Darganfod caer Rufeinig mewn cae ger Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae caer Rufeinig wedi cael ei darganfod gerllaw Wrecsam - y gyntaf o'i math yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Wedi i synwyryddion metel ddod o hyd i ddeunydd Rhufeinig ar y safle yn Yr Orsedd, daeth archaeolegwyr o hyd i dystiolaeth a oedd yn dangos bod rhywbeth mwy wedi'i gladdu ar y safle.
Mae'r gweddillion sydd mewn cae yn cynnwys cerrig ac adeiladau sy'n amgylchynu cwrt mewnol.
Dywed un darlithydd archaeoleg y gallai'r canfyddiad newid y ffordd y mae haneswyr wedi bod yn meddwl am yr ardal yng nghyfnod y Rhufeiniaid.
Mae'r creiriau sydd wedi'u darganfod yn deillio o'r cyfnod rhwng y ganrif gyntaf a blynyddoedd cyntaf y bedwaredd ganrif sy'n awgrymu bod y gaer wedi bodoli am y rhan fwyaf o deyrnasiad y Rhufeiniaid ym Mhrydain.
Edrych o'r newydd ar hanes
Dywed Dr Caroline Pudney, Uwch-ddarlithydd Archaeoleg ym Mhrifysgol Caer a oedd yn rhan o'r gwaith: "Mae'r darganfyddiad hynod o gyffrous hwn yn newid ein dealltwriaeth o ogledd ddwyrain Cymru yn ystod concwest y Rhufeiniaid.
"Mae dehongliadau cynharach yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl yn byw mewn mannau cysylltiedig â safleoedd milwrol Rhufeinig neu mewn ffermydd a oedd yn parhau i wneud defnydd o ffurfiau pensaernïol tŷ crwn yr Oes Haearn.
Mae'r brifysgol a'r amgueddfa yn Wrecsam yn mynd i barhau i archwilio'r safle yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2019
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2019