Cau ysbyty Llanymddyfri achos pwysau staffio Covid-19
- Cyhoeddwyd
Bydd yr holl gleifion sy'n cael eu trin yn Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Dyffryn Amman am y tro oherwydd y coronafeirws, meddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Dywed y bwrdd iechyd fod nifer o staff yn cynnwys nyrsys yn y ddau safle wedi profi'n bositif am Covid-19 ac yn hunan-ynysu o ganlyniad.
Mae hyn wedi arwain at "gyfyngiadau sylweddol" ar y gweithlu ar y ddau safle, gan olygu "fod cynnal nyrsio cymunedol a gwasanaethau ysbytai cymunedol wedi bod yn her".
Bydd y gwaith o drosglwyddo'r cleifion o Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri yn cychwyn yr wythnos hon.
Ni fydd unrhyw risg uwch i unrhyw gleifion yn Ysbyty Dyffryn Amman medd y bwrdd iechyd, gan y bydd pob claf Covid-19 yn parhau i gael ei drin "o dan amodau ynysu llym".
Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd iechyd fod y penderfyniad wedi ei wneud i symud y cleifion i Ysbyty Dyffryn Amman gan fod mwy o allu i ofalu am gleifion yno nag yn Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri.
Bydd Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri yn cael ei lanhau'n drylwyr ac mae disgwyl i'r ysbyty ailagor ddechrau mis Ionawr, unwaith y bydd lefelau staffio wedi dychwelyd i normal.
'Penderfyniad clinigol'
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Thymor Hir ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae diogelwch a lles ein cleifion o'r pwys mwyaf, felly gwnaed y penderfyniad hwn ar ôl rhoi ystyriaeth ddyledus i nifer o ddewisiadau.
"Yn y pen draw, penderfyniad clinigol yw hwn er budd gorau'r cleifion, ar adeg pan fo pwysau digynsail ar y gwasanaeth.
"Roedd yr heriau staffio yn golygu nad yw'n bosibl cynnal gofal i gleifion ar y ddau safle. Trwy grynhoi adnoddau ar un safle, byddwn yn cynnal lefelau staffio mwy diogel. Dyma'r opsiwn gorau i sicrhau bod pob claf yn derbyn y safonau gofal uchaf.
"Yn ogystal, bydd symud i un safle yn darparu budd ychwanegol o leddfu pwysau yn ein safleoedd acíwt, oherwydd wrth i staff sydd ar hyn o bryd yn hunan-ynysu ddychwelyd i'r gwaith, byddant yn gallu cefnogi cleifion yn ein hysbytai eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020