Dim Rali GB Cymru eleni yn sgil y coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Car yn gyrru ar hyd yr arfordirFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae trefnwyr Rali GB Cymru wedi cyhoeddi na fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal eleni yn sgil y pandemig o achos y coronafeirws.

Roedd disgwyl i'r rali gael ei chynnal rhwng 29 Hydref - 1 Tachwedd ar dir ger Ffatri Toyota yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy .

Ond o achos pryderon am gynnal digwyddiadau lle mae niferoedd mawr yn ymgynnull, a'r mesurau sydd yn eu lle ynglŷn â theithio rhyngwladol mae'r trefnwyr wedi penderfynu canslo.

Rali GB Cymru yw rownd y DU o Bencampwriaeth Rali'r Byd FIA.

'Amhosib cynllunio'

Dywedodd David Richards CBE, cadeirydd Motorsport UK a threfnydd y rali, nad oedd y penderfyniad yn un hawdd.

Ond ar ôl trafod gyda'r prif noddwr, sef Llywodraeth Cymru, fe ddaethon nhw i'r casgliad mai dyma oedd y peth iawn i wneud.

Mae tua 100,000 o bobl yn dod i wylio'r rali yng ngogledd a chanolbarth Cymru bob blwyddyn.

"Rydym wedi bod yn dilyn y cyfarwyddyd sydd wedi ei roi gan y llywodraeth yn ofalus ac mae'n dod yn fwyfwy amlwg y bydd yn amhosib cynllunio gydag unrhyw sicrwydd am ddigwyddiad mor fawr yn yr hydref," meddai Mr Richards.

Efallai o ddiddordeb:

Un sydd wedi bod yn mynd i weld y ceir yn rasio yng Nghymru ers ei fod yn 16 oed yw Dilwyn John. "Pan o'n i yn ifancach o'n i yn mynd yn religious bob blwyddyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dilwyn John wedi bod yn mynd i weld raliau ers ei fod yn fachgen ifanc

Mae Mr John hefyd wedi bod yn gyd-yrrwr yn 2018. Dywedodd wrth Cymru Fyw ei fod yn cefnogi'r cyhoeddiad.

"'Odd e'r penderfyniad iawn y ffordd mae pethau eleni. Mae'n drueni ond inevitable," meddai.

Ond mae'n dweud ei fod yn siomedig am fod y Cymro Elfyn Evans o Ddinas Mawddwy wedi cael llwyddiant y tymor yma.

"Fi'n gutted achos odd e'n ennill a ledio. 'Odd Elfyn wedi ennill un rali eleni a dod yn drydydd yn Monte Carlo. 'Odd e'n cael uffern o good run so mae'n bechod."

'Treuni' i'r cefnogwyr

Cytuno bod y cyhoeddiad yn siom i gefnogwyr Cymru, ond yn un synhwyrol mae Hana Medi Morris, sydd yn un o dîm rhaglen Ralio S4C.

"Mae 'na dros 100,000 o bobl yn ymweld â Rali Cymru GB bob blwyddyn. Mae'n drueni i ffans ralio, mae'n drueni i bobl leol sy'n mwynhau gweld gyrwyr gorau'r byd yn dod i'w gerddi bron bob blwyddyn.

"Y peth mwyaf rhwystredig yw bod Elfyn yn cael tymor ei fywyd eleni. Mae'n ail yn y byd ar hyn o bryd," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Elfyn Evans oedd y gyrrwr cyntaf o Brydain i ennill Rali Sweden ym mis Chwefror

Er nad oedd y digwyddiad i fod cael ei gynnal tan ddiwedd Hydref roedd rhaid gwneud y penderfyniad rŵan meddai wrth Cymru Fyw.

"Mae trefnu rali yn waith anhygoel o anodd ac mae'n cymryd cannoedd o filoedd o wirfoddolwyr, o bobl i gael o i weithio."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gobaith Hana Medi Morris yw y bydd digon o rowndiau eraill yn gallu digwydd y flwyddyn yma fel bod modd coroni pencampwr. Rhaid cynnal saith rali mewn blwyddyn i hyn ddigwydd - tair rownd sydd bod hyd yma.

"Yr unig beth allwn ni wneud yw croesi bysedd bod 'na bedwar arall yn digwydd, fel bod modd i ni weld Elfyn yn cwblhau tymor hynod lwyddiannus cyn belled," meddai.