Ystyried cynyddu nifer cynghorwyr Ynys Môn o 30 i 35

  • Cyhoeddwyd
ynys mon

Fe allai'r nifer o gynghorwyr sir ym Môn gynyddu o 30 i 35 erbyn etholiad 2022, yn ôl argymhellion sy'n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.

Daw'r newid posib lai nag wyth mlynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru dorri nifer y cynghorwyr sir o chwarter tra'r oedd y cyngor o dan fesurau arbennig.

Yn ôl argymhellion terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mi fyddai'r newid yn "cyflawni gwelliant nodedig o ran lefel y cydraddoldeb".

Yn ôl Llywodraeth Cymru mi fydd gan bobl gyfle i leisio barn ar y cynllun "cyn i newidiadau posib" ddod i rym.

Yn dilyn cyfnod o drafod fe benderfynodd Comisiynwyr Llywodraeth Cymru leihau nifer y cynghorwyr o 40 i 30 yn 2012 yn dilyn cyfnod tymhestlog yn arweinyddiaeth y cyngor.

Y bwriad bryd hynny oedd "adfer democratiaeth" ym Môn, ond lai nag wyth mlynedd yn ddiweddarach mae'n debyg y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu newidiadau newydd gan arwain at ailstrwythuro tirlun gwleidyddol yr ynys unwaith eto.

Dan yr argymhellion newydd mi fyddai pum cynghorydd yn fwy ac mi fyddai'r 11 ward cyngor yn cynyddu i 14, gan roi cyfartaledd sirol arfaethedig o 1,461 o etholwyr fesul aelod.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi ei bod yn derbyn y bydd rhai pobl yn "herio pam bod hyn yn digwydd"

Dywedodd arweinydd y cyngor, Llinos Medi ei bod hi'n gobeithio y bydd y newidiadau yn gwneud swydd cynghorydd yn fwy deniadol i bobl ifanc a phobl o gefndiroedd lleiafrifol, gyda gobaith hefyd y bydd pwysau'r rôl yn lleihau rhywfaint.

"Mi fuodd 'na adolygiad ac adnabod ardaloedd lle oedd na ddiffyg cynrychiolwyr yna," meddai.

"Felly yng Nghaergybi, maen nhw'n argymell tair ward ar gyfer yr ardal yna. Yn Llangefni mae 'na newid i'r ffiniau yn yr ardal yna sy'n cynyddu'r nifer o aelodau."

'Anodd rhedeg awdurdod ar 30 cynghorydd'

Yn ôl yr arweinydd mae hi yn derbyn y bydd na rhai yn "herio pam bod hyn yn digwydd".

"Mae hi wedi bod yn anodd rhedeg awdurdod ar 30 cynghorydd, dydi'r cynrychiolwyr per head ddim yn gyfartal," meddai.

"Da' ni isio cynghorwyr ifanc, rhai sy'n gweithio ac mae'n rhaid i ni greu'r amodau cywir i gael cynrychiolwyr ifanc yn y maes."

Tra doedd y Cynghorydd Medi ddim yn gynghorydd yn 2012, mae hi'n derbyn fod y newid yn dro pedol a bod y cyngor wedi herio'r ffaith bod yn rhaid i gynghorwyr weithio'n galetach oherwydd y diffyg cynrychiolaeth.

"Mi oedd 25% yn goblyn o doriad ond 'da ni wedi gwella'r awdurdod hefyd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Bob Parry yn falch o weld y niferoedd yn cynyddu

Gyda newid arall ar y gorwel, mae'r Cynghorydd Bob Parry yn un sy'n cofio'r cyfnod cythryblus a arweiniodd at y newidiadau yn 2012.

"Mae'n hysbys i bawb, mi oedd 'na broblemau difrifol bryd hynny," meddai.

"Ni ydy'r unig sir sydd wedi cael toriad mor aruthrol ac o achos hynny does 'na ddim digon o gynghorwyr.

"Mae'r cynghorwyr sydd tu allan i'r pwyllgor gwaith yn gorfod gweithio'n galed."

Toriadau'n 'rhy llym'

Tra bod Mr Parry'n dweud fod y newidiadau strwythurol yn 2012 wedi helpu adfer rhai problemau o fewn y cyngor mae'n mynnu bod gormod o gynghorwyr wedi'u colli.

"Mi oedd o'n rhy llym yn fy marn i," meddai.

"Tasan nhw wedi edrych tua'r dyfodol basa nhw wedi torri i 35 fel maen nhw am neud rŵan, a basa ddim angen ailedrych ond mae o wedi gweithio a dyna sy'n bwysig."

Ardaloedd Caergybi, Llangefni a Gorllewin ynys Môn sy'n debygol o weld y newidiadau mwyaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi derbyn yr argymhellion ac mi fydd 'na gyfnod o ymgynghori cyhoeddus cyn unrhyw newid, ond yn ôl bob tebyg fe allai'r newidiadau ddigwydd erbyn etholiadau lleol 2022.