Pryderon am effaith oedi cyn cynnal achosion llys
- Cyhoeddwyd
Mae yna ofnau am ddyfodol y system gyfiawnder wrth i ddioddefwyr a diffynyddion orfod aros amser maith am achos llys yn sgil coronafeirws.
Er bod achosion llys wedi ail-ddechrau, mae nifer wedi'u gohirio tan 2023 am nad oedd hi'n bosib cynnal achos llys yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Mae'r rhai sy'n cynrychioli dioddefwyr a ddifynyddion yng Nghymru yn dweud y gallai nifer o achosion ddymchwel oherwydd yr oedi.
Dywed llywodraeth y DU eu bod yn buddsoddi mwy nag erioed yn y system gyfiawnder ac yn agor llysoedd dros dro i gynnal achosion.
Yn niwedd Chwefror 2020 roedd y nifer o achosion oedd i'w cynnal, dolen allanol mewn Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr yn 39,331 ond erbyn diwedd Hydref roedd y nifer wedi codi i 51,595 - cynnydd o 31% mewn wyth mis.
Dywed Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi bod y nifer o achosion sydd wedi'u datrys mewn llysoedd y goron wedi treblu ers y cyfnod clo ym mis Ebrill a'u bod yn buddsoddi £110m i allu cynnal mwy o achosion.
Er bod achosion troseddol yn cael eu cynnal wedi'r cyfnod clo cyntaf, dywed y rhai sy'n gweithio mewn llysoedd bod diffyg ystafelloedd lle gellid cadw pellter cymdeithasol yn golygu bod achosion yn cronni yn ddyddiol.
Mae bargyfreithwyr, cyfreithwyr a'r rhai sy'n cefnogi dioddefwyr, tystion a diffynyddion yn poeni y gall diffynyddion dieuog dreulio blynyddoedd yn y ddalfa ac mae nhw hefyd yn poeni y gallai'r rhai a fyddai o bosib yn euog gerdded yn rhydd.
Yn ôl James Rossiter o'r CBA (Criminal Bar Association): "Mae 'na ofnau y bydd y rhai sy'n dod ag achos ger bron yn cael digon ac yn rhoi'r gorau i'w cwyn.
"Rwyf wedi clywed bod hyn eisoes yn digwydd a dyw hyn ddim yn beth da i gyfiawnder gan y gall drwgweithredwyr gerdded yn rhydd ac anafu rhywun arall."
Dywed Mr Rossiter bod angen llawer mwy o lysoedd dros dro - mae 16 llys dros dro wedi'u ffurfio gan gynnwys un yn Abertawe.
Mae rhai llysoedd wedi bod yn treialu agor am oriau hwy ac mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi wedi bod yn ystyried treialu hynny ar gyfer llysoedd y goron.
Ond mae James Rossiter yn rhybuddio nad yw hynny'n deg ar y rhai sydd â chyfrifoldebau gofal.
Yn ogystal mae mwy o achosion wedi bod yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn ac y mae hynny wedi gostwng rhywfaint o'r nifer, medd y Gwasanaeth Llysoedd.
Ychwanegodd Mr Rossiter bod rheolau pellhau cymdeithasol yn gwneud hi'n anodd i gynnal rhai achosion - fel arfer achosion sy'n gysylltiedig â throseddau difrifol fel troseddau rhyw, caethwasiaeth a masnachu pobl.
Mae'r CBA yn amcangyfrif bod dros 100 o achosion cymhleth heb ddyddiad ar eu cyfer tra bo eraill wedi'u pennu ar gyfer diwedd 2022 a 2023 - achosion sy'n ymwneud â digwyddiadau dwy neu dair blynedd yn ôl.
"Yr hwyaf yr aros, y mwyaf y pryder," medd Mr Rossiter, "ac felly mae pobl yn fwy tebygol o hunan-niweidio. Mae'r cyfan yn bryderus."
Yn y cyfamser mae'r nifer o garcharorion wedi gostwng 10% ers 2019 gan fod llai o bobl yn cael eu dedfrydu.
Os yw carcharorion yn gorfod hunan-ynysu mae'n golygu na all achos gael ei gynnal gan nad yw'r diffynnydd yn gallu mynd i'r llys.
Dywed Llywodraeth San Steffan y byddan nhw'n gwario £337m yn fwy y flwyddyn nesaf er mwyn cyflymu'r broses a chefnogi dioddefwyr - yn ogystal bydd £76m yn rhagor o arian yn cael ei roi i sicrhau fod mwy o achosion yn gallu cael eu cynnal mewn llysoedd a thribiwnlysoedd teulu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd11 Mai 2020
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020