymru ac undebau llafur a chyflwyno pecyn angenrheidiol o gymorth.

"Mae dur yn sector hanfodol, strategol bwysig a fydd yn hanfodol ar gyfer ein hadferiad economaidd ac sydd eisoes wedi wynebu heriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Mae angen buddsoddiad arnom gan y Trysorlys i sicrhau dyfodol cynaliadwy, parhaus i'r sector yma yn y DU."

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros yr Economi, Busnes a Seilwaith yn Senedd Cymru, Russell George AS, hefyd wedi ymateb i'r newyddion.

Dywedodd Mr George: "Mae parch mawr ar hyd y byd tuag at y diwydiant dur yn y DU - yn enwedig yng Nghymru ac ym Mhort Talbot - felly er bod hyn yn newyddion pryderus, mae gan ein gweithwyr dur yma enw da am gynhyrchu dur o ansawdd uchel.

"Felly, er y bydd hwn yn gyfnod gofidus a phryderus iawn i bawb sy'n gweithio ar y safle yng Nghymru, deallaf fod Tata yn parhau â'i ddeialog â Llywodraeth y DU ar fesurau posibl i ddiogelu dyfodol tymor hir eu busnes yn y DU."