Ffioedd newydd 'yn bygwth' dyfodol pysgota cwrwgl
- Cyhoeddwyd
Mae cwrwglwyr Afon Teifi yn pryderu y gallai'r traddodiad o bysgota gyda rhwydi ddiflannu ar Afon Teifi ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru awgrymu y gallai ffi'r drwydded bysgota gynyddu 122%.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru dyw'r ffioedd ddim wedi cynyddu ers 2010 ac mae angen adolygiad er mwyn talu am y gost o weinyddu'r system drwyddedu.
Mae cwryglau wedi cael eu defnyddio ar afonydd Cymru ers cyfnod y Rhufeiniaid.
Drwy bysgota mewn parau mae cwrwglwyr yn defnyddio rhwydi i ddal brithyll.
Erbyn hyn, mae'n rhaid dychwelyd bob eog i'r afon er mwyn amddiffyn eu niferoedd.
Mae Ian Harries wedi bod yn pysgota ar Afon Teifi ers chwarter canrif.
"Dwi'n siŵr beth maen nhw yn trio gwneud yw bennu pysgota gyda'r cwryglau achos fel y'n ni, ni mond jyst yn dala digon o bysgod i dalu am y drwydded nawr," meddai.
Mae Dan Rogers, cwrwglwr arall, hefyd yn bryderus am effaith y cynnydd posib mewn ffioedd.
"Mae'n rhaid cofio ni'n bysgotwyr traddodiadol.
"Rwy'n edrych nôl ar fy nheulu i, ac maen nhw wedi bod yn pysgota ar yr afon ers canrifoedd.
"A ydw i yn mynd i fod y Rogers diwethaf i bysgota ar yr afon 'ma? Y ffordd mae pethau yn mynd ar y funud, yn drist iawn, dyna fel bydd hi."
Mae ymgyrchydd y cwrwglwyr wedi cael cefnogaeth y cynghorydd sir dros Gilgerran, John Davies.
"Os bydd y cynnig hwn yn mynd 'mlaen gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, dyna ddiwedd nid yn unig ar fywoliaeth yr unigolion, y naw i 12 sydd bellach â thrwyddedau, ond hefyd chi'n dod â thraddodiad sydd yn mynd nôl dros sawl canrif i ben.
"Mi fyddai hynny yn bechod. Mae'n rhan o dreftadaeth y gymuned hon, rhan o hen hanes yr afon hon, ond mae'n fwy na hynny.
"Mae cynnig rywbeth i ymwelwyr."
Dywedodd David Mee, prif ymgynghorydd ar reoli pysgodfeydd dŵr croyw, Cyfoeth Naturiol Cymru mai'r nod yw cadw costau mor isel â phosib.
"Un o brif egwyddorion yr adolygiad ydy hawlio costau nôl ar gyfer gweinyddu'r drefn drwyddedu rhwydi, ac er mwyn sicrhau fod pobl yn cydymffurfio â'r drefn.
"Fe fydd yr adolygiad yn cwmpasu tair blynedd yn hytrach na blwyddyn dan y drefn bresennol.
"Fe fyddwn ni yn ysgrifennu at y rhai sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad cyn anfon ein hargymhellion at y Gweinidog."
Y Gweinidog Amgylchedd, Lesley Griffiths, fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2018