'Angen troi adeiladau mawr yn llysoedd dros dro'

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llys y Goron Caerdydd yn un o ddau lys yng Nghymru a Lloegr lle bydd rheithgorau yn tyngu llw

Dylid troi adeiladau mawr yn lysoedd dros dro er mwyn clywed y nifer cynyddol o achosion sydd wedi eu gohirio, meddai bargyfreithiwr.

Mae disgwyl i un o'r achosion cyntaf gyda rheithgor ers i lysoedd y Goron gau o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws ddechrau yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd pawb yn y llys yn cael eu cadw ar wahân yn ddiogel.

Ond gyda chymaint o achosion ar stop, fe ddywedodd y cyfreithiwr Andrew Taylor bod angen gwneud mwy.

Mae gwrandawiadau o flaen barnwyr wedi parhau yn ystod y pandemig diolch i dechnoleg fideo, ond fe ddaeth achosion gyda rheithgorau i ben ym mis Mawrth.

Cafodd yr Old Bailey yn Llundain a Llys y Goron Caerdydd eu dewis fel y ddau lys cyntaf yng Nghymru a Lloegr lle bydd rheithgorau yn tyngu llw. Bydd eraill yn cael eu hasesu maes o law.

Fe ddywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd achosion yn ddiogel, ac y bydd pellter cymdeithasol yn cael ei gadw rhwng pobl.

Roedd 'na groeso gan Gymdeithas y Gyfraith, sy'n cynrychioli cyfreithwyr. Mae 'na amcangyfrif bod tua 37,000 o achosion yn aros i gael eu clywed ers yr argyfwng coronafeirws.

Ond dywedodd Mr Taylor: "Pe bai gan y llywodraeth ddiddordeb gwirioneddol mewn cael y drefn hon - y drefn achosion sydd wedi torri - ar waith, byddan nhw wedi nodi adeiladau enfawr erbyn hyn. Mae gennym lawer yn ne Cymru a'r cyffiniau."

Byddai hynny'n golygu bod modd cynnal achosion cymhleth gyda nifer o ddiffynyddion ac ar gyfer troseddau difrifol, meddai.

Roedd Mr Taylor yn rhan o achos a oedd wedi'i gadw wrth gefn pe na bai achos arall a restrwyd ar gyfer ddydd Llun yn gallu cael ei glywed.

Dywedodd nad oedd wedi gweld asesiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wnaeth roi sêl bendith i ailddechrau achosion.

'Deall pryderon'

Dywedodd David Elias QC, arweinydd Cylchdaith Cymru a Chaer, ei fod yn deall pryderon diogelwch bargyfreithwyr, ond bod yr awdurdodau wedi datgan ei fod yn ddiogel i fwrw ymlaen.

Gofynnwyd i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ymateb.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y byddai trefniadau newydd yn golygu y gallai achosion cael eu clywed mewn ffordd ddiogel.