'Blynyddoedd' i wella amseroedd aros wedi'r pandemig
- Cyhoeddwyd
Fe fydd hi'n cymryd blynyddoedd i wella amseroedd aros am driniaethau a hwythau wedi tyfu'n sylweddol yn ystod pandemig Covid-19 yn ôl pennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Mae ffigyrau rhestrau aros, sydd wedi'u cyhoeddi am y tro cyntaf ers mis Mawrth, yn dangos bod bron o 169,000 o bobl yn aros am driniaeth ysbyty.
Mae nifer y bobl sy'n aros am fwy na 36 o wythnosau am driniaeth sydd wedi'u trefnu yn chwe gwaith uwch nag ar ddechrau 2020.
Mae'r rhestr aros yn ei grynswth bellach wedi gweld cynnydd o fwy na 55,500.
Mae'r nifer wedi codi wedi i fwyafrif y triniaethau nad oedd yn rhai brys gael eu gohirio er mwyn i'r GIG allu paratoi ar gyfer y don gyntaf o achosion coronafeirws.
Ers hynny mae'r gwasanaeth wedi ceisio ailddechrau triniaethau sydd ddim yn rhai brys ac wedi ceisio sicrhau eu bod yn parhau i ddigwydd yn ystod yr ail don.
Mae'r data'n dangos fod bum gwaith yn fwy o gleifion wedi gorfod aros dros naw mis am driniaeth rhwng misoedd Mawrth ac Awst.
Er gwaetha'r camau cadarnhaol diweddar, mae Dr Andrew Goodall yn rhybuddio y gallai rhestrau aros dyfu rhagor - a bod "pryder gwirioneddol" y bydd meddygon ysbytai ond yn gall gweld tua hanner y nifer arferol o gleifion mewnol ac achosion dydd.
"Dyw'r rhestr aros ar y cyfan heb newid cymaint â hynny," meddai Dr Goodall. "Yr hyn sydd wedi digwydd yw bod cleifion wedi eu symud i ddiwedd y rhestr wrth i ni orfod blaenoriaethu achosion brys."
"R'yn ni wedi gweld gwelliant yn ein rhestrau aros dros y blynyddoedd diweddar ac fe fydd e'n cymryd blynyddoedd i ddod dros y pandemig, ac fe fydd yn cymryd buddsoddiad ac adnoddau hefyd."
Mae Dr Goodall yn dweud y bydd yn rhaid i'r gwasanaeth drawsnewid y ffordd mae'n gweithio ar ddiwedd y pandemig er mwyn mynd i'r afael â'r rhestrau aros.
Ond mae'n dweud fod newidiadau cyflym a wnaeth y gwasanaeth yn ystod y pandemig -er enghraifft, apwyntiadau dros fideo - yn dangos beth sy'n bosib.
"Fy marn bersonol i yw ei fod yn mynd i fod ymhell ar ôl y gaeaf cyn y bydd unrhyw beth yn teimlo'n normal eto ac y gallai gymryd blynyddoedd cyn y bydd ein rhestrau aros hiraf yn cael eu datrys. Ond dydw i ddim eisiau inni ymateb yn yr un hen ffordd hen ffasiwn."
"Os ydyn ni'n cario mlaen yn yr un ffordd ag y'n ni wastad wedi, fe fydd hyn yn cymryd amser hir i'w ddatrys. Ond mae'r gwasanaeth wedi profi ei fod yn gallu newid yn gyflym iawn ac wedi cyflawni pethau mewn diwrnodau ac wythnosau, pethau fydde fel arfer yn cymryd blynyddoedd a dwi'n gobeithio y gallwn ni ddod 'r agwedd yna i'n cynlluniau."
Yn ystod y pandemig mae cannoedd ar filiynau o bunnoedd wedi eu buddsoddi yn y gwasanaeth yng Nghymru ac fe fydd angen i'r buddsoddiad yna barhau yn yr hir dymor yn ôl Dr Goodall.
Cynnydd 500% ers cyn y pandemig
Roedd y ffigyrau diwethaf gafodd eu cyhoeddi ym mis Mawrth yn edrych ar amseroedd aros ym mis Ionawr.
Erbyn mis Medi:
Roedd yna gynnydd o 518% yn nifer y cleifion fu'n rhaid aros dros 36 wythnos, sef naw mis, am driniaeth ysbyty - o 27,314 ym mis Ionawr i 168,944;
Roedd yna gynnydd hefyd o 136% yn y nifer fu'n aros rhwng chwech a naw mis - o 49,548 i 116,807;
O'i gymharu â blwyddyn yn ôl, mae'r nifer ar restr aros am fwy na naw mis wedi cynyddu 800%.
O blith yr oedi hiraf, roedd 41,202 o bobl yn aros am driniaeth orthopedig neu driniaeth trawma - cynnydd o 372% ers Ionawr. Roedd 203 - bedair gwaith yn uwch - yn aros am lawdriniaethau cardiothorasig, sy'n ymwneud â'r galon, y fron a'r ysgyfaint.
Yn ôl targedau Llywodraeth Cymru fe ddylai 95% o gleifion gael eu trin o fewn 26 wythnos a ddylai neb fod yn aros mwy na 38 wythnos.
Mesurau perfformiad newydd
Yn ogystal â ffigyrau rhestrau aros mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tri mesur perfformiad arbrofol newydd ar gyfer adrannau brys:
Amser triage: yr amser ar gyfartaledd mae rhywun yn gorfod aros am asesiad cychwynnol. Gall cyflwr y claf fod yn un o dri chategori - yn syth, brys iawn, neu frys. Bu'n rhaid i gleifion categori brys iawn neu frys aros ar gyfartaledd am 15 ac 16 o funudau.
Amser i weld meddyg: yr amser mae claf yn aros ar gyfartaledd i weld doctor. Cafodd 58.4% eu gweld o fewn "amser dilys".
Canlyniad: Gwybodaeth ar le mae cleifion yn mynd ar ôl cael eu hasesu a'u trin gan yr adran frys. Cafodd 25.9% eu danfon i ran arall o'r ysbyty, doedd dim angen camau pellach yn achos 43.9%, ac fe gafodd 12.1% eu cyfeirio at feddyg teulu.
Does dim targedau wedi eu pennu ar gyfer y mesurau yma, a gafodd eu datblygu, medd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys mewnbwn staff adrannau brys.
Mae Dr Jo Mower yn ymgynghorydd gofal dwys ac wedi gweithio fel ymgynghorydd yng Nghaerdydd am yr 16 mlynedd diwethaf - ac mae hi wedi helpu i ddatblygu'r mesurau newydd.
Mae hi'n dweud mai'r hyn sy'n allweddol yw cael cleifion "i'r lle iawn ar yr adeg iawn" ac mae hi'n credu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hyn.
Yn ogystal â'r system triage ar gyfer cleifion sy'n dod i'r ysbyty mewn ambiwlans, mae'n ffyddiog y bydd y system yn well i'r rheiny sy'n dod i'r adran frys hefyd.
Y targed presennol yw y dylai 95% o gleifion aros am lai na phedair awr yn yr adrannau brys - ond dyw'r targed yma ddim wedi ei gyrraedd ers cael ei gyflwyno yn 2010.
Ym mis Hydref cafodd 76.5% o gleifion adrannau damwain a brys eu gweld, trosglwyddo neu anfon adref o fewn pedair awr - gwelliant bach o'i gymharu â mis Ionawr, a sefyllfa gyfatebol i un Hydref 2019.
Bu'n rhaid i 4,360 o gleifion aros am fwy na 12 awr, er bod targed i neb orfod aros cyhyd.
Mae rhai'n pryderu nad yw'r mesurau presennol yn adlewyrchu safon y gofal.
Yn y cyfamser, roedd yna gynnydd o 13.5% ym mis Medi yn nifer y cleifion wnaeth ddechrau gael triniaeth dan y Llwybr Canser Unigol, o'i gymharu â mis Awst.
Er hyn roedd dal yn golygu triniaeth ar gyfer 1,145 yn llai o gleifion o'i gymharu â 12 mis ynghynt.
Am y trydydd mis yn olynol, fe fethodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei darged o gyrraedd 65% o alwadau coch, ble mae bywyd yn y fantol, o fewn wyth munud.
Ym mis Hydref, fe gyrhaeddodd 60.8% o fewn wyth munud. Dywed rheolwyr bod hi'n gallu cymryd hyd at chwe munud i staff roi eu holl offer PPE ymlaen cyn gweld pob claf, ac mae bellach yn cymryd o leiaf 20 munud i lanhau ambiwlans wedi pob galwad.
Ymateb
Mae'r ffigyrau'n "llwm" medd cadeirydd BMA Cymru, David Bailey.
Yr hyn sy'n hollbwysig nawr, meddai, "yw negeseuon clir i'r cleifion, llawer o'u plith sydd wedi, ac yn parhau, i ddioddef, oherwydd yr oedi yma.
"Gall cyfathrebu clir sy'n rhoi syniad o le maen nhw yn y system, gynnig rhywfaint o dawelwch meddwl. Mae cael dim gwybodaeth o gwbl yn drallodus eithriadol i lawer."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw eto am gynlluniau i fynd i'r afael ag achosion sydd wedi pentyrru ac i gynyddu capasiti mewn ysbytai sy'n canolbwyntio ar drin cyflyrau heblaw coronafeirws.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw am sicrhau safleoedd sy'n glir o'r feirws er mwyn trin cyflyrau eraill, yn ogystal â rhoi sylw i atal trosglwyddiad o fewn ysbytai eraill.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod trawsnewid gwasanaethau ysbyty mewn ymateb i'r argyfwng iechyd wedi cael "effaith fawr ar gapasiti, gweithgarwch ac amseroedd aros."
Ychwanegodd bod gan holl fyrddau iechyd Cymru "gynlluniau i weithredu o dan yr amgylchiadau newydd hyn a gweld cleifion yn ôl blaenoriaeth glinigol, ond bydd yn cymryd amser hir i ddychwelyd i'r sefyllfa yr oeddem ynddi cyn y pandemig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2020