Gething: 'Rhy gynnar i benderfynu ar reolau'r Nadolig'

  • Cyhoeddwyd
Y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething

Mae hi'n rhy gynnar i allu dweud beth yn union fydd y rheolau Covid adeg y Nadolig, yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru.

Fe bwysleisiodd Vaughan Gething AS na fydd pethau yn ôl i'r drefn arferol eleni.

Dywedodd ei fod wedi gweld lluniau o bobl yn ciwio i fynd i siopau dros y penwythnos a rhai yn dangos pobl ddim yn cadw pellter o'i gilydd.

"Pe bai hynny yn parhau fe fyddwn yn wynebu dewisiadau anodd," meddai yng nghynhadledd newyddion y llywodraeth ddydd Llun.

"Mae angen i bawb chwarae eu rhan a dwi wedi gweld delweddau sy'n fy mhryderu lle mae pobl wedi anghofio am ymbellhau ac yn dychwelyd i ffordd fwy normal o ymddwyn.

"Nawr pe bai hynny yn parhau rydym yn wynebu dewisiadau anodd.

"Mae'r feirws yn un hynod heintus sy'n ymledu yn gyflym gyda chyswllt dynol."

Dywedodd dyna pam ei fod yn anodd rhoi darlun pendant o beth fydd yn digwydd yn ystod cyfnod y Nadolig.

Yn y cyfamser, cafodd dau yn rhagor o farwolaethau ac 892 achos positif arall o Covid-19 eu cadarnhau ddydd Llun, sy'n dod â chyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig i 2,209.

Roedd y nifer fwyaf - 118 - yng Nghaerdydd gyda 93 achos newydd yn Rhondda Cynon Taf, 86 yn Abertawe, 70 yng Nghaerffili, 57 ym Mlaenau Gwent a 54 yng Nghastell Nedd-Port Talbot.

Yn ôl Mr Gething roedd yna "ostyngiad mawr" wedi bod ledled Cymru yn nifer yr achosion a bod hynny yn "newyddion da".

Ond ychwanegodd y byddai dal yn cymryd rhai wythnosau i weld canlyniadau llawn y cyfnod clo byr.

"Ni allwn gael syniad pendant ar hyn o bryd," meddai.

"Bydd angen i ni weld faint yn fwy mae'r graddfeydd yn gostwng cyn gwneud unrhyw benderfyniadau a oes modd gwneud unrhyw beth yn wahanol, boed hynny yn lleol neu'n genedlaethol."

Ond ychwanegodd y byddai'n well ganddo ef weld mesurau cenedlaethol.

Heriau profi mewn cartrefi gofal

Wrth ymateb i gwestiynau newyddiadurwyr, fe wrthododd Mr Gething yr honiad fod pobl yn marw mewn cartrefi gofal oherwydd bod canlyniadau profion yn cymryd gormod o amser.

Dywedodd fod yr honiad, a wnaed gan Will Hayward o WalesOnline yn "honiad wedi ei seilio ar wybodaeth oedd ddim yn gyflawn".

"Rydym yn gwybod fod yna heriau ar gyfer profion mewn cartrefi gofal. Rydym wedi bod yn glir ynglŷn â hynny.

"Rydym nawr yn dechrau gweld y darlun yn gwella wrth weld canlyniadau o labordai goleudai."

Dywedodd mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am y labordai hynny.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o achosion o'r haint wedi cael eu darganfod yng nghartref gofal Hafan y Waun yn Aberystwyth

Wrth ymateb i'r sylw dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth, y dylai gweinidogion fod yn gweithio i sicrhau fod perthnasau gymaint ag sy'n bosib yn gallu rhoi cefnogaeth i'w hanwyliaid mewn cartrefi gofal.

Dywedodd ei fod wedi derbyn sawl e-bost gan etholwyr yn mynegi pryder am y diffyg cyswllt gyda pherthnasau oherwydd coronafeirws.

Dywedodd y dylai profion sy'n rhoi canlyniadau cyflym fod ar gael i bobl sy'n ymweld â chartrefi gofal.

Dywed llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Andrew RT Davies fod angen mwy o fanylion gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sefyllfa profion mewn cartrefi gofal.

Yn ôl Mr Davies roedd y gweinidog, wrth sôn am "drefn newydd", wedi rhoi gobaith i filiynau ond heb unrhyw "fanylion na chynllun cadarn".

Honnodd fod hynny yn greulon.

"Rwy'n annog y gweinidog i osod yr un rheolau ar gyfer perthnasau agos sy'n ymweld â chartrefi ag sydd ar gyfer staff, i gael rhaglen o brofi gyda chanlyniadau cyflym fel y gall teuluoedd gwrdd â'i gilydd unwaith eto."