Teyrnged teulu wedi gwrthdrawiad laddodd dyn ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ddyn ifanc "meddylgar, ystyrlon a chymwynasgar" yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Gaerfyrddin.
Bu farw Lewis Morgan, 20 oed o Gaerfyrddin, ar ôl y gwrthdrawiad ger Llandybïe ar 4 Rhagfyr.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu "nad oes geiriau" i ddisgrifio eu teimladau o golli mab, brawd, ŵyr, nai, cefnder a ffrind.
"Roedd Lewis yn byw bywyd i'r eithaf ac yn mwynhau treulio amser gyda'i deulu, ei ffrindiau a'i gŵn," meddai'r datganiad.
"Byddwn yn cofio ei chwerthin, ei ddawnsio a'i wen ddireidus am byth."
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad ar Heol Penygroes, Blaenau, a ddigwyddodd am 20:45 ar 4 Rhagfyr.
Roedd Lewis yn teithio yn y Vauxhall Corsa gwyn oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Cafodd gyrrwr y car ei arestio wedi'r digwyddiad, ac mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth am y digwyddiad, a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y cerbyd neu'r rhai oedd ynddi yn yr oriau cyn y gwrthdrawiad gysylltu gyda nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2020