Ofnau am filoedd o swyddi yng ngwaith dur Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
Tata Steel , Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 4,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan Tata ym Mhort Talbot

Mae yna ofnau am "filoedd o swyddi" yn ffatri cwmni dur Tata ym Mhort Talbot.

Dywed AS Aberafan, Stephen Kinnock, bod adroddiadau yn y wasg am gau dwy ffwrnais chwyth a chael ffwrneisi trydan yn eu lle yn codi "cwestiynau mawr" am ddyfodol y diwydiant dur.

Ond mae grŵp Tata yn dweud nad oes penderfyniadau wedi eu gwneud hyd yma a bod yr adroddiadau yn "ddigynsail".

Dywed Undeb Community eu bod yn ceisio cael gwybodaeth gan y cwmni am beth yn union sy'n digwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Kinnock AS yn bryderus am y cynlluniau

Dywed Mr Kinnock mai gan adroddiadau papur newydd y cafodd wybod bod cwmni Tata wedi cyflwyno'r cynllun i lywodraeth y DU.

"Ddylen nhw ddim fod yn gwneud cynigion o'r math yma," meddai, "heb drafod yn gyntaf gyda'r gweithlu a'r undebau.

"Mae'r ffwrneisi chwyth yng ngwaith dur Port Talbot yn rhan allweddol o gynhyrchu dur yng Nghymru a'r DU ac os nad oes gennym y ffwrneisi yma does dim posib cynhyrchu dur o'r un ansawdd na chynnig yr un amrywiaeth.

"Felly mae'r cynnig yma yn codi cwestiynau mawr am ddyfodol y diwydiant - gallai miloedd ar filoedd o swyddi fod yn y fantol."

Ymateb Tata

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Tata bod eu gwaith yn y DU yn wynebu "heriau" yn sgil haint coronafeirws.

"Ry'n yn cynnal trafodaethau gyda llywodraeth San Steffan ar nifer o opsiynau am ddyfodol y gwaith gan gynnwys cynlluniau a fyddai o fudd i'r amgylchedd.

"Felly nid yw'n ddoeth ar hyn o bryd rhoi sylwadau ar adroddiadau digynsail nac ar effaith unrhyw newidiadau yn y dyfodol.

"Os fydd yna ddatblygiadau, byddwn yn dweud wrth y gweithlu yn gyntaf ac yn ymgynghori gyda chynrychiolwyr staff."

Ymateb yr undeb

Dywedodd llefarydd ar ran Community, undeb y gweithwyr dur: "Rydym yn ceisio eglurhad ar frys gan Tata ond mae un peth yn sicr ni fydd yr undebau yn derbyn diwedd cynhyrchiad dwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot - byddai hynny'n gadael y DU heb y gallu i wneud amrywiaeth o ddur arbenigol.

"Mae hanner y swyddi ym Mhort Talbot yn gysylltiedig â chynhyrchu dur a byddai'r cynllun hwn yn difetha'r dref a'r gymuned.

"Os bydd angen byddwn yn barod i frwydro i warchod bywoliaeth ein haelodau a dyfodol ein diwydiant."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Tata nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gnweud

Daw hyn ychydig wythnosau wedi i aelodau seneddol y gwrthbleidiau alw ar Lywodraeth y DU i roi benthyciadau i gwmnïau dur o ganlyniad i ostyngiad yn y galw am ddur yn sgil haint coronafeirws.

Roedd y diwydiant dur, meddent, yn dioddef cyn y pandemig, ond mae'r galw am ddur wedi lleihau yn sylweddol erbyn hyn.