'Dylai pawb allu cerdded ar lecyn glas cyn 2030'
- Cyhoeddwyd

Eisoes mae Llywodraeth Cymru'n clustnodi pum miliwn o bunnoedd i greu coedwig genedlaethol
Ar ddiwedd Wythnos Genedlaethol Coed, mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn galw ar Lywodraeth Cymru i lasu cymunedau fel bod pawb yn gallu cerdded ar lecynnau glas yn hwylus o'u cartrefi o fewn pedair munud, erbyn diwedd y ddegawd.
Mae argyfwng Covid eleni wedi tanlinellu pwysigrwydd tir glas i iechyd corfforol a meddyliol.
I gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Coed mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am weld Llywodraeth Cymru yn gosod safonau fel bod pobl ym mhob cwr o'r wlad yn gallu mwynhau natur yn gyfleus - o fewn 300 metr i'w cartrefi.

Mae cael tir glas yn fanteisiol i iechyd, medd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Sophie Howe
Mewn datganiad fe ddywedodd y Comisiynydd Sophie Howe: "Gall cysylltu pobl â natur mewn ffordd well, drwy fuddsoddi mewn strydoedd glas a pharcio glas neu drwy greu fforestydd trefol, helpu i wella ansawdd yr awyr gan gadw pobl yn iach a lleihau anghyfartaledd."
Ychwanegodd: "Mae glasu ein hardaloedd byw yn gallu rhoi cyfle i bobl ymwneud â byd natur sy'n fanteisiol i'n hiechyd a'n llesiant - rhywbeth sy'n arbennig o bwysig yn ystod cyfyngiadau'r pandemig."
Creu Cymru iachach
Mae coed yn amsugno nwyon sy'n llygru a lleihau lefelau gronynnau o allyriadau cerbydau.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru'n clustnodi £5m i greu coedwig genedlaethol ac ardaloedd o fforestydd newydd.
Mae'r comisiynydd am weld pobl Cymru'n defnyddio deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i alw am well ansawdd bywyd a diogelu cymunedau wrth gynllunio trefi a dinasoedd modern.

Creu Cymru iachach a gwyrddach yw'r nod, medd Eurgain Powell ar ran Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C fe ddywedodd Eurgain Powell ar ran Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol bod y "ddeddf llesiant yn gosod gweledigaeth o'r fath o Gymru ry'n ni am ei datblygu dros y blynyddoedd nesaf - Cymru iachach, mwy gwydn a gwyrdd - Cymru sy'n ffynnu.
"Fi'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn gwybod bod pwerau gyda ni fel rhan o'r ddeddf, bod goblygiadau ar gyrff cyhoeddus i wneud penderfyniadau sy'n cydfynd â'r weledigaeth a'r pwerau yn y ddeddf."

Mae eisoes yn fwriad uno coedwigoedd ar draws Cymru
Ychwanega fod yna rôl ar gyfer pobl a chymunedau i roi pwysau ar awdurdodau lleol.
"Creu Cymru iachach yw'r nod - pobl ac amgylchedd iachach," meddai
"Rhaid buddsoddi nawr mewn strydoedd glas, fforestydd a pharciau trefol," meddai'r comisiynydd, "er mwyn dysgu gwersi o brofiad cenhedlaeth 2020."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd6 Medi 2017