Llofruddiaeth Caergybi: Cyhuddo dau ddyn

  • Cyhoeddwyd
CaergybiFfynhonnell y llun, Geograph / Terry Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad yn ardal Stryd Thomas yng Nghaergybi

Mae dau ddyn wedi'u cyhuddo o lofruddio David John Jones, 58 oed, o Gaergybi yn dilyn ymosodiad arno yn y dref ar 17 Tachwedd.

Bu farw Mr Jones o ganlyniad i "anafiadau sylweddol" i'w ben yn Ysbyty Brenhinol Stoke ar ddydd Iau Tachwedd 19.

Bydd Gareth Wyn Jones, 47 oed, a Stuart Parkin, 38 oed, o Gaergybi yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno fore dydd Llun pan fydd cais yn cael ei wneud gan Heddlu Gogledd Cymru i'w cadw yn y ddalfa.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, DCI Brian Kearney: "Er y cyhuddiadau yn erbyn dau unigolyn, byddwn yn parhau i apelio am i unrhyw dystion a welodd y dioddefwr, David John Jones, oedd hefyd yn cael ei alw'n DJ, rhwng 10:00 a 11:00 yng Nghaergybi i gysylltu.

"Mae Ystafell Reoli Digwyddiad Difrifol wedi'i sefydlu yng ngorsaf heddlu Llangefni a byddwn yn parhau i gynnal ymholiadau yn lleol. Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu David ar yr adeg drasig yma."

Nos Sul fe gafodd swyddogion warant i barhau i holi menyw sydd hefyd yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r ymchwiliad llofruddiaeth.