Dyn o Wrecsam yn euog o ladd ei ddyweddi yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wrecsam wedi ei gael yn euog o lofruddio ei ddyweddi cyn lapio ei chorff mewn cling film yn eu cartref yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth Madog Rowlands, 23, grogi Lauren Griffiths, 21, yn eu fflat yn ardal Cathays ym mis Ebrill 2019, ond fe ddisgwyliodd dros 24 awr cyn ffonio 999.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Rowlands wedi archebu cyffuriau a bwyd i gael eu danfon i'r fflat tra bod corff Ms Griffiths yn yr ystafell wely.
Roedd Rowlands wedi cael ei arestio am ymosodiad tebyg ar Ms Griffiths flwyddyn ynghynt.
Clywodd y llys bod y cwpl i fod i briodi fis ar ôl i Rowlands ei lladd, a'u bod yn bwriadu cael seremoni baganaidd.
'Hunanol a hunandosturiol'
Cafodd Rowland ei ddisgrifio yn y llys fel person "hunanol", "hunandosturiol" a diedifar.
Wedi iddo ladd ei ddyweddi aeth i'r siop i brynu wisgi a sigaréts, cyn penderfynu lapio ei chorff gyda clingfilm, bagiau bin a thâp.
Roedd Rowlands yn gwadu llofruddiaeth, gan fynnu ei fod wedi lladd Ms Griffiths tra'n amddiffyn ei hun.
Ond clywodd y llys ei fod wedi ymosod ar ei gariad flwyddyn ynghynt, gan gyfaddef i'r heddlu ei fod wedi ceisio ei chrogi ar ôl iddi dorri ei liniadur.
Clywodd y rheithgor nad oedd Ms Griffiths wedi bod eisiau mynd i'r llys er y digwyddiad, gan ddweud ei bod eisiau i Rowlands "gael help" yn hytrach.
Bydd Rowlands yn cael ei ddedfrydu ar 8 Ionawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2019