Agor cwest diffynnydd achos herwgipio honedig

  • Cyhoeddwyd
Carchar BerwynFfynhonnell y llun, NICK DANN
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i Robert Frith yn farw yn ei gell yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam

Mae cwest wedi agor i farwolaeth dyn o Ynys Môn oedd yn cael ei ddal yn y carchar ar gyhuddiad o herwgipio plentyn.

Roedd Robert Frith ymhlith chwe pherson fu o flaen Llys Ynadon Llandudno ar 9 Tachwedd i wynebu cyhuddiadau o fod ynghlwm â chipio plentyn yng Ngaerwen.

Cafodd y chwe diffynnydd eu cadw yn y ddalfa nes eu gwrandawiad nesaf yn Llys Y Goron Caernarfon ar 7 Rhagfyr.

Cafwyd hyd i Mr Frith, cyn-nyrs seiciatryddol o Gaergybi, yn farw yn ei gell yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam fore Sadwrn, 14 Tachwedd.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd nad oedd yr amgylchiadau'n cael eu trin fel rhai amheus, ac fe gafodd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf ei hysbysu ynghylch yr achos.

Wrth agor y cwest mewn gwrandawiad ar-lein, dywedodd Crwner Canol a Dwyrain Gogledd Cymru, John Gittins, fod patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers wedi nodi mygu fel achos y farwolaeth.

Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad sydd eto i'w gadarnhau.