Brechlyn Covid-19 ar gael yng Nghymru o fewn dyddiau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Deyrnas Unedig wedi cymeradwyo brechlyn coronafeirws Pfizer/BioNTech - y lle cyntaf yn y byd i wneud hynny.
Dywedodd y rheoleiddiwr MHRA (Medicines and Healthcare Regulatory Agency) bod y brechlyn, sy'n diogelu rhag Covid-19 mewn 95% o achosion, yn ddiogel i'w ddefnyddio.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y gwaith o'i gyflwyno yn dechrau ymhen dyddiau, a phobl mewn grwpiau bregus a gweithwyr iechyd a gofal fydd yn cael blaenoriaeth.
Mae'r DU eisoes wedi archebu 40m dos o'r brechlyn - digon i'w ddarparu i 20m o bobl, gan fod angen dau ddos ar bawb.
Bydd tua 10m o'r rheiny ar gael yn fuan, gydag 800,000 o'r brechlynnau cyntaf yn cyrraedd y DU o fewn y dyddiau nesaf.
Oriau wedi'r cyhoeddiad fe gadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod nifer y marwolaethau yng Nghymru â chysylltiad â Covid-19 bellach yn 2,614, ar ôl cofnodi 51 o farwolaethau yn rhagor hyd at ddydd Mawrth.
Roedd yna hefyd 1,480 o achosion newydd, sy'n dod â'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig i 82,489.
'Newyddion sylweddol'
Brechlyn Pfizer/BioNTech yw'r un cyflymaf erioed i gael ei wireddu, gan gymryd 10 mis i'w gwblhau o'i gymharu â degawd mewn nifer o achosion.
Er y bydd y brechlyn yn dechrau cael ei ddosbarthu, mae arbenigwyr yn dweud bod angen i bawb barhau yn wyliadwrus a dilyn rheolau Covid-19 i atal y feirws rhag lledaenu.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fore Mercher: "Newyddion sylweddol y bore 'ma. Diolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i wireddu hyn.
"Mae ein rhaglen frechu yn barod i fynd, ond ni fydd yr effaith yn cael ei gweld yn genedlaethol am rai misoedd. Yn y cyfamser, rhaid i ni gyd parhau i ddilyn y rheolau a diogelu ei gilydd."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ar Twitter bod y datblygiad yn "newyddion positif iawn".
"Fe fydda i'n rhoi mwy o wybodaeth am ein cynllun i ddarparu'r brechlyn yma yn ystod y dydd," meddai.
Nid yw'r brechlyn yn orfodol, a bydd pobl yn gallu dewis ei dderbyn ai peidio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r broses o ddatblygu brechlynnau'r coronafeirws wedi bod mor llym â'r broses ar gyfer unrhyw frechlyn arall ond yn sgil y pandemig mae wedi'i chyflymu drwy gyllid prydlon, byd-eang a llai o waith papur.
"Nid yw hyd y treialon wedi'i leihau, ac mae'r mesurau diogelwch arferol yn dal i fod ar waith.
"Bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i bobl cyn cael eu brechu i roi sicrwydd iddynt ynglŷn â diogelwch cleifion a bydd prosesau cydsynio cadarn ar waith."
Galw am fanylion
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod y datblygiad yn "newyddion positif iawn" ond mai "ar ddechrau'r bennod olaf ydyn ni".
"Rŵan mae angen eglurder ar pryd y byddwn ni'n derbyn y brechlyn, pwy fydd yn ei dderbyn a sut," meddai.
Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Andrew RT Davies bod y newyddion i'w groesawu, ond bod angen craffu ar y manylion ynglŷn â sut y bydd y brechlyn yn cael ei ddarparu.
Bydd angen dau ddos, tair wythnos ar wahân ar bob unigolyn sy'n cael y brechlyn, a'r disgwyl yw y bydd Cymru'n cael cyfran o oddeutu 4.8% yn seiliedig ar ei phoblogaeth.
Rhaid storio'r brechlyn mRNA ar 75 gradd o dan y rhewbwynt, a'i gludo hefyd ar y tymheredd isel hwnnw i'r lleoliadau canolog lle bydd yn cael ei ddefnyddio.
Wedi hynny bydd modd ei gadw am bum niwrnod ar dymheredd oergell arferol, allai ei alluogi i gael ei gludo i gartrefi gofal, ond fel arall fe fydd yn ofynnol i'r rhai sy'n ei dderbyn gyrraedd canolfannau brechu arbennig.
Angen staff ychwanegol
Ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mercher dywedodd Chris Lynes, sy'n gyfarwyddwr nyrsio gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Rydan ni yn ogledd wedi bod yn gweithio ar y cynlluniau ers rhai misoedd nawr ac mae'r newyddion yma bore ma' yn dda iawn i ni gyd.
"Rydan ni yn gweithio rŵan ar gynlluniau'r gweithlu i roi'r brechiad i boblogaeth y gogledd a chynlluniau ymhell ymlaen. Mae ganddo'n ni weithlu yn barod yn y bwrdd iechyd ond rydan ni'n annog pobl i ddod ymlaen i'n helpu ni wrth i'r gwaith o roi'r brechiad fynd yn ei flaen.
"Rydan ni yn recriwtio gwahanol swyddi i'r tîm brechu, staff felly sydd wedi eu cofrestri fel fferyllwyr a staff sydd yn gweithio yng ngofal cychwynnol a therapyddion. Dyma'r rhai rydan ni yn edrych atyn nhw i roi'r brechiad ond rydan ni hefyd yn edrych am bobl i gefnogi a gweinyddu hefyd a gwirfoddolwyr.
"Rydan ni wedi cael llawer o bobl sydd wedi dod yn eu blaenau i helpu a nyrsys wedi ymddeol wedi dod ymlaen hefyd. Fe fyddwn ni yn edrych am recriwtio siŵr o fod dros y flwyddyn nesa."
Beth am frechlynnau eraill?
Mae brechlynnau eraill ar y gweill, ac fe all y rheiny gael eu cymeradwyo yn fuan hefyd.
Mae un gan Moderna yn defnyddio'r un system mRNA â'r un gan Pfizer, ac mae'n cynnig lefelau tebyg o amddiffyn - mae'r DU wedi archebu 7m dos, allai fod ar gael erbyn y gwanwyn.
Mae'r DU eisoes wedi archebu 100m dos o fath gwahanol o frechlyn sy'n cael ei ddatblygu gan Brifysgol Rhydychen ac AstraZeneca.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020