Teyrnged i ddynes fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes 58 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ger Castell Gwrych, Abergele nos Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddi hi.
Cafodd Sharn Iona Hughes o Brestatyn ei lladd yn syth pan gafodd ei tharo gan gar Volvo glas ar yr A547 am tua 17:00 ar 21 Tachwedd.
Mewn datganiad, dywedodd ei theulu a'i ffrindiau: "Sharn oedd merch ieuengaf John a Gloria Bevan... roedd yn wraig i Elfyn Hughes ac yn fam gariadus i Aaron ac Annah.
"Roedd Sharn mor anhunanol ac roedd ganddi agwedd lawen ac elusennol at fywyd.
"Roedd yn y broses o drefnu dosbarthu pecynnau bwyd i'r banc bwyd lleol drwy Sefydliad y Merched. Byddwn yn colli ei charedigrwydd am byth.
"Roedd am weld y goleuadau yng Nghastell Gwrych, a dyna yn anffodus arweiniodd at ei marwolaeth gynamserol ar ffordd brysur. Mae ein calonnau wedi'u torri."
Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad, neu unrhyw un sydd â lluniau 'dashcam' i gysylltu gyda nhw.
Dylai unrhyw un all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio'r Uned Blismona Ffyrdd ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2020