Cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy'n disgwyl am driniaeth

  • Cyhoeddwyd
ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd o leiaf 49,000 o bobl yng Nghymru wedi bod yn disgwyl dros flwyddyn am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym mis Medi, yn ôl ffigyrau newydd.

O'r nifer yna - sy'n cynnwys chwech o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru - mae 25,000 yn disgwyl am lawdriniaeth.

Mae'n dangos bod 10 gwaith yn fwy o bobl yn disgwyl am driniaeth nag oedd yna flwyddyn yn ôl.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "penderfyniadau anodd" wedi eu gwneud i ohirio llawdriniaethau.

Ychwanegodd y byddai canlyniadau i gleifion wedi bod yn waeth pe byddan nhw ddim wedi gweithredu fel y gwnaethon nhw.

Dangosodd y ffigyrau, a ddaeth i law BBC Wales Investigates o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fod mwy na 18,000 o bobl yn aros am unrhyw fath o driniaeth ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae hynny ddwywaith y swm ym myrddau iechyd Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg. Roedd gan y ddau ohonyn nhw 9,000 o gleifion yn aros.

Bae Abertawe oedd â'r mwyaf yn aros am lawdriniaeth - 7,801 - gyda Betsi Cadwaladr ar 7,620.

Nid yw ffigyrau ar gyfer Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi'u cynnwys gan nad oes modd cymharu ei ddata.

'Rhestr flaenoriaeth'

Mae Gaye Moran, 74 oed o Landudno, wedi bod yn disgwyl am lawdriniaeth fasgiwlar ac ar ei chlun ers 17 mis.

Dywedodd ei bod wedi cael ei roi ar "restr flaenoriaeth" am y ddwy lawdriniaeth ym Mawrth 2019 yn dilyn cymhlethdodau gyda llawdriniaeth flaenorol.

Mae hi nawr yn un o 7,620 sydd wedi bod yn disgwyl mwy na blwyddyn yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Gaye Moran
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gaye Moran wedi bod yn disgwyl dros flwyddyn am ei llawdriniaeth

"Mae'n gwneud i mi deimlo'n anobeithiol," meddai. "Dwi methu ei roi i un ochr achos mae yna drwy'r amser."

Dywedodd Ms Moran fod ganddi edmygedd mawr o'r gwaith y mae'r GIG yn ei gwneud.

Ond heb wybod pryd y gall ei llawdriniaeth ddigwydd, a gyda'r newyddion y gallai rhestrau aros gymryd blynyddoedd i'w clirio, mae'n teimlo'n bryderus.

"Dydy'r clo yma ddim yn helpu oherwydd eich bod yn gorfeddwl pethau," ychwanegodd.

Ymateb y bwrdd

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod ei allu i wneud llawdriniaethau dewisol ar hyn o bryd oddeutu 60%, ond bod gwasanaethau rheoli poen yn cael eu hystyried yn hanfodol, ac wedi cael eu cadw.

Dywedodd Teresa Owen, Dirprwy Brif Weithredwr dros dro y bwrdd, ei bod yn "llwyr gydnabod" ei bod yn "gyfnod pryderus" i'r rhai sy'n disgwyl am driniaeth.

"Yn y tymor byr ry'n ni'n ceisio cyflawni mwy o apwyntiadau cleifion allanol a gweithredoedd theatr gyda'r nos ac ar benwythnosau," meddai.

"Ry'n ni hefyd yn dechrau cyflwyno adeiladau modiwlar i ffwrdd o safleoedd ysbytai lle y gall profion diagnostig, endoscopïau a llawdriniaeth ar y diwrnod gael eu gwneud.

"Bydd hyn yn cynnig awyrgylch mwy diogel rhag Covid-19 i staff a chleifion."

'Dim dewis hawdd'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, nad oedd "dewisiadau hawdd" wrth ddelio gyda'r pandemig a gwasanaethau eraill y GIG, ac mae'n disgwyl y bydd angen tymor seneddol arall i bethau gael eu hadfer.

"Oherwydd y dewisiadau yr ydym wedi eu gwneud," meddai, "does dim dwywaith y gwelwn ni ganlyniadau salach ac mae hynny yn golygu mwy o bobl yn cael anabledd y byddai modd ei osgoi, mwy o bobl efallai'n colli eu bywydau.

gething
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething yn disgwyl y bydd angen tymor seneddol arall i adfer y sefyllfa

"Ond pe bydden ni heb wneud dim, ry'n ni'n gwybod yng nghanol mis Mawrth y gallen ni fod wedi bod fel gogledd Yr Eidal... roedd y gwasanaeth iechyd wedi ei lethu'n llwyr, a fydden ni ddim wedi medru ehangu'r capasiti gofal critigol.

"Pe bydden ni wedi ceisio gyrru'r system yn galetach ym misoedd Gorffennaf ac Awst ar ôl dod allan o gyfnod eithriadol brysur, rwy'n credu y byddai hynny wedi cael effaith ddrwg ar ein staff a'n gwasanaethau.

"Fedrwn ni ddim gwneud cynllun nawr am y pum mlynedd nesaf, oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod beth fyd ein sefyllfa yn Ionawr, Chwefror na Mawrth... felly rhaid i ni ddelio gyda'r sefyllfa yr ydym ynddi cyn edrych i'r dyfodol, ac wrth gwrs fe fyddwn yn edrych at gael cynllun adfer cyflawn."

BBC Wales Investigates: The hidden cost of Covid, 20:30 ddydd Mawrth, ac ar iPlayer wedi hynny.