Covid 19: Swyddogion prawf yn wynebu mwy o heriau

  • Cyhoeddwyd
Salli Dixon
Disgrifiad o’r llun,

Salli yn siarad â throseddwr rhyw sy'n ystyried dychwelyd i'r carchar am ei fod methu ymdopi

Mae gweithio gartref yn ystod y pandemig wedi dod â heriau ychwanegol i swyddogion prawf sy'n rheoli risgiau troseddwyr difrifol.

Mae llawer wedi gorfod ymdrin â materion annymunol yn eu cartrefi, gan eu bod yn delio â throseddwyr treisgar neu droseddwyr rhyw tra'n gweithio adref.

Mae Salli Dixon yn rhan o'r tîm arbennig o swyddogion prawf sydd fel arfer wedi'i leoli mewn gorsaf heddlu.

Er bod rhai apwyntiadau wyneb yn wyneb wedi parhau, naill yn y swyddfa neu ar garreg drws y troseddwr, mae'n rhaid iddi gynnal apwyntiadau eraill dros y ffôn neu drwy alwad fideo.

Mae'r pandemig hefyd yn golygu bod mwy o'r gwaith yn cael ei wneud o gartrefi swyddogion gan gynnwys gwaith gyda throseddwyr rhyw.

"Mae hi ychydig yn anoddach diffodd yn feddyliol ac rydych chi'n cael sgyrsiau anodd iawn yn eich cartref, sy'n teimlo ychydig yn ymwthiol," meddai.

"Ond nid yw wedi gwneud y gwasanaeth yn llai gweithgar. Allwn ni ddim cael gwasanaeth llai effeithiol - rydyn ni'n diogelu'r cyhoedd, felly rydyn ni wedi gorfod addasu."

Diwrnod Salli

Mae galwad cyntaf Salli gyda throseddwr rhyw gyda phlant sy'n byw mewn llety 'hanner ffordd' ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar yn ddiweddar.

Mae wedi cael prawf Covid-19 positif ac mae wedi cael ei symud i fan hunan-ynysu sy'n golygu bod yn rhaid i'r apwyntiad rhyngddynt fod dros y ffôn.

Mae'n dweud wrthi ei fod yn bryderus ynglŷn â chynlluniau i ddod o hyd i'w fflat ei hun - lle byddai'n byw ar ei ben ei hun yn llawn amser.

Mae'r amser y mae'r rhai sy'n gadael carchar yn ei dreulio mewn safleoedd sydd wedi eu cymeradwyo - fel llety hanner ffordd - wedi'i leihau yn ystod y pandemig.

'Clywed pethau sy'n ein dychryn'

"Dy'n ni ddim yn gwbl ansensitif fel swyddogion prawf, oherwydd rydym yn dal i glywed pethau sy'n ein dychryn. Dim ots pa mor hir 'dych chi wedi gwneud y swydd mae'n eithaf anodd weithiau ac yn eithaf anarferol clywed rhywun yn siarad yn agored am eu teimladau rhywiol tuag at blant," medd Salli.

Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n ni dal yn clywed pethau sy'n rhoi sioc i ni," medd Sally sy'n swyddog prawf

Mae'r tîm bach yn delio ag achosion cymhleth - fel trais yn y cartref neu droseddwyr rhyw sydd hefyd â phroblemau ychwanegol fel anhwylder personoliaeth, problemau iechyd meddwl cymhleth neu gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Mae gan y tîm, sy'n cael ei alw'n WISDOM (Rheoli Troseddwyr Difrifol a Pheryglus Integredig Cymru) lai o achosion am fod y risgiau yn uwch ac mae ganddynt hefyd fwy o adnoddau na swyddogion prawf arferol.

'Ystyried dychwelyd i'r carchar'

Mae ei hail achos o'r dydd yn gallu dod i'r swyddfa. Fe wnaeth o gyflawni trosedd rhyw yn erbyn oedolyn bregus a chafodd ei ryddhau yn gynharach eleni ar ôl degawdau yn y carchar.

Mae llawer wedi newid ers iddo fod yn ddyn ifanc allan o'r carchar ac mae'n dweud bod cyflymder bywyd o'i gymharu â'r carchar wedi teimlo'n llethol ar adegau.

Wythnosau ar ôl ei ryddhau, cyhoeddwyd y cyfnod clo ac mae'n ystyried a fyddai'n well bod yn ôl yn y carchar.

"Rydyn ni wedi gwneud llawer o waith o gwmpas yr hyn sy'n mynd yn dda a'r rhesymau y mae am aros allan," meddai Salli.

"Os y'ch chi'n atgyfnerthu hynny ddigon, byddan nhw'n gwneud newidiadau a byddan nhw'n aros allan. Mae wedi gwneud yn rhyfeddol o dda."

Newid bywydau pobl

Mae Salli yn parhau i gynnal rhai ymweliadau cartref ond maent bellach ar garreg y drws sy'n gwneud y gwaith yn fwy heriol.

Mae defnyddio galwadau fideo hefyd yn golygu y gellir gwneud mwy o ymweliadau mewn diwrnod, ond os yw Salli yn gweithio gartref mae'n rhaid iddi wneud yn siŵr nad oes eitemau personol i'w gweld.

Disgrifiad o’r llun,

Mae un o'r troseddwyr rhyw y mae Salli yn ei gynghori wedi cael cryn drafferth byw y tu allan i'r carchar ond bellach yn gwneud yn "rhyfeddol o dda", meddai

"Byddwn yn ceisio cael galwadau fideo yn y swyddfa oherwydd nid yn unig y mae'n fwy diogel ond rwyf yn y ffrâm iawn o feddwl i fod yn siarad â rhywun os ydw i mewn amgylchedd swyddfa."

Mae Covid-19 hefyd wedi dod â mwy o heriau ymarferol i'r rhai y mae'n gweithio gyda nhw.

"Mae wedi ei gwneud hi'n anos i bobl gael gafael ar bethau sylfaenol fel tai, arian a chredyd cynhwysol, cofrestru gyda meddyg a chael presgripsiwn. Rydym wedi gorfod bod ychydig yn fwy ymarferol o ran helpu pobl i ddechrau eto," ychwanegodd.

Mae'r hyn ry'ch yn ei gyflawni yn eich cadw i fynd, meddai, ac mae'n falch o'r lles y mae'r tîm yn ei wneud dros y gymuned ehangach.

"'Dyn ni'n newid bywydau pobl.

"Fyddwn i ddim yn ei wneud pe na bawn i'n ei fwynhau. Mae yna dda a drwg ac rydych chi'n gwybod na allwch chi helpu i newid pawb. Mae'n rhaid i chi reoli eich disgwyliadau ynglŷn â'r hyn y gallwch helpu pobl i'w gyflawni."