Y Gymraeg yn ffynnu wedi 'I’m a Celeb'

  • Cyhoeddwyd
Ant a DecFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyflwynwyr Ant a Dec wedi bod yn croesawu pobl i Gymru bob nos yn Gymraeg ar y rhaglen I'm A Celebrity

Mae rhai o ddarparwyr gwersi Cymraeg yn dweud bod 'na dwf yn y diddordeb am yr iaith wedi bod ers i'r gyfres boblogaidd 'I'm a Celebrity Get Me Out Of Here' ddechrau.

Yn ôl yr ymgynghorydd ieithyddol, Garffild Lloyd Lewis sydd wedi bod yn gweithio gydag ITV, mae sawl mudiad yn dweud bod y gyfres wedi gwneud lles i'r iaith ac agweddau at y Gymraeg.

Ers rhai misoedd mae Mr Lewis wedi bod yn cynghori ITV ar sut i wneud y Gymraeg yn rhan naturiol o'r rhaglen.

Mae 'na ddiolch hefyd yng nghanol tref Abergele lle mae perchnogion siopau'n dweud fod y gyfres wedi dod â bwrlwm a balchder yno.

Pan benderfynodd ITV i ddod i Gastell Gwrych fe drodd y cwmni darlledu at Mr Lewis a'i wraig Siân Eirian ac ers hynny mae'r ddau wedi bod yn cynnig cyngor ar y defnydd o'r Gymraeg, a sicrhau bod y rhaglen yn dangos parch ati.

ʺ'Da ni wedi cyflwyno'r iaith mewn ffordd eithaf cynnil," meddai.

ʺDio ddim allan yna'n gweiddi ond mae o wedi cyflwyno geiriau yma ac acw ac mae'r Gymraeg o gwmpas y safle."

"Mae hynny wedi dod â phresenoldeb ac mae'r ymateb wedi bod yn bositif iawn.", meddai.

"Ar draws y set mae sawl enghraifft o'r Gymraeg a Chymreictod yn cael ei ddefnyddio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfres wedi codi proffil yr iaith, meddai Garffild Lloyd Lewis

Bob nos mae'r cyflwynwyr Ant a Dec yn cyfarch y gynulleidfa drwy ddweud 'Noswaith dda', mae 'na arwyddion dwy ieithog fel 'Yr Hen Siop', a nos Iau mi oedd yn rhaid i'r 'selebs' dyfalu'r geiriau Cymraeg oedd rhai o blant lleol yn dweud er mwyn ennill pwyntiau i gasglu'r wobr gan 'Kiosk Cledwyn'.

Yn ôl Mr Lewis mae 'na awgrym fod hyn oll wedi arwain at ddarparwyr gwersi Cymraeg yn profi cynnydd yn y diddordeb yn yr iaith a'r diwylliant.

ʺDwi di siarad efo darparwyr gwersi Cymraeg ar-lein ac mae sawl un wedi dweud wrtha i fod nhw wedi gweld twf yn y diddordeb yn eu safleoedd nhw ers dechrau'r gyfres.

"Mae hynna'n ddiddorol iawn - bod proffil yr iaith yn cynyddu ac mae hynny arwain at ddiddordeb yn dysgu'r iaith a ma hynny bwysig iawn."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfres eleni wedi ei lleoli yng Nghastell Gwrych ger Abergele

Er yn anodd profi a mesur effaith y rhaglen ar yr iaith Gymraeg ar hyn o bryd, mae 'na deimlad cryf yn y dref fod busnesau wedi elwa'n fawr o gael y rhaglen ar garreg yr aelwyd.

Ar hyd y brif lon yn Abergele mae 'na arwyddion ym mhob siop bron ac wrth i'r rhaglen dynnu at ei therfyn mae nifer yn diolch.

ʺMae'r dre wedi newid rhyw ffordd neu'i gilydd, mae 'na lot yn dod yma, yn enwedig ar y penwythnos", yn ôl Prys Jones, gwerthwr tai lleol.

ʺMae hwn wedi rhoi hysbys nid yn unig i Gastell Gwrych ac i Abergele ond i Gymru gyfan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dref wedi elwa'n fawr o'r gyfres meddai'r arwerthwr tai, Prys Jones

"Pan da chi'n cael rhyw 15 miliwn yn gwylio fama mae'n rhaid bod o'n bownsio rownd y byd, yn enwedig i America a dwi'n credu gallwn ni werth Abergele rŵan.

Gyda'r rhaglen olaf yn y gyfres yn cael ei darlledu nos Wener mae 'na obaith hefyd y bydd na waddol hir dymor.

ʺCymdeithas yr Iaith a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.. cysylltwch â'r castell, trefnwch wythnos i aros yn y castell i ddysgu'r iaith ac i hybu'r iaith… dyna ichi syniad!", meddai Prys Jones.

Er y bydd y rhaglen yn dod i ben heno mae 'na awydd clir yn Abergele y bydd gwaddol y gyfres yn parhau ym mhell wedi i'r llenni gau.

Pynciau cysylltiedig