Y seiri coed sy’n torri traddodiad
- Cyhoeddwyd
Mae Miriam Jones a Jen Farnell ill dwy yn trin coed ac yn cymryd rhan yn y rhaglen Y Stiwdio Grefftau ar S4C nos Fawrth 15 Rhagfyr, ond dyna lle mae'r tebygrwydd yn stopio.
Mae trin pren yn y gwaed i Miriam, sydd yn dilyn cenedlaethau o seiri coed yn ei theulu, tra fod gwaith coed yn rhywbeth cymharol newydd i Jen, a ddechreuodd ei astudio yn y coleg dim ond pum mlynedd yn ôl.
Jen: 'Dwi'n hoffi creu rhywbeth gyda phwrpas'
Mae Jen yn wreiddiol o Aberystwyth, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Penderfynodd yn 2015 ei bod am fynd i'r coleg i wneud saernïaeth ar ôl teimlo ei bod hi'n amser i wneud rhywbeth newydd â'i bywyd, a newid gyrfa.
"Ro'n i wedi cael llond bol o weithio mewn jobs mewn bars a chaffis", meddai, "jobs lle ti ddim yn cael dy dalu ddigon ac mae'r oriau yn hir ac anti-social, so nes i benderfynu digon yw digon, 'na i ddysgu trade.
"Dwi wastad wedi mwynhau bod mas mewn natur, a defnyddio fy nwylo i greu pethau. Dwi rili'n mwynhau gweithio gyda phren; dwi'n licio dechrau gyda plank o bren a wedyn gwneud rhywbeth mas ohono fe oedd ddim yna o'r blaen.
"Dwi'n hoffi'r ochr dylunio o bethau, achos dwi'n hoffi creu rhywbeth gyda phwrpas, dim jest creu rhywbeth i edrych yn bert."
Dodrefn mawr i'r ardd a silffoedd llyfrau yw'r prif gynnyrch mae Jen yn eu creu, ond fel mae hi'n ei ddweud 'os oes rhywun eisiau rhywbeth, I'll give it a go!'.
"Dwi'n teimlo 'chydig bach ar groesffordd," eglurodd, "ydw i eisiau mynd i lawr y llwybr o wneud dodrefn cain, neu cario 'mlaen gyda dodrefn gardd mwy chunky? Dwi'n trio ffeindio fy ffordd ar y funud.
"Mae 'na raddau ti'n gallu eu gwneud mewn dylunio a chreu dodrefn a dwi i eisiau gwneud 'na, ond ar yr un amser, dwi'n teimlo fel taswn i wedi bod mewn addysg am mor hir. Es i i'r coleg, wedyn gwneud prentisiaeth, yna cael lle mewn rhaglen grefftio, felly mae rhan ohona i yn credu mod i angen stopio a gwneud arian nawr!"
'Profi fy hun' i'r dynion
Gan fod seiri coed sy'n ferched yn brin, mae hi'n teimlo ei bod hi wedi cael ei thrin yn wahanol yn y gorffennol, yn enwedig ar safleoedd adeiladu gan mai hi yw'r unig ferch ar y criw gan amlaf, ond 'doedd e ddim byd cas', meddai.
"O'n i wastad yn teimlo o'dd rhaid i mi brofi fy hun. Llawer o'r amser dwi'n meddwl bod nhw'n trio bod yn neis, ond wrth drio bod yn neis oddan nhw'n trin fi'n wahanol.
"Ond ar ôl iddyn nhw weld fi'n gweithio'n galed, yn gwneud popeth o'dd pawb arall yn ei wneud, roedden nhw wedi dechrau fy nhrin i'n normal, ac nid fel anifail mewn sŵ!"
Mae hi o'r diwedd wedi dod o hyd i rywbeth mae hi wir yn mwynhau ei wneud, meddai, er y byddai ei bywyd wedi gallu bod yn wahanol iawn, gan mai eisiau ymuno a theithio â'r syrcas oedd hi'n wreiddiol, gan droi ei llaw at hula hoops, trapeze a jyglo.
Er, fel mae hi'n ei egluro, nawr fod ganddi sgiliau gwaith coed, efallai gallai hi dal barhau â'r bywyd teithiol hwnnw roedd hi eisiau ei brofi gyda'r syrcas.
"O'n i'n hoffi'r lifestyle o fynd o dre i dre a jest bod yna am wythnos neu bythefnos, a mynd i'r lle nesa' a 'neud e eto.
"Mae darn o fi dal eisiau 'neud 'na. Ond nawr gan mod i'n saer coed, a mae pobl angen pethau wedi eu hadeiladu iddyn nhw bob man yn y byd, falle fydd y teithio yn gallu digwydd yn y dyfodol!"
Miriam: 'Mae o'n hen grefft ond mae o'n dod yn ôl'
Mae gan Miriam Jones o Abersoch o leiaf dair cenhedlaeth o seiri coed yn ei theulu, felly nid yw'n syndod mai gyda phren mae hi'n gweithio y dyddiau yma.
"'Nath Taid farw pan o'n i'n chwech, ond o'n i'n cael mynd i'w sied o pan o'n i'n hogan fach, ac o'n i'n licio busnesu yna ac yng ngweithdy fy yncl i hefyd.
"Roedd y lleill yn seiri coed ond dwi'n turnio coed - dwi'n rhoi lympiau o bren ar y ledd, ac maen nhw'n troi a dwi'n eu siapio nhw efo cynion. Mae o'n hen grefft ond mae o'n dod yn nôl."
Datblygodd diddordeb Miriam yn y grefft benodol yma o drin pren pan oedd hi yn y brifysgol ym Manceinion, lle'r oedd hi yn wreiddiol wedi bod â'i bryd ar wneud gwaith metel.
"O'n i'n cael trio gwaith pren, metel, plastig, gwydr, serameg, a gweld be' oedd fy nghryfderau i. Metel nes i arbenigo ynddo fo, ac o'n i'n gry' mewn pren hefyd, ond o'n i'n warthus efo pob dim arall!
"'Nes i benderfynu gwneud gemwaith, ond ges i fy nghyflwyno i durnio ym Manceinion ar yr ail flwyddyn, ac o'n i wrth fy modd.
"Mae o'n broses reit therapiwtig. Ti jest yn sbio ar ddarn o bren yn spinio, ac yn defnyddio'r cynion i siapio.
"O'n i 'di mynd yn obsessed efo'r peth, ac yn hurio'r ledd drwy'r amser yn y coleg. Erbyn diwedd o'dd y technegwyr ddim yn gwybod be' i'w 'neud efo fi, achos o'n i 'di dechrau sbio mewn llyfrau felly o'n i'n dechrau mynd bach yn well na nhw!"
Mae Miriam nawr nôl adref ac wedi bod yn turnio pren ers rhyw bum mlynedd, ochr yn ochr â gweithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor fel technegydd a darlithydd. Mae hi'n creu amrywiaeth o bethau o bren, fel dalwyr canhwyllau, powlenni a gemwaith.
"Mae ngwaith i reit syml o ran steil. Fel arfer mae'r bobl sy'n turnio pren yn hen ddynion, maen nhw 'di mynd mewn iddo fo i fwynhau a dysgu'r technegau i gyd.
"Ond dwi 'di mynd fewn y ffordd arall - dwi 'di meddwl am y syniad ond ddim wedi dysgu'r technegau'n iawn! Dwi wedi ei 'neud o ar liwt fy hun - self-taught ydw i - a dwi dal yn trio gwella."
Y cyntaf, ond nid yr olaf
Hi yw'r ferch gyntaf yn ei theulu i weithio fel saer coed, ac fel mae Miriam yn ei ddweud, mae cael menyw yn y byd dal i fod yn eithaf anarferol:
"Dwi'n cofio pan oedd Dad yn dod efo fi i'r sioeau i helpu ar y stondin, a pobl yn meddwl mai ei waith o oedd o, a Dad yn deud 'it's not my work, look what it says up there - Craftwoman!'
"Does 'na ddim gymaint â hynny o ferched, ond mae'n dechrau dod fwy rŵan, ac mae 'na fwy o ddiddordeb. Mae gen i fentor, ac mae hi'n anhygoel - mae hi'n un o'r rhai gwreiddiol.
"Dwi'n dysgu 'chydig bach o waith turnio yn y coleg i'r myfyrwyr, a mae'r genod weithiau ofn y peiriannau, ond wedyn maen nhw'n gweld be' allwch chi ei 'neud, fel bangles a chlust-dlysau bach pren."
Roedd cyfuno ei gwaith creu, rhedeg busnes, ei gwaith yn y coleg a ffilmio ar gyfer y gyfres S4C wedi golygu ei bod hi wedi cael ychydig o wythnosau prysur iawn, meddai, ond fel mae Miriam yn ei ddweud 'go big or go home 'de!'.
Mae hi'n edrych ymlaen yn fawr at weld y rhaglen ar y teledu, ond ddim yn meddwl mai hi fydd y canolbwynt...
"Ges i amser reit ffyni [wrth ffilmio], o'dd y ci, y gath a'r ieir wedi dod i fewn - felly dwni'm pwy fydd yn cael début ar y teli!"
Mae Y Stiwdio Grefftau ar S4C am 21.00 nos Fawrth 15 Rhagfyr, ac ar BBC iPlayer wedi'r darllediad
Hefyd o ddiddordeb: