Ceidwadwr yn mynd a'i blaid i gyfraith dros ddad-ethol
- Cyhoeddwyd
Mae aelod Ceidwadol o Senedd Cymru yn mynd â'i gangen leol o'r blaid i gyfraith oherwydd ymgais gan aelodau i'w ddad-ethol fel ymgeisydd.
Mae Nick Ramsay yn ceisio rhwystro Cymdeithas Geidwadol Mynwy rhag cynnal cyfarfod i'w ddad-ethol yr wythnos nesaf.
Yn ôl ei gyfreithwyr byddai cam o'r fath yn groes i gyfansoddiad y gymdeithas.
Ond dywed y cadeirydd, Nick Hackett-Pain, fod y blaid yn ganolog yn dweud eu bod wedi ymddwyn o fewn y rheolau.
Ceisio gwaharddiad llys
Yn gynharach y flwyddyn hon cafodd Nick Ramsay ei wahardd o'r blaid ar ôl iddo gael ei arestio ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn. Cafodd ei ryddhau heb unrhyw gyhuddiadau ddeuddydd yn ddiweddarach.
Ar ôl iddo gymryd camau cyfreithiol, bu'n rhaid i grŵp Ceidwadol y Senedd ei aildderbyn fel ymgeisydd ar gyfer etholiad 2021.
Ond mae disgwyl i'r gymdeithas gyfarfod ddydd Llun i drafod deiseb sy'n galw am wyrdroi'r penderfyniad hwnnw.
Mae cyfreithwyr Mr Ramsay wedi dweud wrth y gymdeithas y byddant yn ceisio cael gwaharddiad llys i'w rhwystro rhag cynnal y cyfarfod, gan hawlio eu bod yn torri "cyfiawnder naturiol".
Dywedodd ei gyfreithwyr wrth BBC Cymru eu bod wedi cyflwyno cais i'r llys a bod disgwyl gwrandawiad yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Dywedodd Mr Hackett-Pain nad oedd y gymdeithas erioed wedi chwilio am anghydfod efo Mr Ramsay, ac mai ef oedd yn gyfrifol am unrhyw gamau cyfreithiol.
"Rydym wedi cael ein cynghori gan gyfreithwyr a phencadlys y Ceidwadwyr ein bod wedi ymddwyn yn gyfan gwbl o fewn y rheolau a'r hawliau ar bob achlysur."
Deellir fod y berthynas rhwng Mr Ramsay a'r gymdeithas wedi dirywio yn ystod 2020.
Pan holwyd am y berthynas yr wythnos diwethaf, dywedodd un ffynhonnell: "Mae'n amlwg bod 'na broblem pan mae ymgeisydd ceisio mynd a'i gymdeithas gyfan i gyfraith, ac yn eu llusgo i'r llys."
Gofynnwyd am sylw gan y Blaid Geidwadol, a grŵp y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru.
Dyma'r ail waith i Mr Ramsay gymryd camau cyfreithiol, ar ôl iddo fynd a Paul Davies - arweinydd y Torïaid yn Senedd Cymru - i'r llys ar ôl cael ei wahardd dros dro o'r grŵp.
Cafodd Mr Ramsay ei wahardd dros dro o'r blaid a'r grŵp ar ôl cael ei arestio ar Ddydd Calan eleni. Cafodd ei ryddhau'n ddi-gyhuddiad ddeuddydd wedyn.
Gorfodwyd Paul Davies i adael Mr Ramsay yn ôl i'r grŵp, yn dilyn dyfarniad gan yr Uchel Lys. Cafodd ei waharddiad dros dro o'r blaid ei godi yn ddiweddarach hefyd.
Deellir mai swyddogion o'r blaid yn ganolog fydd yn gofalu am y cyfarfod ddydd Llun, ac mai nhw fydd yn cyfri'r pleidleisiau.
Ond hyd yn oed pe byddai'r aelodau'n cefnogi'r ddeiseb, bydd angen rhagor o drafodaethau cyn y gellir dad-ethol Mr Ramsay.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2020