Y bobl sydd wedi codi calon yn ystod cyfnod anodd y pandemig
- Cyhoeddwyd
Bu 2020 yn flwyddyn na fu ei thebyg wrth i haint Covid-19 effeithio ar ardaloedd a phobl ar draws Cymru. Eleni yn fwy nag erioed mae pobl wedi gwerthfawrogi ymdrechion staff y GIG ond hefyd mae yna gymeriadau a chymdeithasau sydd wedi ymdrechu ar hyd y flwyddyn i godi calon a chreu ysbryd cymunedol.
Un o'r cymeriadau hynny yw Catrin Angharad Jones a wnaeth sefydlu y dudalen CÔR-ONA!, dolen allanol ar y we ar ddechrau'r cyfnod clo cyntaf i "godi ysbryd pobl".
Mae'r dudalen yn rhoi cyfle i bobl berfformio cân neu i ganu gyda chanwr arall ac mae ganddi bellach dros 46,000 o ddilynwyr .
"Codi calon pobl hŷn oedd ddim yn cael gadael y tŷ oedd y bwriad ar y dechrau ac mi dyfodd y tu hwnt i bob disgwyliad - roeddwn yn meddwl y byddai wedi chwythu ei phlwc ond mae hi wedi bod yn hynod boblogaidd drwy'r misoedd a rŵan, wrth gwrs, mae pobl wedi dechrau perfformio carolau - sy'n grêt," meddai Catrin wrth siarad â Cymru Fyw.
Codi calon a lleddfu unigrwydd hefyd oedd bwriad Merched y Wawr wrth sefydlu nifer o grwpiau ar y we yn ystod y flwyddyn - ymhlith y mwyaf poblogaidd oedd Curo'r Corona'n Coginio lle roedd cyfle i bobl rannu ac arddangos cynnyrch ryseitiau.
"Fe gawson ni gymaint o ymateb fel y gwnaethon ni gyhoeddi llyfr," medd y Cyfarwyddwr Tegwen Morris.
"Eleni wrth gwrs 'dyn ni ddim wedi gallu cynnal llawer o'n gweithgareddau arferol ac mae wedi bod yn fwy pwysig nag erioed i ni geisio bod yn gwmni rhithiol i bobl a'u hannog i barhau i wneud gweithgareddau."
"Ry'n ni hefyd wedi bod yn ffonio pobl ac yn annog pobl i greu blodau gyda'r nod o'u harddangos mewn arch yn yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf.
"Mae nifer o'n haelodau a'u ffrindiau wedi gweld eleni yn galed ac mae wedi bod yn hynod bwysig i ni godi calon," ychwanegodd Tegwen Morris.
Batman Bala
Yn Y Bala mae Wayne Evans a'i ddyweddi Ceri Owen wedi bod yn dod â gwên i blant a thrigolion lleol drwy wisgo lan fel Batman ac yn ystod gwyliau'r Nadolig mae Wayne wedi gwisgo fel Siôn Corn i rannu anrhegion.
"Fe ddechreuon ni ar fenter 'Wayne yn rhoi gwên' gan ei fod mor bwysig rhoi gwên ar wyneb pobl yn ystod y cyfnod hwn ac hefyd mae'r cyfan yn sicrhau bo fi a Ceri yn gwneud ymarfer corff bob dydd," ychwanegodd Wayne Evans.
Gerllaw yn Llanuwchllyn bu'r gantores Mary Lloyd-Davies yn codi calon wrth iddi arwain y canu ar y stryd bob nos Sul.
"Roeddwn i wrth fy modd," meddai Mary Lloyd-Davies.
"Mae canu yn rhyddhau emosiwn - mae'n ffordd dda o gael gwared o luddiant, tensiwn, dicter ac yn rhoi cymaint o bleser i rywun.
"Mae'n gallu eich codi o lefydd trist a thywyll iawn ac yn y cyfnod y clo mae wedi pontio'r cenedlaethau mewn cyfnod lle mae pobl yn colli gweld ei gilydd."
'Cyfle newydd'
I weinidogion fel Beti Wyn James, fe ddaeth 2020 â chyfle na fu ei debyg i ledaenu neges yr efengyl ac "roedd e'n bwysig cynnal gwasanaethau rhithwir gan nad oedd modd i bobl ddod allan i addoldy," meddai.
"Yn rhyfeddol mi ges i filoedd yn gwylio - lle mewn cwrdd arferol degau sy'n bresennol," ychwanegodd Beti Wyn James sy'n weinidog yn ardal Caerfyrddin.
I'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a gwefan SaySomethinginWelsh, dolen allanol roedd hi'n bwysig parhau i gynnig gwersi ac mae'r ymdrechion wedi dwyn ffrwyth wrth i fwy o bobl fynd ati yn y cyfnod clo i ddysgu Cymraeg.
"Dyw dysgu rhywbeth newydd mewn cyfnod ansicr ddim wastad yn beth da," meddai Aran Jones wrth siarad â Cymru Fyw, "ond dwi mor falch o'r cynnydd sydd wedi bod â diddordeb ac ry'n yn falch ein bod wedi gallu cynnig rhyw fath o gwmni a nod i bobl yn y cyfnod yma.
"Mae'r drafodaeth gyhoeddus a mwy o sylw i Gymru annibynnol gan rai yn ystod y cyfnod yma wedi cefnogi'r awydd hefyd," ychwanegodd Mr Jones.
'Cadw pobl i wenu'
Eleni mae wedi bod yn bwysicach nag erioed "i leddfu unigrwydd a chadw pobl i wenu," ychwanega Tegwen Morris o Merched y Wawr.
Dywed yr Eglwys yng Nghymru ei bod yn bwysig uno pobl er bod yna orfodaeth i gadw pellter yn y cyfnod hwn a dyna pam ei bod yn bwysig ar noswyl Nadolig fod Cymru a'r byd wedi uno i ganu Dawel Nos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd17 Mai 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020