Elfyn Evans yn brwydro am Bencampwriaeth Ralïo'r Byd
- Cyhoeddwyd
Gallai Elfyn Evans gael ei goroni yn Bencampwr Rali'r Byd y penwythnos yma - y Cymro cyntaf erioed.
Y gyrrwr 31 oed o Ddinas Mawddwy, ger Dolgellau, fyddai'r trydydd gyrrwr o Brydain erioed i wneud hynny.
Mae gan y Cymro fantais o 14 pwynt dros Sebastien Ogier, sydd yn gyrru yn yr un tîm, ac wedi ennill y bencampwriaeth nifer o weithiau.
Mae Rali Monza yn Yr Eidal eisoes wedi cychwyn.
'Gweld dros y llyw'
Wedi ei fagu yng nghanolbarth Cymru, dywedodd Elfyn bod ei fagwraeth wledig wedi bod yn help mawr wrth ddatblygu ei yrfa.
"Rwy'n cofio gyrru car Nain, yn wyth neu naw oed, yn y goedwig tu ôl i'r tŷ gyda Taid 'efo dau glustog wedi stwffio o dan fy mhen ôl, er mwyn gallu gweld dros y llyw.
"A wedyn wrth gwrs roedd y busnes ceir gyda'r teulu. Dwi wedi bod o gwmpas olwynion a pheiriannau o rhyw fath erioed."
Wrth baratoi at y rownd derfynol yn Yr Eidal dros y penwythnos, dywedodd Elfyn ei fod yn gobeithio am y ras "berffaith".
"Dwi erioed wedi bod yn y safle i fedru cystadlu am y teitl o'r blaen. Ond, mae'n llawer gwell gen i fod fan hyn na bod yn y cefn, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
"Wrth gwrs, mae hi'n dynn iawn a bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau ac anelu am rali berffaith.
"Bydd hi'n anodd i amseru popeth yn berffaith ac i beidio gwneud camgymeriadau.
"Mae hi'n mynd i fod yn gystadleuol iawn a bydd camgymeriadau bach yn siŵr o gael eu cosbi."
Beth sydd ei angen i ennill?
Cyn dechrau'r rali olaf yn Yr Eidal, roedd y Cymro ar frig y bencampwriaeth o 14 o bwyntiau.
Mae'r gyrrwr buddugol mewn rali yn y WRC yn ennill 25 pwynt, yr ail yn derbyn 18, 15 i'r trydydd, 12 i'r pedwerydd, 10 i'r pumed ac yn y blaen hyd at y degfed safle sydd yn cael 1 pwynt.
Ar ben hynny, mae 5 pwynt bonws ar gael am ennill cymalau cyflym penodol.
Bydd Evans yn bencampwr cyn belled â'i fod yn gorffen yn yr ail safle o leiaf, hyd yn oed os yw Sebastien Ogier yn ennill y rali ac yn hawlio'r 5 pwynt bonws.
'Nerfus'
Mae Elfyn yn fab i Gwyndaf Evans, cyn-bencampwr rali Prydain.
Dywedodd Gwyndaf: "Dwi'n mynd yn ofnadwy o nerfus - ar ddau gownt.
"Dwi'n nerfus o 'neud fy ngwaith yn iawn, yn marcio'r corneli cyn y ras, a poeni am wneud camgymeriad fydd yn achosi niwed iddo fo.
"Ac hefyd wrth gwrs, yn nerfus fel tad ac isie gweld Elfyn yn cyflawni yr hyn mae'n dymuno ei wneud.
"Ar ôl deud hynny, os na ddaw o adre gyda'r teitl mi fedrith fod yn falch iawn o'r cyfan mae wedi ei wneud eleni."
Oherwydd y pandemig coronafeirws, dim ond saith ras sydd wedi gallu digwydd eleni.
Felly, mae Elfyn wedi gorfod cael pencampwriaeth nesaf peth at berffaith er mwyn sicrhau ei safle presennol.
Enillodd Colin McRae a Richard Burns y bencampwriaeth yn 1995 a 2001 - Elfyn fyddai'r trydydd gyrrwr o Brydain i wneud hynny a'r Cymro cyntaf erioed i gyflawni'r gamp os yn llwyddo draw yn Monza.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020