Sut i gael Nadolig mwy fforddiadwy
- Cyhoeddwyd
Mae'r flwyddyn yma wedi bod yn anodd yn ariannol i nifer ohonon ni, gyda'r esgid fach yn gwasgu yn barod... a nawr mae hi'n gyfnod drytaf y flwyddyn.
Ond yma mae tri arbenigwr yn cynnig eu tips nhw am sut i gael Nadolig ychydig yn fwy fforddiadwy eleni.
Mae Gwennan Jenkins yn cynnig cyngor ariannol ar ei chyfrif Instagram Cadwmigei, dolen allanol, ac mae ganddi ambell i dip ymarferol am sut i ofalu am y ceiniogau dros gyfnod yr ŵyl:
1. Dim mynd dros ben llestri... yn enwedig 'da'r siopa bwyd. Beth sydd wir angen arnoch chi? Beth am gefnogi siop lysiau lleol yn hytrach nag arfarchnad? Gwnewch restr a glynnwch ato, peidiwch â rhoi fewn i demtasiwn, a chofiwch fod alcohol yn ddrud iawn!
2. Defnyddiwch wefannau cymdeithasol i brynu (a gwerthu) anrhegion Nadolig. Dwi 'di prynu bwrdd pinco i'r ferch dwy flwydd oed, a bwndel o gemau Xbox am £20 i'r mab i fynd gyda'i beiriant newydd, ac arbed £300!
3. Gwnewch ddanteithion ac anrhegion eich hunan mewn bulk... sloe gin, taffi cartref a chardiau Nadolig hefyd.
Yr atgofion sy'n bwysig, nid yr anrhegion. Un anrheg wrth Siôn Corn a hosan Nadolig. Os oes un peth ma' eleni wedi ein dysgu, gwerthoedd bywyd yw hynny.
Mae Lloyd Henry yn athro Bwyd a Maeth ac yn defnyddio'i gyfrif Instagram CeginMrHenry, dolen allanol i rannu ryseitiau a chyngor am sut i leihau gwastraff bwyd ac arbed arian. Mae 'na dipyn o ffyrdd y gallwch chi sicrhau nad ydych chi'n gorwario ar eich bwyd Nadoligaidd, meddai.
1. Beth am greu toes bisged eich hunan a'i rewi. Gallwch greu un toes plaen ac yna'i rannu mewn i wahanol flasau. Rholiwch e mewn i siâp selsig a'i roi yn y rhewgell, wedyn pan fyddwch chi'n barod i'w ddefnyddio, torrwch sleisiau bant a'u coginio.
Mae mor hawdd â 3-2-1: 300g blawd, 200g menyn, 100g siwgr. Gallwch ddyblu neu hanneru'r rysáit, ac ychwanegu blas neu ddarnau siocled. Defnyddiwch y tiwbiau siocled sydd ar werth dros y Nadolig am amrywiaeth ac er mwyn arbed arian, amser a gwastraff.
2. Defnyddiwch puff pastry. Gallwch ei defnyddio ar gyfer pethau melys a sawrus: mins peis, roliau selsig, pizzas, parseli cranberry a brie... Gallwch ei lanw, ei ddefnyddio i orchuddio pethau, ei lapio a'i siapio. Mae'n ffordd fforddiadwy o greu bwydydd gyda blas ac edrychiad da.
3. Mae cynllunio prydiau bwyd yn ffordd wych o sicrhau nad ydych chi'n mynd oddi ar y trywydd iawn. Peidiwch â siopa pan ydych chi eisiau bwyd - gall siopa ar fol gwag effeithio'n wirioneddol ar yr hyn rydych chi'n ei brynu a bydd yn ei gwneud hi'n anoddach cadw at eich cynllun.
Hefyd peidiwch bod ofn neu'n rhy falch i fachu bargen yn y lôn reduced; mae llawer o fwyd da yn cael ei daflu bant gan archfarchnadoedd gallwch eu defnyddio neu eu rhewi at y dyfodol.
Crefft yw arbenigedd Lucy Jones, sydd yn creu pecynnau crefftio i blant ac yn cynnal sesiynau crefftio ar ei thudalen Facebook The Art Box, dolen allanol. Beth am greu eich addurniadau Nadolig eich hun eleni, yn hytrach na phrynu rhai newydd - ffordd dda o arbed arian, a chadw'r plant yn brysur am ychydig!
Sut i wneud Torch Aeafol:
Torri siâp torch mas o gardfwrdd - tynnwch linell o gwmpas plât a chwpan i gael y siâp
Paentio neu ludo papur tishw i'r dorch
Pan mae'n sych, lapiwch edau neu wlân o'i amgylch
Torrwch unrhyw siapiau hoffech chi o bapur neu gerdyn sgleiniog - plu eira, coed, cylchoedd...
Ychwanegwch sequins a glitter
Rhowch e lan a mwynhewch!
Sut i wneud Llusern Nadoligaidd
Gludwch bapur tishw i hen jar glân, mewn unrhyw batrwm hoffech chi - defnyddiwch liwiau neu bapurau Nadoligaidd os oes peth yn sbâr
Gadewch iddo sychu ac ychwanegu pethau sgleiniog i'w addurno
Gallech chi hyd yn oed dorri siapiau Nadoligaidd mas o bapur du i greu silwét
Pan mae'n sych, rhowch gannwyll bach ynddo a'i weld yn goleuo'r ystafell!
Hefyd o ddiddordeb: