Taflenni Covid-19 ffug yn 'codi ofn' yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
ysbyty LlwynhelygFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion sy'n byw ger Ysbyty Llwynhelyg wedi derbyn pamffledi

Mae taflenni sy'n lledaenu honiadau ffug am Covid-19 sydd wedi eu dosbarthu yn Sir Benfro wedi eu beirniadu'n hallt gan Weinidog Iechyd Cymru.

Mae'r taflenni yn honni bod y gwasanaeth iechyd a'r cyfryngau yn "camddehongli ffeithiau er mwyn creu'r argraff fod y pandemig yn un marwol".

Maen nhw wedi cael eu dosbarthu i gartrefi yn Crundale ger Hwlffordd a Manorbŷr.

Does dim gwybodaeth ar y daflen ynglŷn â phwy sydd yn gyfrifol am eu cynhyrchu a'u dosbarthu.

Codi ofn

Fe gysylltodd Simon Moffett gyda BBC Cymru ynglŷn â'r taflenni, ac mae hefyd wedi gwneud cwyn i Heddlu Dyfed-Powys.

"Fe aeth e mewn i'r blwch post dydd Llun. Roeddwn i yn meddwl fod e'n ofnadwy, oherwydd mae'n dweud nad yw cyfraddau marw yn uwch eleni na mewn blwyddyn pan mae'r ffliw yn wael, ond mae dros 3,000 o bobl ychwanegol wedi marw", meddai.

"Mae'n dweud lot o gelwyddau ac yn eich annog chi i anwybyddu'r rheolau. Mae'n codi ofn arnoch chi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn Sir Benfro wedi bod yn derbyn taflenni drwy ddrysau eu cartrefi

Yn ôl y gweinidog Vaughan Gething mae'n "bryderus iawn bod y taflenni hyn yn lledaenu newyddion ffug a chynllwynion ynglŷn â coronafeirws".

Does yna ddim manylion cyswllt ar y daflen, ond mae hi'n ymddangos bod un o'r gwefannau sy'n cael eu crybwyll ar y daflen wedi ei lleoli yn Nenmarc.

Mae'r wefan coronawhistleblower.org yn awgrymu "nad yw Covid-19 yn beryglus o gwbl" a bod pobl sydd yn ddifrifol wael yn mynd yn sâl am eu bod nhw'n pryderu am y feirws, a taw'r meddwl nid yr haint, sydd yn gwneud pobl yn sâl.

Mae Mr Moffett yn byw llai na dwy filltir o Ysbyty Llwynhelyg.

"Mae yna sawl meddyg a nyrs yn byw fan hyn. Da ni yn gwybod am bobl sydd wedi bod mewn yn yr ysbyty ac sydd wedi bod yn sâl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Facebook, Twitter a Google wedi addo ceisio atal gwybodaeth ffug rhag cael ei lledaenu am sawl pwnc, gan gynnwys brechlyn posib i'r coronafeirws

'Nonsens'

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y daflen yn cynnwys gwybodaeth ffug a chynllwynion ynglŷn â'r argyfwng Covid-19, a bod aelod o'r tîm plismona wedi siarad gyda'r sawl oedd wedi cwyno er mwyn "trafod y mater".

Yn ôl yr heddlu, roedd Llywodraeth Cymru bellach yn ymwybodol o'r cwynion.

Mae'r Aelod o'r Senedd dros Orllewin a Chanolbarth Cymru, Helen Mary Jones, yn bwriadu codi'r mater gyda Llywodraeth Cymru.

Dywedodd: "Mae'n amlwg yn nonsens, ond mae hi yn amlwg yn daflen sydd wedi ei chreu yn broffesiynol.

"Mae fe'n edrych yn gredadwy a dwi'n poeni am yr effaith ar bobl, yn enwedig rheiny dan straen.

"Mae fe'n hynod anghyfrifol. Dwi'n gwybod nad yw'n anghyfreithlon, ond fy mwriad i yw codi fe gyda Llywodraeth Cymru i weld a oes pethe gallwn ni wneud o fewn rheoliadau Cymru i rwystro pobl rhag rhannu'r fath yna o nonsens."