Llanc wedi ei drywanu yn Nhreganna, Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae llanc 17 oed wedi cael ei drywanu yn ardal Treganna, Caerdydd fore Mercher.
Cafodd y bachgen ei drywanu yn ardal Broad Street am tua 10:00.
Dywed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru iddynt "dderbyn galwad tua 10:22 ar ôl adroddiadau fod person angen triniaeth feddygol frys ar Ffordd Virgil".
"Cafodd y claf ei gludo i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd."
Dywedodd Heddlu De Cymru nad yw anafiadau'r bachgen yn peryglu ei fywyd.
Mae bachgen 15 oed o ardal Glan-yr-afon, Caerdydd wedi ei arestio.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn credu nad yw'r ymosodiad hwn, ac un arall dros y penwythnos, yn rhai ar hap.
Dywedodd yr heddlu bod y digwyddiadau'n "ymwneud â grwpiau o fechgyn yn eu harddegau yn targedu ei gilydd".
Mae swyddogion yn ymchwilio yn ardaloedd Treganna, Glan-yr-afon a Grangetown.

Yn y cyfamser, mae rhieni disgyblion yn Ysgol Fitzalan yn Lecwydd wedi derbyn llythyr gan yr awdurdodau yn dilyn y trywanu.
"Rydym wedi cael gwybod am ddigwyddiad o fewn y gymuned leol," meddai'r ysgol.
"Hyd nes ein bod yn gwybod mwy a all disgyblon aros ar y safle, hyd yn oed os yw eich gwersi am y diwrnod wedi gorffen.
"Bydd angen i chi aros yn y Ganolfan Addysgu tan y cewch wybod ei bod yn ddiogel i adael safle'r ysgol.
"Os nad oes gennych wersi tan y prynhawn yma, peidiwch â dod i'r ysgol.
"Anfonwch e-bost i'ch athrawon yn gofyn i chi gymryd rhan mewn gwersi drwy Teams."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywed Heddlu'r De eu bod wedi cael mwy o bwerau wrth blismona ardaloedd Treganna a Grangetown yn y ddinas.
Mae'r rhybudd S60 yn rhoi mwy o bwerau i'r heddlu archwilio pobl yn y fan a'r lle.
Yn ôl llefarydd bwriad y rhybudd yw "rhwystro trais difrifol, i ddod o hyd i arfau peryglus ac i ddal pobl sy'n cludo arfau".
Maen nhw hefyd wedi cael pwerau S35 sy'n rhoi'r hawl iddynt wahardd person rhag mynd i ardal benodol am gyfnod o 48 awr.