Ateb y Galw: Y cerddor Richard 'Fflach' Jones

  • Cyhoeddwyd
Richard JonesFfynhonnell y llun, Richard Jones

Y cerddor Richard 'Fflach' Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Geraint Løvgreen yr wythnos diwethaf.

Ynghyd â'i frawd Wyn, Richard yw un o aelodau gwreiddiol y band pync Ail Symudiad, a gafodd ei sefydlu yn 1978. Mae'r band dal i chwarae gyda'i gilydd, ac ym mis Awst, perfformiodd y band yn angladd un o'u ffans mwyaf, a'u ffrind, y cyflwynydd radio Tommo. Sefydlodd y brodyr y label recordio Fflach yn Aberteifi, eu tref genedigol, yn 1981.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Adre yn Tenby Road gyda'n rhieni, yr afon (Teifi), lan y môr a "helpu" Tadcu gyda'i waith adeiladu.

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

Yn fy arddegau, Julie Christie.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Gwylio Marvellous, y ffilm am Neil 'Nello' Baldwin, cefnogwr Stoke City. Stori anhygoel am ddyn arbennig.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caernarfon a'r ardal. Yn y dre hyn chwaraeodd Ail Symudiad am y tro cyntaf tu allan i Aberteifi a'r fro, a fe wnaeth e argraff mawr arna i, ac yn dal i fwynhau mynd yna.

Ffynhonnell y llun, Ail Symudiad
Disgrifiad o’r llun,

Gig gyntaf Ail Symudiad ym Mart Aberteifi yn 1979

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dim yn 'neud yn dda mewn arholiadau ysgol - ond gwnaeth y cywilydd ddim para' am hir!

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n cadw pysgod trofannol ers 35 mlynedd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson ennill Prif Grŵp Roc 1982 gyda'r cylchgrawn pop Sgrech, a chwarae o flaen dros fil yng Nghorwen.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Siaradus, di-hyder, caredig.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Teenage Kicks gan The Undertones. Cân llawn egni, yn dweud popeth am y cyfnod o'r don newydd/pync. Buodd Ail Symudiad yn ffodus i gwrdd â nhw yn Abertawe.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

John Charles, un o bêl-droedwyr gorau'r byd oedd yn haeddu mwy o sylw yng Nghymru a thu hwnt. Dyle fod cerflun ohono yng Nghymru. Seren ryngwladol, ym mhob ystyr y gair.

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o’r llun,

John Charles yn y gêm 1-1 yn erbyn Mexico yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Parti gyda teulu a ffrindiau.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mutiny on the Bounty (Julie Pearson). Diddordeb mawr yn y stori wir yma ac wedi bod yn Cockermouth, yn ardal y Llynnoedd, man geni y prif wrthryfelwr Fletcher Christian.

The Life of Brian, i fi y ffilm mwya' gwreiddiol a doniol erioed.

Podlediadau Elis James, doniol a gwesteion diddorol.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd y podlediad Dwy Iaith Un Ymennydd gyda Elis James wobr y Podlediad Cymraeg Gorau yng Ngwobrau Podlediadau Prydeinig 2020

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Unrhyw biliwnydd - a bydden i'n rhoi fy arian i gyd i ffwrdd i wledydd tlawd, elusennau a'r NHS.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Bhuna Prawn Puree; Chicken Tikka Danshak; Sorbet Lemwn.

Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?

Meilyr Emrys

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw