Pobl yng Nghymru yn derbyn brechlyn Covid am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae brechlyn Covid-19 wedi cael ei roi i bobl am y tro cyntaf yng Nghymru, gan ddod ag ychydig o oleuni yn y frwydr yn erbyn y pandemig.
Fe fydd brechlyn Pfizer/BioNTech yn cael ei roi yn gyntaf i weithwyr iechyd wrth i nifer yr achosion positif yng Nghymru barhau i godi.
Mae disgwyl i bron 6,000 dos gael eu rhoi yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos ym mhob un o'r saith o fyrddau iechyd - gyda'r nod o frechu 1.4m erbyn diwedd y rhaglen.
Cafodd dros 2,000 o achosion positif eu cadarnhau yma ddydd Llun.
Roedd Craig Aitkins, 48, sy'n gweithio mewn cartref gofal yng Nglyn Ebwy, ymysg y rhai cyntaf i gael y brechlyn yng Nghymru, a'r cyntaf i'w dderbyn yn y ganolfan yn ardal Cwmbrân.
"O'dd e'n ofnus, i fod yn onest! Dwi ddim fel arfer hyd yn oed yn cael y brechlyn ffliw, eleni oedd y tro cyntaf i mi gael hwnnw hefyd," meddai.
"Mae 'di bod yn anodd i'r staff. 'Dyn ni wedi gorfod rhoi stop ar bopeth, dim mynd ar wyliau fel pawb arall, ond cymryd gofal arbennig hefyd.
"Dwi wedi cadw'r plant o'r ysgol yn hirach na phawb arall achos doedden ni ddim eisiau bod mewn cwarantin a mynd ag unrhyw beth i mewn i'r cartref gofal."
Ar ddechrau'r ymgyrch frechu fe fydd Cymru yn cael 40,000 dos o Pfizer/BioNTech - digon ar gyfer 20,000 o bobl gan fod angen dwy ddos ar bawb er mwyn iddo fod yn effeithiol.
Mae'n rhan o 800,000 dos fydd yn cael eu dosbarthu drwy'r DU.
Y rhai cyntaf i dderbyn y brechlyn fydd gweithwyr y gwasanaeth iechyd a'r rhai dros 80 oed.
Margaret Keenan, menyw 90 oed, oedd y person cyntaf i gael brechiad yn y DU - a hynny yn Coventry, Lloegr am 06:31 fore Mawrth.
'Llygedyn bach o olau'
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Yr wythnos ddiwethaf, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i dderbyn cyflenwadau o'r brechlyn Covid-19.
"Heddiw, rwy'n falch iawn mai Cymru yw un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddechrau cyflwyno'r brechlyn i'w phobl.
"Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd tu hwnt i ni i gyd. Mae'r brechlyn hwn yn llygedyn bach o olau ar ddiwedd twnnel hir a thywyll.
"Ond dydy'r ffaith bod brechlyn ar gael ddim yn golygu bod modd i ni roi'r gorau i'r holl arferion sy'n ein diogelu."
Roedd Dr Ami Jones, meddyg ymgynghorol, hefyd ymysg y rhai cyntaf i dderbyn y brechlyn.
"Does gen i ddim pryderon," meddai. "Ni ddylai pobl boeni am gymryd y brechlyn. Mae i amddiffyn fy nheulu a phobl eraill. Dylai pobl ymddiried yn y wyddoniaeth.
"Rwy'n credu ei fod yn enfawr. Mae'n olau ar ddiwedd y twnnel. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn sylweddoli pa mor bwysig yw hyn a pha mor ddiogel yw e.
"Mae cyfraddau heintiau yn uwch nag erioed. Rwy'n bryderus iawn, mae'n naw mis i mewn ac mae pobl yn blino ar y cloeon a'r cyfyngiadau ond gyda 10 diwrnod arall o hwn yn ymledu byddwn ni'n cael Nadolig erchyll."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Oherwydd problemau gyda'r gallu i ddosbarthu'r brechlyn, sydd angen ei gadw ar dymheredd isel iawn, fe fydd yn rhaid i breswylwyr cartrefi gofal aros ychydig yn hirach.
Daw'r brechlyn wrth i'r nifer o gleifion yn dioddef gyda coronafeirws mewn ysbyty gynyddu i 1,800 - sef 23% o gleifion, o'i gymharu â 18% ym mis Mai.
Ddydd Llun dywedodd y gweinidog iechyd fod y sefyllfa yng Nghymru yn un hynod ddifrifol gyda phwysau aruthrol ar y gwasanaeth iechyd.
Wendy Warren yw'r pennaeth cynllunio argyfwng sydd yng ngofal y cynllun brechu yn ardal Cwmbrân.
Dywedodd: "Mae ein hysbytai yn brysur ofnadwy, felly roedd gweithio gydag awdurdodau lleol yn golygu medru mynd â'r brechlyn i ardal gymunedol - at y bobl - sydd yn well iddyn nhw.
"Fe wnaethon ni ymarferion gyda staff yn chwarae rhan cleifion, ac roedd hynny'n gyfle i brofi'r cynllun. Mae hyn ar raddfa dy'n ni erioed wedi gwneud o'r blaen."
'Pawb yn y ciw'
Ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru dywedodd pennaeth rhaglen frechu Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Dr Richard Roberts bod hwn yn "hynod gyffrous".
"Dim ond naw mis ers i'r WHO ddatgan ein bod ni mewn pandemig ac mae ganddon ni'r brechlyn cyntaf a mwy ar y ffordd.
"Ni wedi bod yn cynllunio ers chwe mis," meddai, "mae'r brechlyn yma'n anodd ei symud, mae'n rhaid ei symud ar -75C ac wedyn ychydig iawn o amser i'w ddefnyddio ar ôl ei dynnu allan o'r rhewgell, felly mae'n anodd ei ddefnyddio ac rydyn ni wedi cynllunio at hynny.
"Mae gennym ni ychydig o dan 40,000 dos yng Nghymru sy'n ddigon i ychydig o dan 20,000 o bobl."
Ychwanegodd: "Ar y blaen mae'r rhai sydd mewn cartrefi gofal a gan fod y brechlyn yn anodd ei symud ry'n ni yn cynllunio sut i wneud hynny i'r cartrefi gofal a'i gadw yn effeithiol.
"Mae'n colli ei effeithiolrwydd os nad y'ch chi'n ofalus gyda'i symud. Yna mae'r rhai dros 80 oed hefyd ar flaen y ciw a rhu'n ni yn cyn cynnig iddyn nhw cyn gynted â phosib."Mae ganddon ni system frechu a manylion pawb yng Nghymru yn y system ac mae pawb yn y ciw yn rhywle, rhai ar y blaen a rhai y tu ôl.
"Ond bydd pawb yn cael eu galw gan y system drwy lythyr yn y post a tecst i'ch atgoffa. Bydd y system yn rhoi dyddiad y dos gyntaf a'r ail ddos i chi.
"Mae ychydig o amddiffyniad ar ôl y dos gyntaf ond mae'n rhaid i chi gael y ddwy ddos i gael yr amddiffyniad llawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020