Cyn brif-weithredwr Lerpwl eisiau helpu Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-brif weithredwr Lerpwl Peter Moore yn dweud ei fod yn barod i weithio fel ymgynghorydd i glwb pêl-droed Wrecsam mewn rôl wirfoddol.
Fe wnaeth Moore adael Lerpwl ym mis Gorffennaf ar ôl tair blynedd wrth y llyw.
Mae Moore, sydd wedi treulio 30 mlynedd yn yr Unol Daleithiau, hefyd wedi gweithio i gwmnïau Sega, Microsoft a Reebok, yn cofio gwylio Wrecsam pan yn blentyn.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd: "Fe fyddaf yn cynnig help fel ymgynghorydd i glwb a roddodd gymaint o amseroedd gwych nôl yn y 70au ac i'r gymuned lle roeddwn yn byw cyn mynd i'r Unol Daleithiau, nid mewn rôl llawn amser, ond fel rhwyun sydd am roi rhywbeth yn ôl."
Dywedodd ei fod yn "hynod falch o allu helpu" Ryan Reynolds a Rob McElhenney, perchnogion newydd y clwb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020