Cyflwynydd ac enw newydd i raglen newyddion Post Cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Dylan Ebenezer
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dylan Ebenezer yn cyflwyno'i raglen gyntaf ar 25 Ionawr

Bydd Dylan Ebenezer yn ymuno â thîm cyflwyno rhaglen newyddion foreol Radio Cymru yn y flwyddyn newydd.

Mae BBC Cymru hefyd wedi cyhoeddi bod enw'r rhaglen yn newid o Post Cyntaf i Dros Frecwast o 25 Ionawr.

Bydd Dylan Ebenezer, sy'n wyneb cyfarwydd ar S4C fel cyflwynydd rhaglenni pêl-droed, yn ymuno â Kate Crockett bob bore Llun i fore Iau rhwng 07:00 a 09:00 o 25 Ionawr.

Dywedodd bod y cyfle i ddychwelyd i'r orsaf ble bu'n darlledu gyda'r adran chwaraeon "i gyflwyno un o raglenni mwyaf blaenllaw yr orsaf yn hollol wefreiddiol".

Ychwanegodd: "Mae Radio Cymru wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd a fy ngyrfa. Dyma ble dechreuodd y daith i mi fel darlledwr dros 20 mlynedd yn ôl."

Gwenllian Grigg fydd cyd-gyflwynydd Kate Crockett bob bore Gwener.

Dywedodd Golygydd Radio Cymru, Rhuanedd Richards ei bod yn ffyddiog "bydd gwrandawyr yr orsaf yn ymddiried" yn y tîm cyflwyno newydd "i'w tywys drwy newyddion Cymru a'r byd bob bore" a bod "Dylan yn edrych ymlaen at fynd dan groen straeon sy'n effeithio ar bobl Cymru".

Ychwanegodd mai "bwriad Dros Frecwast yw sicrhau dechrau da i'r dydd i'r rheini sy'n awchu am y newyddion diweddaraf o'u bro, o'u gwlad ac yn rhyngwladol - ac yn ystod y cyfnod ansicr hwn, bydd y tîm yn parhau i ymateb i'r her".

Dywedodd Pennaeth Newyddion BBC Cymru, Garmon Rhys: "Ry'n ni'n falch iawn o groesawu Dylan Ebenezer i'r tîm ac yn edrych ymlaen at lawnsio y rhaglen yn ei gwmni fis Ionawr."

Ychwanegodd: "Ar drothwy blwyddyn holl bwysig yng nghyd-destun Brexit, Covid-19, ac etholiadau'r Senedd, mae darparu'r newyddion diweddaraf i gartrefi Cymru'n bwysicach nag erioed."

Pynciau cysylltiedig