Y cwmni trelars a'r sêr Hollywood
- Cyhoeddwyd
Ble ydy'r lle pellaf yn y byd rydych chi wedi gweld un o drelars Ifor Williams?
Prin ydi'r buarth fferm yng Nghymru sydd heb un o gerbydau'r cwmni wedi ei barcio ymysg y tractors a'r pic-yps, ond mae Ifor Williams bellach yn enw sy'n cael ei gysylltu gyda Hollywood diolch i fideo gan yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, perchnogion newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Y cwmni o ogledd Cymru yw noddwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam ers 2016.
Mae'r fideo'n hysbysebu eu cynnyrch gan y ddau actor wedi ei weld bron i bum miliwn o weithiau hyd yma.
"Oedden ni'n clywed ryw si bod ne rywbeth yn mynd i ddigwydd..." meddai Llion Roberts, Rheolwr Cyfrifon Gwerthu i'r cwmni, ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru " ... ond be ddoth allan ar Twitter, wel o'n i ddim yn cweit coelio fo i ddeud y gwir!
"Mae'n newyddion grêt."
'Ar y ffôn'
Tybed oes 'na fwy o gydweithio i ddod rhwng Hollywood a Corwen, lle mae pencadlys y cwmni?
"Maen nhw wedi bod ar y ffôn neithiwr efo'r cyfarwyddwr Carole Williams so mae hynny'n dangos bod gynnyn nhw feddwl mawr o'r cysylltiad rhyngddon ni a nhw a Wrecsam - ryw dwtch personol, sy'n grêt i ddeud y gwir," meddai Llion Roberts.
"Dwi ddim yn siŵr be ga'th ei ddweud yn iawn ond maen nhw wedi cysylltu i ddiolch iddi hi a'r cwmni am y gefnogaeth.
"Mae yn grêt bod nhw wedi cysylltu mor fuan ar ôl y newyddion egsgliwsif.
"Mae'n grêt i gogledd Cymru i gyd dwi'n meddwl."
O Gynwyd dros y byd
Ond hyd yn oed cyn i'r sêr droi eu sylw at Wrecsam mae'r cwmni trelars teuluol wedi bod yn dosbarthu i Ewrop, Awstralia, Seland Newydd, rhannau o'r Dwyrain Canol a Gwlad yr Iâ ers blynyddoedd.
Mae mwy nag un Cymro neu Gymraes ar ei wyliau wedi cael y boddhad o adnabod y sticar glas a gwyn ar gerbyd arian ymhell oddi cartef.
Dipyn o lwyddiant i'r cwmni a sefydlwyd gan Ifor Williams a Marian Williams ym mhentref gwledig Cynwyd ger Corwen yn 1958.
Fe bostiodd yr hanesydd Martin Johnes lun o hysbyseb i'r cwmni o 1969 yn hysbysebu eu cerbyd ar gyfer cludo tractor, anifeiliaid, bêls gwair, neu unrhyw beth arall fyddech chi'n ei gysylltu â gwaith fferm ac sy'n pwyso hyd at dair tunnell a hanner!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Erbyn hyn, mae ganddyn nhw ddosbarthwyr drwy Brydain a thramor a nhw yw'r cwmni mwyaf yn y DU sy'n gwneud cerbydau dros 3500kg.
Mae wedi tyfu i gyflogi dros 600 o staff dros bedwar safle: yng Nghynwyd a Chorwen yn Sir Ddinbych a Sandycroft a Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint.
"Ryden ni wedi bod yn gwerthu dim jest ym Mhrydain, ond Seland Newydd, Awstralia, Hong Kong, ryden ni wedi gwerthu ym mhob man ar hyd y blynyddoedd... ond mae hyn yn beth hollol wahanol," meddai Llion Roberts wrth groesawu'r newyddion am y perchnogion enwog newydd ar y Cae Ras.
Cadarnhaodd Carole Williams, sydd bellach yn ysgrifennydd y cwmni, bod y fideo yn sôn am y cwmni yn "annisgwyl" ond ei fod wedi ei wneud "mewn ffordd ddoniol a hollol wreiddiol."
Mae wedi cael ei wylio 4.9 miliwn o weithiau hyd yma.
Yn ôl Mrs Williams mae'r ddau actor "o ddifrif ynglŷn ag adfywio'r clwb a'i drawsnewid yn rym byd-eang - ond sydd ddim yn anghofio ei wreiddiau."
"Maen nhw'n amlwg wedi gweld teyrngarwch angerddol y cefnogwyr a beth mae'r clwb yn ei olygu iddyn nhw a sut mae'r cariad hwnnw yn rhan annatod o'r dref a'r gymuned ehangach.
"Yn sicr mae Ryan a Rob wedi cychwyn ar y droed iawn ac mae'r cefnogwyr reit y tu ôl iddyn nhw, fel ninnau yn Ifor Williams Trailers. Ac fel yr holl gefnogwyr eraill, rydym yn breuddwydio am ddiweddglo hapus Hollywoodaidd."
Pwy â wyr na fydd yr enw Cymreig ar y sticar glas a gwyn cyfarwydd yna i'w weld ar Highway 101 cyn hir? Neu efallai yn y cefndir yng nghyfres fawr nesaf Netflix?
Hefyd o ddiddordeb: