Covid: Nyrs yn benderfynol o atal newyddion ffug

  • Cyhoeddwyd
Jamie BranaganFfynhonnell y llun, Jamie Branagan

Mae nyrs o Gasnewydd gafodd ei heintio â coronafeirws, yn dweud ei fod e'n benderfynol o addysgu pobl sy'n gwrthod derbyn fod y feirws yn bodoli.

Roedd Jamie Branagan, sy'n 52 oed, yn gweithio mewn cartref gofal pan ddaliodd yr haint ym mis Ebrill.

Bu mewn coma am fis, cafodd ataliad ar y galon fe fethodd ei arennau a'i ysgyfaint.

Dywedodd ei bod yn debygol na fydd yn gallu gweithio eto a'i nod erbyn hyn yw atal marwolaethau o ganlyniad i'r haint.

Ffynhonnell y llun, Jamie Branagan
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Jamie Branagan ailddysgu sut i gerdded

Mae o am weld mwy yn cael ei wneud i fynd i'r afael â phobl sy'n dosbarthu gwybodaeth ffug am y clefyd.

Yn ddiweddar fe wnaeth gweinidog iechyd Cymru Vaughan Gething feirniadau taflenni sy'n lledaenu honiadau ffug am Covid-19 gafodd eu dosbarthu yn Sir Benfro.

Mae Mr Branagan yn nyrs iechyd meddwl, ac yn 2012 roedd yn gweithio yn ardal Casnewydd yn goruchwylio tai gofal.

Ond pan ddaeth y pandemig ddechrau'r flwyddyn, penderfynodd fynd i weithio i asiantaeth fel nyrs er mwyn bod ar y rheng flaen.

Ar ôl cael ei heintio dywedodd ei fod wedi gorfod ailddysgu "sut i gerdded, siarad a sut i fwyta"

Dywedodd ei fod nawr ond yn gallu gwneud 20% o'r hyn oedd yn bosib cyn y salwch.